Mae Corfflu Cadetiaid Cyfun (CCC) Coleg Caerdydd a’r Fro wedi cynnal ei Orymdaith Penwisg Gatrodol gyntaf yn ei bencadlys ar Gampws y Coleg yn y Barri.
Arolygwyd y cadetiaid gan Gapten Nigel Stokes o Gatrawd 157 y Corfflu Logisteg Brenhinol, sef y gatrawd y mae’r CCC yn aelod ohoni, ar orymdaith i nodi 75 o flynyddoedd ers Glaniadau D-Day. Cyflwynodd Capten Stokes beret glas a bathodyn cap y Corfflu Logisteg Brenhinol i bob cadet.
Dywedodd Darlithydd Gwasanaethau Cyhoeddus yn CCAF a Chomander Carfan y CCC, Tom Jones: “Mae CCC CCAF wedi cynnal ei Orymdaith Penwisg Gatrodol gyntaf. Mae pob cadet wedi gweithio’n galed ar ymddygiad milwrol, ymddangosiad, cywirdeb anelu a sgiliau gwaith tîm er mwyn derbyn y Benwisg Gatrodol; y beret glas a bathodyn cap y Corfflu Logisteg Brenhinol.
“Mae’r berets yn arwydd o hunaniaeth teulu, traddodiad a pharch a nawr mae pob un cadet wedi ennill ei le yn rhengoedd y Corfflu Logisteg Brenhinol.
“Mae’r cadetiaid yn gorymdeithio’n wythnosol fel gweithgaredd cyfoethogi sy’n hybu ac yn datblygu arweinyddiaeth, gwaith tîm, cyfrifoldeb a hunanhyder yn ychwanegol at ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol. Bydd ein digwyddiad mawr nesaf yn wersyll preswyl am wythnos ym Marics Penalun yng Ngorllewin Cymru, lle bydd y cadetiaid yn cymryd rhan mewn ymarferion milwrol, cywirdeb anelu a gweithgareddau antur, a chystadlaethau ar thema filwrol gyda mwy na 300 o gadetiaid o bob cwr o’r DU.”
Dywedodd Capten Stokes: “Fel y Gatrawd y mae CCC CCAF yn aelod ohoni, Catrawd 157, gwahoddwyd y Corfflu Logisteg Brenhinol i gymryd rhan yn seremoni gyflwyno Bathodyn Cap CCC CCAF a gynhaliwyd ar 5 Mehefin 2019. Roeddwn i’n falch iawn o gael fy mhenodi fel y Swyddog Archwilio i gynrychioli’r Gatrawd yn y digwyddiad mwyaf anrhydeddus yma ar galendr y cadetiaid hyd yma.
“Dangosodd y cadetiaid eu bod yn falch iawn o fod yn aelodau o’r Corfflu Cadetiaid Cyfun ac roedden nhw’n hynod drwsiadus ar gyfer yr orymdaith.
“Roedd yn fraint ac yn anrhydedd gallu cyflwyno penwisg y Corfflu Logisteg Brenhinol i’r cadetiaid ar ddiwrnod teimladwy iawn, gyda’r DU yn nodi cofio 75 mlynedd ers Glaniadau D-Day. Wrth weld y cadetiaid yn gwisgo eu Berets yn llawn balchder, rhaid llongyfarch CCC CCAF ar yr holl waith caled sydd wedi cael ei wneud i gyrraedd y safon o hyfforddiant milwrol a gafodd ei harddangos.
“Yn olaf fe hoffwn i groesawu holl gadetiaid CCC CCAF i deulu’r Corfflu Logisteg Brenhinol ac rydw i’n edrych ymlaen at wylio carfan CCC y Corfflu Logisteg Brenhinol yn mynd o nerth i nerth yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.”