Mae gan Coleg Caerdydd a'r Fro gynlluniau cyffrous i gefnogi 'r diwydiant lletygarwch lleol ac eisiau eich barn chi

25 Medi 2019

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion cyffrous i gael gwesty hyfforddi ar gyfer Rhanbarth y Brifddinas - ac mae amser o hyd ichi gymryd rhan.

Mae gan y Coleg adran Lletygarwch hirhoedlog a llwyddiannus sy'n cynnig, nid yn unig cyrsiau llawn amser a rhan amser yn y Coleg, ond hefyd prentisiaethau ar gyfer cyflogwyr mewn gwestai, sefydliadau arlwyo a sbas iechyd ledled Cymru.

Mae'r Coleg yn cynnig mwy na gwasanaeth blaen tŷ ac arlwyo "traddodiadol" - mae hefyd yn cynnwys meysydd arbenigol fel pobi a bwtsiera yn ogystal â Rheoli Sba a therapïau harddwch.

Mae gan y Coleg eisoes fwyty hyfforddi gweithredol - y Dosbarth - http://www.theclassroom.wales/cy/ sydd wedi creu enw da iddo'i hun, yn cael adolygiadau proffesiynol ac yn cystadlu yn erbyn marchnad bwytai Caerdydd. Mae cogyddion seren Michelin yn cynnal "nosweithiau preswyl" yn y Dosbarth.

Mae’r coleg hefyd yn cynnig profiad Sba llawn gyda jacŵsi, ystafell stêm, sawna a thriniaethau gwallt a harddwch traddodiadol drwy urbasba http://urbasba.co.uk/.

I ychwanegu at y profiad hwn a’i feithrin, mae'r Coleg wedi bod â chynlluniau tymor hir i greu cyfleuster hyfforddi lletygarwch "go iawn", a'r ysbrydoliaeth am hyn yw'r Ysgol Westy enwog yn Sydney https://hotelschool.scu.edu.au/.

Yn ystod y pump i ddeng mlynedd diwethaf, mae diwydiant lletygarwch Caerdydd a de Cymru wedi tyfu'n syfrdanol, gan gynnwys y sefydliadau "canolfannau gwesty" a gofyn cynyddol am fwy o le. Mae hyn yn ei dro wedi creu gofyn am gyflogaeth yn y diwydiant, ac mae'r Coleg angen ymateb i hyn drwy gynnig y sgiliau ymarferol "bywyd go iawn" y mae'r cyflogwyr yn gofyn amdanynt gan ein myfyrwyr.

Mae'r Coleg nawr yn archwilio'r posibiliadau o weithio gyda phartner i sefydlu gwesty hyfforddi yn ne Cymru. Bydd y partner, gweithredwr gwestai sefydledig a fydd yn cael ei ddewis drwy broses gaffael gyhoeddus agored, yn rhedeg a rheoli'r gweithrediadau masnachol, tra bod y Coleg yn rheoli ac yn hyfforddi'r staff sy'n gweithio yn y gwesty yn ogystal â lleoliadau myfyrwyr, hyfforddeion a phrentisiaid.

Mae'r cyrsiau nodweddiadol a fydd yn cael eu cynnig yn cynnwys y canlynol:

Cymwysterau

• Prentisiaethau yn cynnwys Uwch Brentisiaethau
• Graddau sylfaen a HND
• Graddau gyda Phrifysgolion partner
• NVQs a VROs

Meysydd Pwnc

• Cynhyrchu Bwyd
• Gwasanaeth Bwyd
• Celfyddydau Coginio
• Cadw Trefn a glanhau
• Blaen tŷ
• Gwasanaethau cwsmer a gweinyddiaeth fusnes
• Therapïau harddwch
• Lletygarwch a rheoli Sba

Mae'r Coleg yn croesawu sylwadau ar y cynigion er mwyn ein galluogi i elwa cymaint ag y bo modd ar gyfer y diwydiant lletygarwch yn ogystal â dysgwyr yn y dyfodol.
Anfonwch eich ymateb drwy e-bost at communications@cavc.ac.uk ynghyd ag unrhyw sylwadau erbyn 4pm ar 1 Hydref 2019.