Coleg Caerdydd a'r Fro yn ennill Gwobrau Tes FE

23 Hyd 2020

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi cael ei goroni fel y coleg gorau yn y wlad am ei ffocws ar sgiliau digidol a'i gyfraniad at y gymuned leol.

Mae'r gwobrau'n dathlu'r gorau o'r goreuon mewn AB ac enillodd CAVC mewn dau gategori – Defnydd Eithriadol o Dechnoleg mewn Addysgu, Dysgu ac Asesu a Chyfraniad at y Gymuned Leol.

Er bod y beirniaid o'r farn bod safon gyffredinol y defnydd o dechnoleg yn eithriadol uchel, roedd CAVC yn geffyl blaen clir.                      

Nodwyd bod gan y Coleg genhadaeth i rymuso dysgwyr i fod yn arloeswyr y dyfodol a bod ei dîm Dysgu Gwell â Thechnoleg (TEL) wedi creu amrywiaeth o fentrau i gyrraedd y nod hwnnw.

Yn CAVC - Coleg Arddangos cyntaf Microsoft yng Nghymru, a'r unig un - mae pob myfyriwr yn ymgymryd ag elfen o ddysgu ar-lein fel rhan o'u cwrs, gan roi hyblygrwydd ychwanegol i ddysgwyr a set sgiliau ychwanegol ar gyfer cyflogaeth mewn ystod eang o sectorau. Gwnaed argraff ar y beirniaid gan y defnydd o Realiti Rhithwir a chlustffonau realiti estynedig, ffilmiau 360° a thechnoleg sgrin werdd. Cyfeiriwyd hefyd at gynlluniau ar gyfer tŷ ymgolli 3D a model awyrofod 3D.

Cyfeiriodd y beirniaid hefyd at y gwaith a wnaed gan CAVC i ymgorffori sgiliau digidol yn natblygiad proffesiynol ei staff a'i waith i rannu arfer gorau ar draws y sector addysg.

Dywedodd y beirniaid: "Mae'r dull strategol o weithredu yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro yn sicrhau hirhoedledd ac yn canolbwyntio ar y byd y tu hwnt i furiau'r coleg er mwyn darparu budd economaidd ehangach a mwy i'r gymuned."

Y dull hwn o edrych y tu allan i'r sefydliad a enillodd y wobr Cyfraniad at y gymuned leol i CAVC. Mae CAVC yn gwasanaethu'r gymuned fwyaf amrywiol yng Nghymru, ac mae gan y Coleg nod o fynd i'r afael â phrinder sgiliau a chreu cyfleoedd cyflogaeth.

Nododd y beirniaid yng Ngwobrau Tes FE nifer o fentrau arloesol gan y Coleg. Roedd hyn yn cynnwys menter Teuluoedd yn Dysgu Gyda'i Gilydd CCAF, lle mae mwy nag 800 o rieni a phlant wedi dod at ei gilydd ar gyfer cyrsiau pwrpasol lle gallant ddysgu sgiliau llythrennerdd a rhifedd gyda'i gilydd. 

Cyfeiriwyd hefyd at ganolfan REACH+ CAVC i’r myfyrwyr Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL). Mae'r model unigryw hwn wedi trawsnewid y gefnogaeth i'r rhai sydd angen cyrsiau ESOL ac mae bellach wedi'i ehangu i hybiau ledled Cymru. Mae'r ganolfan wedi asesu mwy na 3,000 o ddysgwyr ac wedi rhoi 98% ohonynt mewn darpariaeth, gan ddileu rhestri aros hir a darparu pwynt cyswllt canolog hygyrch i ddefnyddwyr.

Ystyriwyd hefyd bod gwaith y Coleg gydag Ymwybyddiaeth o Ganser i greu adnoddau iechyd ac ymwybyddiaeth o ganser ESOL ar gyfer y gymuned DALlE yn dystiolaeth bellach o'i waith cymunedol gwerthfawr.

Gwnaeth rhaglen Prentisiaethau Iau arloesol CAVC, sy'n cynnig llwybrau galwedigaethol llawn amser i bobl ifanc 14 i 16 oed, a'i ddatblygiad o ddau gampws a rennir yn nwyrain a gorllewin Caerdydd, argraff dda ar y beirniaid hefyd. Dywedwyd bod gwaith CAVC yn “cyfrannu llawer iawn” at y ffaith bod nifer y bobl ifanc Nad Ydynt Mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEET) yng Nghaerdydd wedi gostwng o 4.9% i 1.6%.   

Ychwanegodd y beirniaid: "Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi mabwysiadu dull strategol o weithredu gyda dysgu fel teulu ac ESOL. Mae cyrhaeddiad ei fentrau’n anhygoel, ac mae ymdeimlad mawr o 'beth nesaf?' Mae bob amser yn symud ymlaen, gan edrych y tu allan i'w bedair wal yn gyson."

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro Kay Martin: "Rydyn ni wrth ein bodd yn ennill dwy wobr mor fawreddog. Rydyn ni’n gwasanaethu un o'r cymunedau mwyaf amrywiol yng Nghymru ac yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i greu cyfleoedd i'r cymunedau hynny a'r economi leol ac ehangach. Rydw i mor falch bod y beirniaid wedi cydnabod hynny.

Hefyd, ar adeg pan mae dysgu ar-lein wedi dod yn fwy perthnasol nag erioed, mae cael gwobr am ein hymrwymiad i ddefnyddio technoleg i wella'r broses ddysgu yn newyddion ardderchog.
Mae'r ddwy wobr yn dyst i ymdrech y staff ar draws CAVC – eu gwaith caled, eu hymrwymiad a'u gweledigaeth nhw sydd wedi'u gwobrwyo yma.”