Canmoliaeth i’r cyfleoedd dysgu bywyd real sy’n cael eu cynnig gan Goleg Caerdydd a’r Fro fel rhai o’r goreuon yn y DU

16 Ion 2020

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi cael ei gydnabod fel un o golegau gorau’r DU am ddarparu cyfleoedd dysgu real, nid dim ond realistig, i lawer o’i ddysgwyr.

Mae’r Coleg wedi cael ei ganmol yng Ngwobrau Beacon Cymdeithas y Colegau yng Ngwobr Edge am Ragoriaeth yn y categori Dysgu Byd Real. Yn cael eu hadnabod yn eang fel ‘Oscars y Colegau’, mae Gwobrau anrhydeddus Beacon yn cydnabod sefydliadau Addysg Bellach sy’n mynd yr ail filltir gyda’u gwasanaeth i ddysgwyr ac i’r gymuned ehangach.

Mae CCAF yn gweithredu fel coleg cyfan i sicrhau bod ei ddarpariaeth yn ysbrydoledig ac yn sbarduno dyhead. Mae’r Coleg yn ceisio cyflwyno hyfforddiant addysg a sgiliau galwedigaethol ac academaidd yr 21ain Ganrif yn seiliedig ar alw, gan gefnogi datblygiad economaidd, a chreu ffyniant cymunedol real a chyfleoedd busnes newydd.

I’r diben hwn, mae CCAF wedi ailgynllunio ei gwricwlwm er mwyn cynnwys gweithgareddau ystyrlon a sicrhau bod Addysg Bellach, Addysg Uwch a Dysgu Seiliedig ar Waith yn cael eu cynnig i gyd i ddiwallu anghenion y Brifddinas Ranbarth. Mae wedi datblygu cysylltiadau â chyflogwyr ac arbenigwyr lleol i sicrhau bod y dysgwyr yn cael profiad gwaith gwerthfawr a bod dysgwyr galwedigaethol yn cael eu paratoi gyda gwybodaeth a sgiliau entrepreneuraidd a fydd yn ychwanegu gwerth ar unwaith i unrhyw gyflogwr.

Mae cyfleusterau’r Coleg o safon diwydiant ac yn gwbl fodern, ac mae llawer yn gweithredu fel busnesau proffesiynol. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr ddysgu a hyfforddi mewn amgylcheddau real, nid dim ond realistig, gan fynd i’r afael â phroblemau bywyd real a dysgu gan arbenigwyr diwydiant hefyd.

Mae’r rhain yn cynnwys salonau a sbas, bwytai, becws a chigydd, Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd, Canolfan Foduro, y Ganolfan Ryngwladol enwog ar gyfer Hyfforddiant Awyrofod, Hwb Creadigol a chanolfannau adeiladu. Hefyd mae’r myfyrwyr yn cael eu hannog i gael profiad gwaith a chymryd rhan mewn briffiau byw gyda chyflogwyr lleol a pherffeithio eu sgiliau drwy gymryd rhan mewn cystadlaethau.

Mae canlyniadau’r dull hwn o weithredu i’w gweld yn glir. Y llynedd, aeth bron i 90% o ddysgwyr CCAF ymlaen i ddysgu pellach neu gyflogaeth o fewn tri mis i gwblhau eu cwrs, ac aeth 850 ymlaen i astudiaeth lefel prifysgol.

Am y ddwy flynedd ddiwethaf, mae CCAF wedi cyflwyno mwy o gystadleuwyr i gystadleuaeth WorldSkills nag unrhyw goleg arall yng Nghymru – mwy na 100. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r Coleg wedi anfon myfyrwyr i gystadlu ym Mrasil a Budapest ac, yn 2019, cynrychiolodd dau ddysgwr y DU yn rowndiau terfynol WorldSkills yn Rwsia.

Mae’r Rhaglen Prentisiaeth Iau, sy’n cynnig llwybrau galwedigaethol i ieuenctid 14 i 16 oed, wedi cyfrannu at ostyngiad yn nifer yr ieuenctid nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghaerdydd o 8% yn 2012-12 i 1.6% yn 2017-18.

Mae’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol i gadw’r ddarpariaeth yn gyfredol ac yn berthnasol i anghenion y rhanbarth yn cynnwys datblygu gwesty hyfforddi a chanolfan weithgynhyrchu uwch newydd ym Mro Morgannwg.

Dywedodd Kay Martin, Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro: “Mae’n wych cael y ganmoliaeth yma gan banel Gwobrau Beacon.

“Yn CCAF rydyn ni’n credu’n gryf bod rhaid i ni ddarparu profiadau dysgu real er mwyn creu pobl fedrus a chyflogadwy – nid yw amgylcheddau realistig yn ddigon. Mae’n rhaid iddyn nhw fod yn real.

“Mae’r ganmoliaeth yma’n adlewyrchu gwaith rhagorol ein staff diwydiant arbenigol ni ar draws y Coleg ac rydw i’n eithriadol falch ohonyn nhw i gyd. Mae hefyd yn dangos sut mae cyflogwyr ar draws y rhanbarth wedi gwneud ymdrech enfawr i ddarparu profiadau rhagorol ar gyfer ein dysgwyr ni ac rydw i’n diolch iddyn nhw am hynny.”

(Credyd llun AoC)