Mae myfyrwyr coleg wedi gwella eu rhagolygon gyrfa drwy ymrwymiad parhaus Prifysgol Caerdydd i brosiect rhyngwladol mawr.
Mae Project SEARCH yn cynnig swyddi a chyfleoedd dysgu i bobl ifanc sydd ag anableddau a/neu awtistiaeth.
Mae un ar ddeg o fyfyrwyr Coleg Caerdydd a’r Fro (CAVC) wedi cwblhau tair interniaeth 10 wythnos o hyd ar draws y Brifysgol gyda chymorth gan CAVC a staff Asiantaeth Cyflogaeth gyda Chefnogaeth ELITE.
Fe aeth yr interniaid a’u teuluoedd i seremoni raddio ym Mhrifysgol Caerdydd i ddathlu eu llwyddiant.
Yn y seremoni, dywedodd Dane Griffiths, a weithiodd gyda’r tîm cynnal a chadw chwaraeon yn Ystadau: “Mae Project SEARCH wedi fy helpu i ddeall y sgiliau gwaith gwahanol a beth sydd ei angen wrth weithio.
“Rydw i wedi magu hyder a gweithio gyda phobl wahanol. Tra’n gweithio gyda’r tîm tiroedd, rydw i wedi mwynhau pob rhan o’r swydd ond y gwaith marcio tiroedd oedd orau gen i.
“Diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect eleni, yn y gorffennol ac yn y dyfodol.”
Roedd myfyrwyr yn gweithio mewn adrannau gwahanol ar draws y Brifysgol gan gynnwys yr adran Adnoddau Dynol, Ystadau a’r Ganolfan Genedlaethol dros Iechyd Meddwl.
Bydd yr interniaid nawr yn chwilio am gyflogaeth lle gallant roi’r sgiliau maent wedi’u datblygu ar waith.
Dywedodd Dr Samantha Hibbitts, Deon Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, yn y seremoni: “Mae wedi bod yn gyfle gwych, ac rydym wedi cael cymaint o adborth cadarnhaol gan yr holl staff sy’n rhan o’r prosiect.
“Rydym yn falch iawn mai ni yw’r cyflogwr cyntaf yng Nghymru i gymryd rhan ac rydym yn falch o’r interniaid sydd wedi bod gyda ni ers 2016. Rydym mor falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni.”
Mae Project SEARCH, menter fyd-eang a ddechreuodd yn yr Unol Daleithiau, yn cael ei ariannu yng Nghymru gan brosiect ehangach Ymgysylltu i Newid.