Mae un o'r myfyrwyr cyntaf i gymryd rhan mewn rhaglen flaenllaw yn y sector sydd wedi’i chynllunio gan Goleg Caerdydd a'r Fro i atal pobl ifanc rhag gadael addysg newydd ddechrau astudio am radd.
Roedd Ray Weston yn un o'r criw cyntaf i ymuno â rhaglen Prentisiaeth Iau CAVC yn 2016. Partneriaeth rhwng y Coleg, Cyngor Caerdydd, ysgolion lleol a Llywodraeth Cymru yw’r rhaglen a’i nod yw cynnig llwybr gyrfaol galwedigaethol llawn amser arloesol i bobl ifanc 14 i 16 oed.
Gan deimlo nad oedd yr ysgol ar ei gyfer ef mewn gwirionedd, penderfynodd Ray fanteisio ar y cyfle i ddechrau o'r newydd yn CAVC. Ymunodd â llwybr y Cyfryngau Creadigol, gan ddilyn BTEC Lefel 2 mewn Cyfryngau Creadigol ochr yn ochr â TGAU mewn Mathemateg, Rhifedd a Saesneg Iaith.
Ar ôl cwblhau ei Brentisiaeth Iau ddwy flynedd yn llwyddiannus gyda Chlod a B mewn TGAU Saesneg, roedd Ray yn gallu symud ymlaen i gwrs Cyfryngau Rhyngweithiol BTEC Lefel 3 ar lefel ôl-16. Mwynhaodd y cwrs yn fawr, yn enwedig ymwneud ag animeiddio.
Parhaodd llwyddiant Ray, a chwblhaodd y cwrs Lefel 3 gyda Chlod cyffredinol. Roedd hyn yn ei alluogi i fynd ymlaen i'w faes astudio nesaf – Gradd Sylfaen mewn Ffilm yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, cwrs sy'n cael ei redeg mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru (PDC).
"Fe roddodd y rhaglen Prentisiaeth Iau ddechrau da iawn i mi," meddai Ray. "’Fyddwn i ddim yn gwneud y cwrs rydw i'n ei wneud nawr oni bai am y rhaglen Prentisiaeth Iau.
"Doedd yr ysgol ddim y lle i mi ac rydw i'n falch iawn ’mod i wedi ymuno â'r Prentisiaid Iau pan wnes i. Rydw i'n mwynhau fy astudiaethau Gradd Sylfaen yn fawr nawr ac rydw i'n bwriadu ychwanegu at radd lawn yn PDC mewn dwy flynedd.
"Fe hoffwn i gael gyrfa mewn cynhyrchu ffilmiau neu deledu yn y pen draw."
Dywedodd Andrea Weston, mam Ray: "Rydw i'n ddiolchgar iawn bod y rhaglen Prentisiaeth Iau yn cael ei chynnig. Pe bai Ray wedi aros yn yr ysgol, yn sicr ni fyddai wedi dod mor bell â hyn.
"Fe hoffwn i ddiolch i'r holl staff am bopeth maen nhw wedi'i wneud dros Ray."
Dywedodd Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, Sharon James: "Rydyn ni i gyd mor falch o'r hyn mae Ray wedi'i gyflawni ac rydyn ni’n gwybod bod mwy o lwyddiant i ddod iddo. Myfyrwyr fel Ray wnaeth wneud i ni sefydlu'r rhaglen Prentisiaeth Iau – dydi’r ysgol ddim ar gyfer pawb, ond mewn amgylchedd addas, mae cyfle iddyn nhw ddisgleirio ac mae hynny’n digwydd.
“Llongyfarchiadau Ray, a da iawn i'r holl staff ar draws y Coleg sydd wedi ei gefnogi a'i helpu i gyrraedd y lefel yma.”