Coleg Caerdydd a’r Fro a Deloitte yn ffurfio partneriaeth gyda rhaglen cyflogadwyedd Dechrau Newydd

28 Mai 2019

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn gweithio law yn llaw gyda chwmni gwasanaethau proffesiynol blaenllaw, Deloitte, i greu cyfle cyffrous ac unigryw wedi’i gyllido’n llawn i roi hwb i gyfleoedd gyrfaol pobl rhanbarth Caerdydd a’r Fro.

Bydd y rhaglen Dechrau Newydd yn darparu amrywiaeth eang o hyfforddiant a gweithdai i ymgeiswyr llwyddiannus, er mwyn ceisio meithrin yr wybodaeth, yr hyder a’r sgiliau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, a sicrhau mynediad i gyfleoedd gwaith yng nghanolfan gyflawni Deloitte yng Nghaerdydd.

“Yn Deloitte, rydyn ni’n credu bod cyfle i ddatgloi mwy o botensial mewn pobl ac rydyn ni wedi bod yn arloesi gyda rhaglenni datblygu ar gyfer ein pobl ein hunain a chleientiaid. Hefyd rydyn ni eisiau gwella dyheadau a helpu pobl eraill i oresgyn rhwystrau sy’n atal cyflogaeth.

“Bydd y rhaglen addysg oedolion mynediad agored newydd yma’n gwneud byd o wahaniaeth i gyflogadwyedd a chyfleoedd gyrfaol llawer o bobl yn y rhanbarth. Drwy ganolbwyntio ar sgiliau technegol a meddal, byddwn yn gallu meithrin gwybodaeth, hyder a chymwysterau pobl fel eu bod yn ddymunol i gyflogwyr fel Deloitte,” dywedodd Ross Flanigan, rheolwr gyfarwyddwr yng nghanolfan gyflawni Deloitte yng Nghaerdydd.

“Rydw i’n hynod falch ein bod ni wedi gallu cydweithredu unwaith eto gyda Choleg Caerdydd a’r Fro i greu’r rhaglen Dechrau Newydd.”

Yn cynnwys gweithdai a dyddiau hyfforddi, gyda chynnwys y cwrs yn cael ei gyflwyno gan dîm cyflwyno hyfforddiant mewnol CCAF, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cymryd rhan yn y rhain er mwyn gwella eu sgiliau a hefyd ennill cymwysterau sy’n cael eu cydnabod gan ddiwydiant, fel Arbenigwr Microsoft Office a Dyfarniadau City and Guilds.

“Rydyn ni wrth ein bodd yn gweithio gyda chwmni mor ddibynadwy ac anrhydeddus” dywedodd Martin Condy, uwch reolwr ar gyfer partneriaethau cyflogwyr yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. “Bydd y rhaglen yma’n gwneud byd o wahaniaeth i gyflogadwyedd unrhyw un sy’n cymryd rhan. Mae’n gyfle i gael profiad a chymwysterau a fydd yn cynyddu llwybrau ac opsiynau gyrfaol ar gyfer y dyfodol”

Mae’r dyddiau cofrestru ar gyfer rhaglen Dechrau Newydd Deloitte yn dechrau ar Fai 29. Am fwy o wybodaeth ac i ymgeisio, ewch i https://www.cavc.ac.uk/dechraunewydd/