Cynhaliodd Coleg Caerdydd a'r Fro'r elfen Gymreig o Ddiwrnod Canlyniadau BTEC cyntaf erioed y DU - dathliad o gymhwyster sy'n ddewis amgen i Safon Uwch, ond un sy'n gyfwerth ag ef.
Gellir astudio cyrsiau BTEC law yn llaw â Safon Uwch, ac yn aml maent yn fwy ymarferol, yn canolbwyntio ar feysydd galwedigaethol. Gyda ffocws ar asesiadau parhaus yn hytrach nag arholiadau, gall BTEC fod yn gyfwerth â thri phwnc Safon Uwch a sicrhau bod myfyrwyr yn mynd ymlaen i'r brifysgol - dewisodd 10% o ymgeiswyr a lwyddodd i gael lle yn y brifysgol y llwybr BTEC.
Coleg Caerdydd a'r Fro yw un o'r darparwyr BTEC mwyaf yn y wlad - yn 2018-19 astudiwyd 11,000 o gyrsiau BTEC yng Nghymru, gyda 2,000 o'r rheiny yn cael eu darparu gan CAVC.
Un enghraifft o'r fath yw Tasnim Bhuiyan, a symudodd o'r Eidal i Gaerdydd pan oedd yn 16 oed i astudio cwrs Saesneg cyn mynd ymlaen i astudio cwrs BTEC mewn Seiberddiogelwch. Wedi cwblhau'r cwrs hwnnw'n llwyddiannus, mae bellach wedi cael cynnig lle i astudio ym Mhrifysgol De Cymru.
"Mae'r cyfuniad o astudio ymarferol a damcaniaethol yn ddefnyddiol iawn - fe wnes i fwynhau'r profiad a byddwn yn sicr yn argymell BTEC i bobl eraill," dywedodd.
Mae un o'i gyd-fyfyrwyr ar y cwrs BTEC Seiberddiogelwch, Lewis Burrows wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr i astudio Diogelwch Cyfrifiadurol a Gwaith Fforensig.
"Ni fyddwn wedi gallu gwneud hyn pe bawn wedi astudio'r llwybr Safon Uwch cyffredin ac aros yn yr ysgol," dywedodd Lewis. "Mae BTEC yn llawer mwy ymarferol ac rydych mewn coleg - rydych yn dysgu llawer mwy.
"Roeddwn yn nerfus am gasglu fy nghanlyniadau ond cefais ragoriaeth driphlyg a D*, nad oeddwn yn gwybod bod posibl ei gael ar y lefel hon, felly rwy'n hapus iawn, iawn."
Mae cyrsiau BTEC ar gael mewn ystod o feysydd pwnc, o Fusnes a TG i feysydd Creadigol, Chwaraeon ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Cafodd Aaron Tyner, capten Academi Bêl-droed CAVC yn ystod 2018-19, Deilyngdod triphlyg ac mae'n mynd ymlaen i Brifysgol De Cymru i astudio Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon.
Dywedodd: "Roedd cael dim arholiadau ond llawer o waith cwrs yn gwneud bywyd yn haws. Rwyf eisiau mynd i mewn i hyfforddi, yn enwedig hyfforddi pêl-droed, a gwnaeth y cwrs hwn fy helpu i gael lle yn y brifysgol - byddwn yn argymell BTEC 100%."
Mae Aaliyah Martinson ar fin mynd ymlaen i astudio Chwaraeon Lefel 3 yn CAVC.
"Mae'r ffordd y caiff BTEC ei rannu ac yn manylu ar bob maes yn ei wneud yn llawer haws ac yn fwy trylwyr, yn hytrach na rhuthro i wneud Safon Uwch," dywedodd Aaliyah. "Rwy'n credu eich bod yn dysgu mwy fel hyn.
"Mae fy BTEC wedi bod yn bleser pur; rwyf wedi gwneud ffrindiau mor dda ac rwyf wedi dysgu llawer a fydd yn fy helpu gyda fy nyfodol."
Mae Jessica Whelan yn ofalwraig ifanc a lwyddodd i gael Rhagoriaeth driphlyg yn ei chwrs BTEC Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae hi'n awr yn mynd ymlaen i astudio Nyrsio Plant yn y brifysgol.
"Roedd gennyf fwy o ddiddordeb mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn hytrach na gwneud Safon Uwch mewn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth," dywedodd Jessica. "Rwyf wedi mynd o gael graddau C yn fy TGAU i gael Rhagoriaeth driphlyg yn y coleg. Mae pobl yn credu bod BTEC yn werth llai na Safon Uwch ond mewn gwirionedd, mae'r un fath ac yr un mor anodd â Safon Uwch ond yn fwy manwl - byddwn yn sicr yn ei argymell."
Dywedodd Kay Martin, Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro: "Rydym yn falch o gynnal a dathlu'r Diwrnod Canlyniadau BTEC cyntaf yn y DU. Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi bod yn darparu cymwysterau BTEC ers sawl blwyddyn i filoedd o bobl ac rydym wedi gweld yr effaith gadarnhaol y maent yn eu cael.
"Rydym wir yn credu ym mhwysigrwydd llwybrau academaidd a galwedigaethol, ac mae cyrsiau BTEC yn enghraifft wych o hyn. Mae cyrsiau BTEC, a werthfawrogir yn fawr gan gyflogwyr a sefydliadau Addysg Uwch fel ei gilydd, yn datblygu pobl fedrus a chyflogadwy sy'n mynd ymlaen i wneud cynnydd, boed yn ddechrau gyrfa neu'n mynd i'r brifysgol."