Mae Academi Rygbi Coleg Caerdydd a’r Fro wedi dathlu tymor arall o lwyddiant rhyngwladol yn ystod pedwaredd noson o gyflwyno gwobrau.
Cafodd yr Academi ei gemau rhyngwladol cyntaf gyda thaith arloesol i Japan i gynrychioli Cymru yn Nhwrnamaint Ieuenctid y Byd Sanix, gan orffen yn chweched. Hefyd daeth Academi Rygbi CCAF yn bedwerydd yng nghynghrair Trwydded A Ysgolion a Cholegau Cymru, gan sicrhau’r hawliau brolio Trwydded A yn rhanbarthol.
Hefyd cadwodd y chwaraewyr eu teitl fel pencampwyr 7 Cymru a theitl 7 URC a’r Urdd. Enillodd capten yr Academi, Evan Lloyd, a’r is-gapten, Jake Bentham, gapiau dros Gymru yn chwarae yn erbyn eu cyfoedion yn Ffrainc ym Mharc yr Arfau Caerdydd BT Sport.
Chwaraeodd y bachwr Aneurin James a’r chwaraewr ail reng, Anthony Cox, dros dîm D19 Cymru, a bydd Anthony yn chwarae i Dîm A Gleision Caerdydd. A bydd y chwaraewr rhyngwladol o’r Iseldiroedd, Timon Vijn, yn cysylltu ag Academi’r Hurricanes yn Seland Newydd i ddatblygu ei gêm ymhellach.
Daeth y digwyddiad â’r chwaraewyr presennol a chwaraewyr y dyfodol at ei gilydd gyda’u ffrindiau a’u teulu. Ymunodd hyfforddwyr yr Academi â nhw, a’i phartneriaid cefnogol, ar gyfer cinio tri chwrs a seremoni wobrwyo ar Gampws Canol y Ddinas CCAF.
Y capten Evan Lloyd enillodd y teitl mawr, Chwaraewr y Flwyddyn. Myfyriwr Lefel A yw Evan ac mae’n gynrychiolydd rhanbarthol D18 a daeth ei dymor i ben fel chwaraewr rhyngwladol D18 dros Gymru. Ei waith caled, ei ymrwymiad a’i egni enillodd y wobr yma iddo.
Coronwyd Aneurin James yn Chwaraewr y Flwyddyn y Chwaraewyr, gyda 90% o’r bleidlais. Dyma un o chwaraewyr mwyaf gweithgar y garfan a chafodd ei ddewis i gynrychioli Cymru D19 yn erbyn Japan. Mae Aneurin yn mynd ymlaen i Brifysgol Abertawe i astudio Pensaernïaeth.
Jake Thomas enillodd y wobr i Chwaraewr y Flwyddyn sydd wedi Torri Drwodd a’r Chwaraewr Wedi Gwella Fwyaf oedd Jake Beetham. Derbyniodd Ed Thomas wobr y Chwaraewr Mwyaf Addawol ac aeth y Wobr Cryfder a Siapio i Rhys Powell.
Enillwyd Gwobr yr Hyfforddwyr gan Jared Williams am y ffordd mae bob amser yn rhoi’r tîm yn gyntaf, ar ac oddi ar y cae.
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Kay Martin: “Roeddwn i wrth fy modd yn gallu dathlu nid yn unig rhagoriaeth mewn rygbi heno, ond hefyd rhagoriaeth oddi ar y cae.
“Rydyn ni’n gweld aelodau’r Academi’n symud ymlaen i brifysgol ac yn sefydlu eu busnesau eu hunain. Mae gan Timon gyfle gwych i ddatblygu ei yrfa gydag Academi Hurricanes yn Seland Newydd ac rydyn ni’n dymuno’r gorau iddo gyda hynny.
“Mae’r Academi Rygbi wedi cyflawni gymaint – ac wedi cynnig profiadau sy’n newid bywyd drwy gymryd rhan mewn taith yn Japan ac ennill capiau rhyngwladol. Ein nod ni yw sicrhau bod pob chwaraewr yn cael ei gefnogi a’i herio i gyflawni ei botensial mewn rygbi ac mae eu hastudiaethau a heno’n dangos bod hyn yn digwydd.”
Dywedodd y Cyfarwyddwr Rygbi, Martin Fowler: “Mae wedi bod yn flwyddyn arbennig iawn, ond nid beth rydyn ni’n ei wneud ar y cae yw popeth; ein straeon llwyddiannus ni yn y dosbarth yw’r maes pwysicaf. Datblygu pobl gyflogadwy yw ein nod ni ac rydyn ni’n dymuno’r gorau un i aelodau’r sgwad sy’n graddio gyda’u hanturiaethau nesaf. Fe fyddan nhw’n rhan bob amser o deulu rygbi CCAF a bydd ein drysau ni ar agor iddyn nhw bob amser.”
Mae Academi Rygbi CCAF yn un o nifer cynyddol o academïau chwaraeon yn y Coleg. Mae’n cynnwys myfyrwyr o bob rhan o’r Coleg, mae’r academïau’n darparu amgylchedd cefnogol a phroffesiynol sy’n cyfuno hyfforddiant a chyfleusterau o’r safon uchaf gydag astudio galwedigaethol neu academaidd, fel bod y myfyrwyr yn gallu gwneud cynnydd yn eu gyrfaoedd chwaraeon wrth astudio yn CCAF.