Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn lansio gwefan newydd yr wythnos hon a fydd yn rhoi gwell profiad i'w holl gwsmeriaid.
CAVC yw'r coleg mwyaf yng Nghymru, a'r pedwerydd mwyaf yn y DU, ac mae'n darparu addysg i oddeutu 30,000 o ddysgwyr pob blwyddyn. O bobl ifanc sy'n gadael yr ysgol ac yn symud ymlaen i astudio cyrsiau coleg a phrifysgol, i oedolion sy'n dysgu a chyflogwyr ar draws y Brifddinas-Ranbarth, mae'r Coleg yn darparu addysg i ddysgwyr o bob rhan o'r sbectrwm addysg bellach ac addysg uwch.
Bydd gwefan newydd Coleg Caerdydd a'r Fro, sydd ar gael yn www.cavc.ac.uk, yn caniatáu i ddefnyddwyr:
Dod o Hyd i Gwrs
Mae'r safle newydd yn defnyddio peiriant chwilio dwyieithog pwerus sy'n hawdd ei ddeall a'i ddefnyddio i ddod o hyd i gwrs neu i chwilio yn ôl diddordebau unigolyn, yna mae posib hidlo'r canlyniadau i ddod o hyd i'r cwrs iawn ar eu cyfer. Neu, gall pobl bori yn ôl maes pwnc i ddod o hyd i'r cwrs maent yn chwilio amdano cyn gwneud cais ar-lein.
Darganfod mwy
Bydd gwybodaeth fanylach ar gael am gyrsiau, meysydd o ddiddordeb a CAVC gyda gwybodaeth gynhwysfawr am gyrsiau a chynnwys dynamig. Bydd orielau delweddau, mapiau, blogiau, fideos a mwy yn sicrhau y bydd y profiad yn darparu'r wybodaeth gywir mewn ffordd ddeinamig a diddorol.
Mynediad hawdd i wybodaeth benodol
Gydag ystod mor amrywiol o gyrsiau a myfyrwyr, ar y safle newydd mae CAVC wedi creu ardaloedd pwrpasol ar gyfer grwpiau cwsmeriaid, megis pobl ifanc sy'n gadael yr ysgol, oedolion a myfyrwyr rhyngwladol, yn ogystal â safle pwrpasol, ar wahân, ar gyfer ein cwsmeriaid busnes cavcforbusiness.co.uk Mae hyn yn sicrhau bod y wybodaeth gywir ar gael i bob cwsmer a gallant ddewis derbyn y wybodaeth ddiweddaraf sydd o ddiddordeb iddyn nhw.
Mynediad i wybodaeth fel yr hoffech
Yn anad dim, mae'r wefan newydd yn hwylus i'w defnyddio. Yn ogystal â bod ar gael yn Gymraeg a Saesneg, mae'r wefan yn galluogi cwsmeriaid i ddarllen pob tudalen mewn fformat sy'n gweithio iddyn nhw, neu ddewis cael y wybodaeth wedi'i darllen allan iddynt - y cyfan trwy feddalwedd hygyrchedd blaenllaw sydd wedi'i gwreiddio drwy'r wefan.
Dywedodd Kay Martin, Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro: “Dros y blynyddoedd diwethaf mae'r Coleg wedi tyfu'n sylweddol, gan ddarparu cannoedd o gyrsiau a rhaglenni hyfforddi i dros 30,000 o ddysgwyr bob blwyddyn. Mae'n bwysig i ni fod pob un ohonynt yn cael gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol ac yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth y maent ei heisiau yn hawdd.
“Rydym wedi ymgysylltu â chwsmeriaid drwy gydol y broses o greu'r wefan newydd gyffrous hon i sicrhau ei bod yn darparu'r union beth sydd ei angen arnynt. Mae'n bwysig hefyd fod y wefan yn ddwyieithog gan fod y Coleg yn falch o dreftadaeth Cymru.
“Man cychwyn yn unig yw'r lansiad hwn - mae yna ragor o ddatblygiadau yn yr arfaeth wrth i'r Coleg barhau i weithio i sicrhau ei fod yn cynnig gwasanaeth heb ei ail.”
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn lansio gwefan newydd yr wythnos hon a fydd yn rhoi gwell profiad i'w holl gwsmeriaid.