Mae myfyrwyr Coleg Caerdydd a’r Fro wedi rhagori yn y Pencampwriaethau Chwaraeon a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Gymdeithas y Colegau (AoC) yn Nottingham.
Chwaraeodd Tornados CCAF, tîm pêl droed yn cynnwys deg o ddysgwyr Sgiliau Byw yn Annibynnol (ILS), naw o gemau, gan sgorio 16 o goliau a dod yn bedwerydd yn y twrnamaint. Fe wnaethant gymhwyso ar gyfer y gystadleuaeth ar ôl ennilll twrnamaint Pêl Droed Anableddau Dysgu Cymru ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf.
Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn ehangu ac yn datblygu ei ddarpariaeth chwaraeon ar gyfer dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, gyda chynlluniau ar gyfer tîm Academi Bêl Droed ILS i ymuno â nifer cynyddol y Coleg o Academïau Chwaraeon. Dywedodd y Pennaeth Pêl Droed, Jamie Sherwood:
“Ers dechrau 2019, rydyn ni wedi cynnig darpariaeth academi i’r myfyrwyr ILS i alluogi datblygu’r sgwad yma. Mae’r grŵp o ddysgwyr wedi bod yn defnyddio darpariaeth a hyfforddiant yr academi yn annibynnol gyda staff yr Academi Bêl Droed ar bnawniau Llun a Gwener.
“Roedden ni’n hynod falch o weld Tornados CCAF yn cynrychioli CCAF a Cholegau Cymru ar lefel genedlaethol, ond rydyn ni yr un mor gyffrous o weld hyn yn gatalydd i ddarlun llawer mwy.
“Fy ngweledigaeth i yw cael sgwad hyfforddi a chystadlu yn rhan o raglen academaidd 2019/20 ac mae llawer o’r rhwystrau oedd yn bodoli’n flaenorol yn dechrau lleihau drwy’r trafod a’r cynllunio gofalus sydd wedi digwydd eisoes.”
Mae Academïau Chwaraeon CCAF yn cynnwys myfyrwyr o bob rhan o’r Coleg sy’n astudio amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol ac academaidd. Mae’r Academïau’n darparu amgylchedd cefnogol a phroffesiynol sy’n cyfuno cyfleusterau hyfforddi a chwaraeon o’r safon uchaf gyda phortffolio’r Coleg o gyrsiau, sy’n prysur ehangu. Gall y chwaraewyr wneud cynnydd yn eu gyrfaoedd chwaraeon wrth astudio yn CCAF.
“Rydw i’n edrych ymlaen at weld Academi Bêl Droed CCAF yn datblygu’r rhaglen yma,” dywedodd Jamie. “Bydd y gwaith sy’n cael ei wneud eisoes gan Adran ILS ac Ehangu Cyfranogiad y Coleg yn galluogi i’r rhaglen bwysig yma gael ei hymestyn ymhellach yn 2019/20.
“Rydw i’n edrych ymlaen at gefnogi datblygiad Tornados CCAF a’i helpu i ddod yn rhaglen flaenllaw, nid yn unig yn y Coleg, ond yn Chwaraeon Colegau Cymru hefyd.”
Dywedodd Dirprwy Bennaeth ILS ac Ehangu Cyfranogiad CCAF, Lauren Alexander:
“Ers gweithio’n galed i gymhwyso ar gyfer y pencampwriaethau, mae’r myfyrwyr nid yn unig wedi gwella eu sgiliau ar y cae, ond wedi datblygu mewn sawl maes arall hefyd. Mae’r profiad wedi rhoi cyfle unigryw iddyn nhw i roi eu dysgu ar waith yn dda a rhoi llwyfan iddyn nhw ddangos cyfrifoldeb ac ymrwymiad.
“Mae wedi cael effaith bositif enfawr ar eu gwaith yn y Coleg ac mae eu gweld yn elwa o’u gwaith caled yn siŵr o ysbrydoli eu cyfoedion. Roeddwn i mor gyffrous am eu gweld nhw’n cystadlu ac rydw i’n eu llongyfarch ar ganlyniad gwych i dîm sydd ond wedi’i ffurfio eleni.
“Hefyd, mae gweithio ochr yn ochr â’r Adran Chwaraeon wedi bod yn wych, mae’n bartneriaeth rydyn ni’n gobeithio fydd yn parhau i dyfu, fel ein bod yn gallu darparu mwy o’r cyfleoedd gwerthfawr a buddiol yma i’n myfyrwyr ni.”
Nid y Tornados oedd yr unig enillwyr o’r Coleg. Fe wnaeth myfyrwraig Lefel A, Ellie Robinson, sydd hefyd yn rhedeg gyda Harriers Casnewydd, gynrychioli Cymru mewn Traws Gwlad ac enillodd y tîm o Gymru fedal efydd.
“Roedd yn benwythnos anhygoel ac roedd cyfarfod llawer o bobl a bod yn rhan o Dîm Colegau Cymru’n wych,” meddai Ellie, sy’n 6ed yn y DU mewn 10k ac mae ganddi wregys ddu mewn Taekwondo: “Doeddwn i ddim yn sylweddoli ei bod yn mynd i fod yn gystadleuaeth mor fawr ac roeddwn i wrth fy modd yn ennill medal efydd gyda’r tîm – fe gawson ni hefyd weld y digwyddiadau eraill a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, oedd yn hwyl.”
Dywedodd Pennaeth Chwaraeon, Twristiaeth a Gwasanaethau Cyhoeddus CCAF, James Young: “Da iawn i Tornados CCAF ac i Ellie am wneud mor dda. Roedd mwy na 1,000 o fyfyrwyr o bob rhan o’r DU yn cystadlu i fod yn Bencampwyr y DU mewn amrywiaeth o chwaraeon, felly mae’n gamp enfawr.
“Rydyn ni’n edrych yn gyson ar ehangu ein darpariaeth chwaraeon yma yn y Coleg, yn enwedig ein Hacademïau Chwaraeon, ac rydyn ni wrth ein bodd bod y tîm ILS, Tornados CCAF, wedi dod yn bedwerydd yn gyffredinol yn y DU – mae’n wych. Mae’r canlyniad yn dangos potensial y tîm am dwf.”
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Kay Martin: “Llongyfarchiadau i Tornados CCAF ac i Ellie am ragori ym Mhencampwriaethau Chwaraeon AoC. Hefyd fe hoffwn i longyfarch pawb ar draws y Coleg sydd wedi gosod y sylfeini ar gyfer cyfleoedd chwaraeon newydd a chyffrous yn y dyfodol.”