Will, myfyriwr o Goleg Caerdydd a’r Fro, yn trechu’r gwrthwynebwyr i ennill Prentis Panel y Flwyddyn Ford

17 Ion 2020

Mae myfyriwr o Goleg Caerdydd a’r Fro, William Davies, wedi ennill teitl Pencampwr Panel y Flwyddyn Ford.

Gwobrau Prentis y Flwyddyn yw un o’r dyddiadau mwyaf ar galendr Ford UK ac maent yn cael eu cynnal gan Skillnet yn Academi Henry Ford yn Daventry. Mae hyfforddeion ifanc gorau’r cawr gweithgynhyrchu moduron yn cystadlu mewn amrywiaeth o dasgau o flaen beirniaid.

Nod y gwobrau yw dathlu llwyddiant a chyflawniadau prentisiaid mewn disgyblaethau amrywiol ar bob lefel. Hefyd mae’r digwyddiad yn dathlu’r gwerthwyr sy’n eu cyflogi ac yn darparu’r gefnogaeth angenrheidiol er mwyn i brentisiaid ffynnu a chymhwyso yn eu dewis faes.

Mae William yn gweithio i werthwr Ford yn y Rhondda, sef DG Weaver. Dywedodd y llanc 17 oed o Dreorci: “Roeddwn i’n hapus iawn o ennill Prentis Panel y Flwyddyn Ford. Doeddwn i ddim yn disgwyl cael fy enwebu hyd yn oed felly roedd yn sypreis mawr.

“Rydw i wir yn mwynhau fy mhrentisiaeth. Rydw i wedi bod â diddordeb mewn ceir erioed ac roeddwn i’n gwybod ei fod yn rhywbeth y byddwn i eisiau ei wneud. O oedran ifanc, roeddwn i eisiau gweithio mewn gweithdy trwsio ac mae’r brentisiaeth yma’n fy helpu i i wneud hynny – rydw i hefyd yn mwynhau fy amser yn y Coleg.

“Heb y brentisiaeth yma dydw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi gallu mynd i wneud yr hyn rydw i eisiau ei wneud. ’Fyddwn i ddim wedi gallu dechrau gweithio gyda phanelau, sy’n rhywbeth roeddwn i wir eisiau ei wneud.

“Fe fyddwn i’n argymell prentisiaethau yn sicr. Doeddwn i ddim yn hoff iawn o’r ysgol fel pobl eraill – fe gefais i gymwysterau ond dim ond TGAU am nad oeddwn i eisiau aros i wneud Lefel A. Fe wnes i benderfynu gwneud prentisiaeth yn lle Lefel A ac rydw i’n falch ’mod i wedi gwneud hynny.”

Dywedodd Cyfarwyddwr DG Weaver, Jonathan Weaver: “Ers y diwrnod cyntaf roedd yn amlwg bod gan Will y ddawn a’r gallu i ddysgu rydyn ni’n chwilio amdanyn nhw mewn prentis, ar gyfer y gweithdai neu’r adran werthu. Mae’n anodd mesur cynnydd prentis yn aml iawn ond, yn achos Will, fe ddywedodd aseswr Skillnet mai Will oedd y prentis gorau iddo’i weld erioed, gan ein hannog ni i’w enwebu am wobr Prentis y Flwyddyn.

“Roedd yr aelodau o staff sy’n gweithio’n agos gyda Will yn ei ganmol i’r cymylau ac roedd ei allu wedi gwneud argraff arnyn nhw, yn derbyn cyfarwyddiadau ac wedyn yn gweithio’n annibynnol. Does ganddo ddim ofn herio’i hun.

“Mae DG Weaver Ltd wedi cael llwyddiant yng Ngwobrau Prentisiaeth Ford yn y gorffennol ac rydyn ni’n eithriadol falch bod perfformiad Will wedi cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol. Yn fwy na dim, gobeithio ei fod yn falch ohono’i hun oherwydd mae’n boblogaidd iawn ac mae pawb wrth eu bodd gyda’i lwyddiant. Mae’n llawn haeddu’r anrhydedd.”

Mae prentisiaid CCAF wedi ennill Gwobrau Prentis y Flwyddyn Ford am y ddwy flynedd ddiwethaf yn olynol. Y llynedd enillodd Charlotte Ward wobr Prentis y Flwyddyn Ford am Atgyweirio a Phaentio Cerbydau.

Dywedodd Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Llongyfarchiadau i William – rydyn ni mor falch ohono. Mae ennill Prentis y Flwyddyn Ford yn dyst i waith caled a phenderfyniad William, a’r holl gefnogaeth mae wedi’i chael gan ei ddarlithwyr i’w hyfforddi i gyrraedd y safon yma.”