Ffocws ar chwaraeon – cyn fyfyriwr Jason Mohammad yn dychwelyd i CCAF i addysgu’r myfyrwyr am dechnegau cyfweliad

27 Ion 2020

Mae’r darlledwr ar y teledu a’r radio, Jason Mohammad, wedi ymuno â Choleg Caerdydd a’r Fro i roi blas i bobl ifanc ar fywyd yn y byd go iawn mewn cynhyrchu newyddiaduraeth a chyfryngau creadigol.

Mewn dim ond pum diwrnod, bydd 100 o ddysgwyr o academïau pêl rwyd, rygbi, pêl droed a chriced y Coleg, ac o’r cwrs cyfryngau creadigol a rhaglen futsal Clwb Pêl Droed Dinas Caerdydd, yn cael cyfle i brofi sut beth yw bod wyneb yn wyneb â’r cyfryngau, gan eu paratoi ar gyfer gyrfa naill ai mewn chwaraeon proffesiynol neu yn y diwydiant darlledu.

O sut i ddelio â chyfweliadau dan bwysau a chyngor ar sut i roi’r ateb perffaith, i ddatblygu a chreu eu podlediad eu hunain, bydd dysgwyr CCAF yn elwa o flynyddoedd o brofiad y darlledwr a’r cyn fyfyriwr yn CCAF yn y diwydiant.

Yn ymuno â hwy hefyd bydd sêr y byd rygbi a phêl droed proffesiynol, gan gynnwys Sol Bamba o Glwb Pêl Droed Dinas Caerdydd a chwaraewyr Gleision Caerdydd a fydd yn rhannu eu gwybodaeth a’u cyngor hefyd.

Dywedodd yr ymennydd y tu ôl i’r prosiect, Jason Mohammad: “Rydw i wir yn edrych ymlaen at fod yn gweithio gyda Choleg Caerdydd a’r Fro a’i ddysgwyr ar y prosiect yma. Mae wastad wedi bod yn bwysig i mi cael helpu pobl ifanc a datblygu’r sgiliau maen nhw eu hangen i weithio mewn diwydiant mor gystadleuol ac, fel cyn fyfyriwr yn CCAF, mae’n bleser mawr gallu gweithio gyda’r criw yma o unigolion talentog.

“Dechreuodd fy mreuddwyd i o weithio yn y byd teledu a radio yng Ngholeg Glan Hafren wrth wneud fy Lefel A mewn Astudiaethau Cyfryngau yn ôl yn 1990, felly mae cael mynd yn ôl i fy hen goleg i siarad am fy ngyrfa’n hyfryd iawn. Rydw i eisiau ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr o Gymru a phob cwr o’r DU a dangos iddyn nhw bod posib cyflawni pethau mawr mewn unrhyw ddiwydiant drwy weithio’n galed ac ymroi yn llwyr.”

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Kay Martin: “Roedd yn anrhydedd cael croesawu Jason yn ôl i CCAF yr wythnos yma, ac iddo roi cymaint o amser i’n dysgwyr ni. Mae’r math yma o brofiad na fedr arian ei brynu’n ychwanegu cymaint o werth at eu haddysg a bydd o fudd penodol i’r unigolion hynny fydd yn mynd ymlaen i chwarae camp ar lefel broffesiynol a thros eu gwlad.”