Coleg Caerdydd a’r Fro a GoCompare yn ffurfio partneriaeth gyda rhaglen Niwrowyddoniaeth a Niwrofarchnata Gymhwysol gyntaf y DU

22 Mai 2019

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi ymuno gyda’r wefan gymharu sydd â’i phencadlys yng Nghasnewydd, GoCompare, er mwyn lansio rhaglen hyfforddi Niwrowyddoniaeth a Niwrofarchnata Gymhwysol yng Nghymru.

Mae rhaglen Niwrowyddoniaeth a Niwrofarchnata Gymhwysol GoCompare yn arloesi gyda hyfforddiant datblygu staff. Wedi’i greu fel cwrs pwrpasol ar gyfer tîm marchnata GoCompare, a’i gyflwyno mewn partneriaeth ag RW Learning, mae’n rhoi sylw i feysydd fel defnyddio niwrowyddoniaeth i reoli a chofio, a niwrofarchnata.

Dywedodd Nathan Hopkins, Rheolwr Caffael Talent gyda GoCompare: “Rydyn ni’n credu’n gryf bod arloesi’n deillio o ddenu’r talentau gorau un a sicrhau ein bod yn darparu’r cyfleoedd datblygu gorau i’n cyflogeion ni.

“Mae Coleg Caerdydd a’r Fro (CCAF) wedi bod yn bartner o ddewis i ni ers blynyddoedd lawer oherwydd eu dyhead i greu rhaglenni pwrpasol sy’n gwella sgiliau ein timau ni ac yn darparu manteision busnes ac ROI clir. Fe aethon ni at CCAF yn 2018 gyda’r nod o greu rhaglen newydd nad yw ar gael ar hyn o bryd yn Ne Cymru, yn canolbwyntio ar niwrowyddoniaeth gymhwysol yn ein hadran farchnata.

“Mae’r rhaglen yma wedi cael croeso brwd eisoes gan bawb cysylltiedig ac rydyn ni’n gyffrous i weld sut bydd yn gwella perfformiad personol a busnes ar draws y tîm marchnata.”

Yn cael ei chyflwyno dros gyfnod o bum mis, mae’r rhaglen Niwrowyddoniaeth a Niwrofarchnata Gymhwysol yn cynnwys modiwlau gweithdy theori ac ymarferol. Nod y rhain yw helpu tîm marchnata

GoCompare i ddeall yn well y prosesau ymddygiad sy’n sail i greu ymgyrchoedd marchnata effeithiol.

Dywedodd Mary Kent, Is Bennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro: “Rydyn ni’n hynod falch o gael cyfle i weithio gydag RW Learning i greu a chyflwyno rhaglen mor arloesol a phwrpasol ar gyfer GoCompare. Dyma’r rhaglen gyntaf o’i bath yng Nghymru ac mae’n dangos gallu CCAF i ymateb i anghenion hyfforddi arloesol ein cleientiaid ni. Rydyn ni’n hyderus y bydd y rhaglen yma’n cael effaith bositif ar dîm marchnata GoCompare.”