Dathlu llwyddiant y myfyrwyr Parod am Yrfa yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro

27 Meh 2019

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi cynnal digwyddiad ar gyfer 98 o fyfyrwyr wrth iddynt ddathlu graddio o’r rhaglen Parod am Yrfa gyda’u ffrindiau, eu rheini a’u mentoriaid.

Mae’r rhaglen, sy’n cael ei gweithredu yn CCAF gan y Rheolwr Parod am Yrfa, Tracy Bird, yn rhan o elusen ledled y DU sy’n cysylltu cyflogwyr ag ysgolion a cholegau i agor y byd gwaith i bobl ifanc 16 i 19 oed. Gall dysgwyr yn y Coleg wneud cais i ymuno â’r rhaglen i redeg ochr yn ochr â’u cwrs a chael mentora, dosbarthiadau meistr, ymweliadau gweithle ac interniaethau.

Cyflwynwyd gwobrau hefyd. Enillwyd Gwobr Cyflawniad Myfyriwr Parod am Yrfa 2019 gan Shannon Balch am oresgyn nerfusrwydd i ddechrau a dangos bod ganddi benderfyniad i lwyddo.

Dywedodd Shannon: “Rydw i wrth fy modd ac yn hapus – doeddwn i ddim yn disgwyl ennill y wobr yma. Mae Parod am Yrfa wedi bod o help mawr i mi, yn enwedig gyda fy hyder.”

Dewiswyd Ahmed Hagomer fel Myfyriwr y Flwyddyn Cyffredinol Parod am Yrfa am fod yn esiampl ragorol i’w gyfoedion ac am ei benderfyniad. Gwnaeth Ahmed argraff ar ei diwtoriaid a’i fentor drwy benderfynu dysgu Ffrangeg drwy gyfrwng y Saesneg – iaith sydd hefyd yn gymharol newydd iddo.

“Rydw i’n gyffrous am fod wedi ennill,” meddai Ahmed. “Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i’n ennill.

“Rydw i’n gwerthfawrogi’r gefnogaeth rydw i wedi’i chael gan Parod am Yrfa. Fe hoffwn i ddiolch i fy mentor i, Fero, a hefyd fe hoffwn i ddiolch i Tracy Bird a Chynorthwy-ydd Parod am Yrfa, Danielle Halford, gan eu bod wedi darparu profiad dysgu gwych.”

Enillwyd Gwobr Meddwl am Adeiladu Parod am Yrfa 2019 gan Jack Evans. Mae Jack wedi gwneud argraff wych ar ei fentor a’i diwtor gyda’i waith caled a’i agwedd bositif, a gwnaeth gyflwyniad i Estyn yn ystod arolwg diweddar y Coleg.

“Doeddwn i ddim wir yn disgwyl ennill,” meddai Jack. “Rydw i wedi bod yn gweithio gyda fy mentor yn ystod y misoedd diwethaf, gan fagu hyder a gweld beth ydw i eisiau ei wneud yn y dyfodol. Hefyd rydw i wedi bod yn cysylltu gyda Tracy Bird ac yn meithrin fy sgiliau.

“Fe hoffwn i ddiolch i Tracy, Danielle Halford a fy mentor am eu holl waith caled ac am gredu yn’o i – rydw i’n meddwl mai dyna’r peth allweddol.”

Aeth Gwobr Cyflogwr y Flwyddyn Parod am Yrfa CCAF i LCB Construction am eu holl waith yn cefnogi’r rhaglen ac am roi profiad amhrisiadwy i’r myfyrwyr a chyngor am y byd gwaith.

Dywedodd Rheolwr Rhanbarthol Arweiniol Parod am Yrfa ar gyfer Cymru a’r Gorllewin, Simon Page: “Rydyn ni’n gweithio gyda rhyw 400 o golegau ac ysgolion, gan ddod i gysylltiad â degau ar filoedd o bob math o fyfyrwyr – mae wir yn amser cyffrous. Ond rydyn ni bob amser yn rhoi Coleg Caerdydd a’r Fro ar y brig oherwydd gwaith caled ac ymroddiad ei reolwyr a Tracy Bird.

“Mae fel teulu bob tro rydw i’n dod yma a dydw i ddim yn credu bod unrhyw un fel Tracy Bird ym mhob un o’r 40 o ysgolion a cholegau rydyn ni’n gweithio gyda nhw. Mae hi’n wych.”

Dywedodd Rheolwr Parod am Yrfa CCAF, Tracy Bird: “Mae’n anrhydedd ac rydw i mor falch o fod yn dathlu llwyddiant ein dysgwyr ni. Rydyn ni wedi gweld llawer o straeon llwyddiannus gan ddysgwyr Parod am Yrfa yn y coleg yn 2019.

“Fel adran rydyn ni wedi symud i faes Llywddiant Dysgwyr i greu cyflogadwyedd ar gyfer pawb. Mae hyn wedi arwain at weithio’n agos gyda’r Cydlynydd Cyflogadwyedd a Chyfoethogi, Lisa Anne Jones, i ddatblygu rhaglen gyfoethogi’r Coleg ac mae gennym ni lawer o syniadau cyffrous ar gyfer symud ymlaen.”