Coleg Caerdydd a’r Fro yw’r coleg cyntaf yng Nghymru i gael y golau gwyrdd gan yr Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA) sy’n ei alluogi i gynnig a dyfarnu mwy o gyrsiau Addysg Uwch yn dilyn Adolygiad Gateway llwyddiannus.
Mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw (14eg Mehefin) yn dilyn adolygiad cynharach, mae’r QAA wedi cadarnhau bod darpariaeth CAVC yn cyrraedd yr holl safonau academaidd disgwyliedig. Nododd yr Asiantaeth bod hyder bod profiad academaidd y myfyrwyr yn cyrraedd y safonau ansawdd.
Fel y coleg mwyaf yng Nghymru, ac un o’r rhai mwyaf yn y DU, mae CAVC eisoes yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau Addysg Uwch i gannoedd o bobl bob blwyddyn, gan eu cynnal mewn partneriaeth â phrifysgolion blaenllaw yn y pynciau.
Bydd cymeradwyaeth y QAA yn golygu bod y Coleg yn awr yn gallu cynnig a dyfarnu ei gyrsiau Addysg Uwch galwedigaethol ei hun ar Lefel 4 a 5. Bydd yn gweithio gyda chyflogwyr ledled y Brifddinas Ranbarth i adnabod meysydd o angen a phrinder sgiliau ac yn datblygu darpariaeth benodol er mwyn rhoi sylw i’r rhain a rhoi hwb i ddatblygiad economaidd.
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Kay Martin: “Mae gan y Coleg rwydwaith cadarn o bartneriaid prifysgol eisoes ac rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o gymwysterau prifysgol gyda nhw, o raddau sylfaen i raddau llawn a chymwysterau ôl-radd. Fe fyddwn ni’n parhau i weithio’n agos gyda’r prifysgolion yma wrth i ni ehangu ein cyrsiau Addysg Uwch.
“Bydd cymeradwyaeth y QAA yn galluogi i ni ehangu’r ddarpariaeth allweddol yma ymhellach. Mae’n gyfle i ni gynnig cyrsiau mwy fforddiadwy a galwedigaethol oherwydd bydd y myfyrwyr yn gallu arbed drwy astudio yn lleol, yn hytrach na thalu costau symud i brifysgol. Bydd cyflogwyr yn elwa hefyd oherwydd bydd gallu CAVC i ddatblygu rhaglenni galwedigaethol pwrpasol ar Lefelau 4 a 5 yn helpu i lenwi’r bwlch sgiliau ac yn cadarnhau ein hymrwymiad i ddatblygu sgiliau lefel uwch i ddiwallu anghenion a chreu datblygiad economaidd.”
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: “Llongyfarchiadau i Goleg Caerdydd a’r Fro ar ei gais llwyddiannus i gyflwyno mwy o gymwysterau Addysg Uwch, sy’n cymeradwyo safonau academaidd uchel y Coleg.
“Mae’r ffaith bod y Coleg yn gallu darparu cymwysterau ehangach yn newyddion da i fyfyrwyr, staff a chyflogwyr sy’n recriwtio gweithwyr medrus o’r Coleg, a fydd nawr yn cynnwys ymgeiswyr lefel HND neu radd alwedigaethol.”
Beth fydd cymeradwyaeth y QAA yn ei olygu:
I staff Coleg Caerdydd a’r Fro: Bydd cyfle i’r staff addysgu cyrsiau lefel uwch. Bydd staff sy’n cyflwyno cyrsiau Addysg Uwch yn cael cefnogaeth i ddod yn Gymrodyr yr Academi Addysg Uwch (Advance HE) ac yn cael cyfle i gwblhau prosiectau ymchwil bychain.
I fyfyrwyr CAVC: Mwy o gyrsiau AU a fydd yn fwy fforddiadwy, gan arbed arian i ddysgwyr o gymharu ag astudio gradd prifysgol israddedig. Hefyd bydd y myfyrwyr yn gallu cael cyllid myfyrwyr i dalu costau ac yn gallu astudio’n llawn amser neu’n rhan amser.
I gyflogwyr yn y rhanbarth: Drwy allu creu rhaglenni penodol ar Lefelau 4 a 5, bydd y Coleg mewn sefyllfa well i ymateb i anghenion cyflogwyr a datblygu cyrsiau addas i’w hanghenion ar gyfradd gystadleuol. Bydd y Coleg yn mapio hyn yn erbyn ei fframwaith prentisiaethau, gan roi cyfle i gyflwyno darpariaeth fwy hyblyg.
Gellir dod o hyd i'r adroddiad yma.