Coleg Caerdydd a’r Fro yn rhoi perfformiad o Disco Inferno

13 Meh 2019

Mae myfyrwyr o bob rhan o Goleg Caerdydd a’r Fro wedi cydweithio i gyflwyno perfformiad o sioe gerdd jiwcbocs y 1970au, Disco Inferno.

Cafodd ail berfformiad cerddorol blynyddol y myfyrwyr ei gyfarwyddo gan y Cydlynydd Cyfoethogi a Menter Lisa Anne Jones gyda’r Cyfarwyddwr Symudiad Emma-Jayne Parker.

Roedd y cast yn cynnwys myfyrwyr o amrywiaeth eang o gyrsiau, o Gelfyddydau Perfformio i Beirianneg Awyrennau, a bu’r dysgwyr Gwallt a Harddwch yn steilio’r gwalltiau ac yn gwneud y colur theatrig. Bu’r myfyrwyr Paentio ac Addurno yn helpu i addurno’r set a bu’r Gweinyddwr Gweithredol, Jayne Mills, yn gweithio ym mlaen y tŷ gyda staff amrywiol eraill o CAVC yn helpu tu ôl i’r llenni.

Cynhaliwyd Disco Inferno am dair noson yn Theatr Michael Sheen y Coleg fel rhan o raglen gyfoethogi CAVC. Bu’r myfyrwyr yn ymarfer am wyth wythnos y tu allan i’w hastudiaethau er mwyn perffeithio eu perfformiadau, gan gynnwys dod i mewn dros wyliau’r Pasg.

Talodd y gwaith caled ar ei ganfed gydag adolygiadau rhagorol. Dywedodd Gary a Cathy Chivers: “Beth allwn ni ddweud, ar wahân i wych, rhagorol, anhygoel!”

Dywedodd Cadeirydd Llywodraethwyr CAVC, Geraint Evans: “Noson hwyliog, fywiog yn llawn adloniant – fe wnes i fwynhau’n fawr! Mae’n amlwg bod y staff a’r dysgwyr oedd yn ymwneud â’r perfformiad wedi gwneud llawer iawn o ymdrech.”

Mwynhaodd y myfyrwyr y profiad hefyd. Dywedodd dysgwr Celfyddydau Perfformio, Shaun Marsden: “Fe wnes i fwynhau bod yn rhan o’r sioe bob eiliad oeddwn i ynddi.”

Ychwanegodd myfyriwr sy’n astudio am Radd Sylfaen mewn Celfyddydau Perfformio, Rachel Price: “Roedd gweithio ar Disco Inferno yn brofiad anhygoel. Roedd yn gyfle gwych i’r myfyrwyr Addysg Uwch ac Addysg Bellach gydweithio ar brosiect – fe wnes i ddysgu sgiliau newydd a chreu atgofion gwych.”