Gwobrau Blynyddol y Gynghrair Ansawdd Sgiliau 2019 yn dathlu prentisiaid gorau’r rhanbarth

16 Mai 2019

Mae gwaith caled ac ymrwymiad pedwar ar bymtheg o’r prentisiaid gorau sy’n gweithio yng Nghymru wedi cael eu dathlu mewn seremoni wobrwyo arbennig.


Hefyd cafodd cyflogwyr ac ymarferwyr sydd wedi mynd yr ail filltir yn eu hymrwymiad i ddysgu seiliedig ar waith eu cydnabod yn y seremoni, a gynhaliwyd yn amgylchedd hyfryd Campws Canol y Ddinas Coleg Caerdydd a’r Fro dan arweiniad Ross Harries.


Dathlwyd ymrwymiad y prentisiaid yn chweched seremoni’r Gwobrau Blynyddol a gynhaliwyd gan y Gynghrair Ansawdd Sgiliau (QSA) – consortiwm o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith sy’n cynnwys 20 o bartneriaid ac is-gontractwyr. Mae’r gwobrau’n dathlu rhagoriaeth a chyflawniad a dewiswyd yr enillwyr gan banel sy’n cynnwys cadeirydd y QSA – Pennaeth CAVC, Kay Martin – a’r bwrdd.


Aeth gwobr gyffredinol Prentis y Flwyddyn i brentis Atgyweirio Cerbydau Lefel 2 Skillnet a CCAF, Charlotte Ward, a enillodd wobr Prentis Moduro’r Flwyddyn hefyd. Yn aelod gwych o’r tîm yn Ford Mon Motors yng Nghasnewydd ac yn unigolyn sydd wedi gwneud cynnydd da, enillodd Charlotte wobr Prentis y Flwyddyn Ford ar gyfer Atgyweirio Cerbydau yn 2018.



Dywedodd Charlotte: “Dydw i ddim yn credu ’mod i wedi ennill dwy wobr a dweud y gwir – mae’n anhygoel! Roeddwn i’n gwybod am y wobr Moduro ond doeddwn i ddim yn gwybod ’mod i’n cael Prentis y Flwyddyn. Roedd honno’n sioc fawr ac rydw i mor hapus – mae fel, waw!


Ar ôl bod yn y brifysgol a phenderfynu nad oedd yn gweddu iddi hi, dewisodd Charlotte y llwybr prentisiaeth.


“Fe ddois i o hyd i brentisiaeth ac roeddwn i’n gwybod y byddai i mi oherwydd rydw i’n hoffi astudio ond roeddwn i eisiau profiad ymarferol hefyd,” meddai Charlotte. “Mae cael cyflog hefyd yn fonws ychwanegol – rydw i’n meddwl mai hon ydi’r ffordd orau ymlaen i mi.


“Rydw i’n gweithio i Ford Mon Motors yng Nghasnewydd ac rydw i’n meddwl eu bod nhw’n grêt. Maen nhw wir yn gynhwysol ac rydw i’n dod ymlaen gyda phawb yno. Rydw i’n cael yr un fath â’r prentisiaid eraill i gyd; dydyn nhw ddim yn ystyried ’mod i’n ferch.


“Fe fyddwn i wir yn argymell prentisiaethau i bobl eraill. Rydw i’n meddwl mai dyma’r ffordd orau ymlaen – rydych chi’n cael profiad ymarferol a chymwysterau, a chyflog hefyd. Mae’n wych.”


Aeth Gwobr Prentis Diwydiannau Creadigol y Flwyddyn i Brentis Sgil Cymru, Adam Neal. Fe serennodd yn ystod ei brentisiaeth gyda BBC Cymru Wales ac mae wedi cael swydd ddelfrydol fel ymchwilydd llawn amser gyda hwy – cryn dipyn o gamp i rywun heb unrhyw hyfforddiant cyfryngau blaenorol.


“Rydw i ar ben fy nigon am y wobr yma,” dywedodd Adam. “Dydw i ddim yn gallu credu’r peth.


“Mae’r brentisiaeth yn golygu llawer i mi oherwydd roeddwn i’n meddwl ’mod i wedi colli’r cyfle. Fe roddodd y criw yn Sgil Cymru ail gyfle i mi ac rydw i mor ddiolchgar iddyn nhw.                           


“Fe es i i’r brifysgol sawl blwyddyn yn ôl ond wnes i ddim gorffen ac felly fe wnes i ddechrau gweithio. Fel cyfle olaf, fe ddewisais i brentisiaeth gan obeithio cael i mewn i’r diwydiant cyfryngau, sy’n ddiwydiant anodd cael i mewn iddo. ‘Beth sgen i i’w golli?’ meddyliais. A dyma fi heddiw. 


“Mae’r profiad wedi bod yn ardderchog o’r diwrnod cyntaf. Rydw i’n ddiolchgar i bob un person sydd wedi fy ngwthio i ymlaen, o Sgil Cymru i Academi’r BBC a hefyd fy holl gydweithwyr i yn Stiwdios y BBC.”


Enillodd Lois Harris Wobr Prentis Peirianneg y Flwyddyn. Y prentis Peirianneg Lefel 3 gyda Chymdeithas Hyfforddiant Grŵp Casnewydd a’r Fro (NDGTA) oedd y prentis benywaidd cyntaf yn Bisley ac fe wnaeth argraff dda ar unwaith.


Bellach mae wedi sicrhau gwaith llawn amser yn Adran Ddylunio’r cwmni am ei sylw i fanylder a’i hymrwymiad ac mae ei chyflogwyr yn gwybod eu bod yn gallu dibynnu arni bob amser i wneud gwaith o’r safon uchaf. Mae Bisley wedi cefnogi ei chynnydd i lefelau astudio HNC ac wedyn HND.


“Mae’n teimlo’n anhygoel bod wedi ennill,” meddai Lois. “Rydw i dal mewn sioc bod fy enw i wedi cael ei roi i mewn.


“Roeddwn i’n edrych ar fy opsiynau ar ôl gorffen yn yr ysgol gyfun ac fe wnes i feddwl na fyddai mynd i’r brifysgol yn rhoi profiad ymarferol i mi, fel roedd ei angen ar gyfer peirianneg. Fi oedd y prentis benywaidd cyntaf yn Bisley ac roedd yn brofiad positif iawn – mae angen mwy o ferched mewn peirianneg ac rydw i’n sylwi ar fwy, sy’n beth positif.             


“Rydw i wir wedi mwynhau fy mhrentisiaeth. Rydw i’n hoffi’r cydbwysedd rhwng yr ochr theori a’r gwaith ymarferol – dyna ble rydych chi’n cael y profiad rydych chi ei angen ar gyfer amgylchedd gwaith.”


Enillwyd y Wobr Rheoli Adnoddau Cynaliadwy gan brentis Safe & Secure Training, Connor Honeyfield. Yn cael ei gyflogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, mae Connor wedi gwneud cynnydd anhygoel o fod yn ddysgwr i fod yn arweinydd.              


Gan ddechrau fel gweithiwr asiantaeth yn y Cyngor, cafodd Connor ei gyflogi fel llwythwr llawn amser. Cofrestrodd ar gyfer Prentisiaeth Rheoli Adnoddau Cynaliadwy a chafodd ei secondio i’r tîm gorfodi a chael tasgau ychwanegol. Gorffennodd ei brentisiaeth a dod yn gwbl gymwys chwe mis yn gynnar. Wedyn llwyddodd Connor i gael pedwerydd dyrchafiad i fod yn arweinydd tîm.


Dywedodd Connor: “Rydw i’n teimlo’n wych am ennill y wobr – rydw i’n falch ac mae’n dangos bod gwaith caled yn talu ar ei ganfed. Rydw i’n meddwl bod fy mhrentisiaeth i’n gam ymlaen yn fy nghynnydd i ac fe fyddwn i wir yn argymell prentisiaethau.”


Enillodd Marion Denis y Wobr Gwasanaethau Yswiriant. Yn gyflogedig gydag Acquis, mae’r prentis Focus On Training yn dod o Ffrainc yn wreiddiol a chwblhaodd gwrs dwy flynedd mewn 12 mis er ei bod wedi symud yn ôl i Ffrainc hanner ffordd drwyddo.      


Gwnaeth argraff ar Acquis gyda’i gwaith caled a’i hymrwymiad ac mae wedi cael cynnig swydd gan y cwmni fel arweinydd tîm mewn swyddfa newydd yn Amsterdam.


Dywedodd Marion: “Roedd ennil y wobr yn sypreis fawr oherwydd doeddwn i ddim yn disgwyl hynny. Roeddwn i wir yn hapus pan glywais i oherwydd mae’n cydnabod y gwaith caled ac felly mae’n deimlad braf.


“Yn dod o Ffrainc, mae’n rhaid i chi addasu i’r iaith i ddechrau, ac mae’r rheoliadau’n wahanol felly roedd rhaid i mi ddysgu llawer am ddeddfau a rheoliadau’r DU. Mae wedi bod yn ddiddorol hefyd.


“Fe ddechreuais i yn fy nghwmni fel cynghorydd gwasanaethau cwsmeriaid ac wedyn dod yn arweinydd tîm. Wedyn fe gefais i fy mhenodi’n gydlynydd gwasanaethau cwsmeriaid ac rydw i ar fin dod yn arweinydd gweithrediadau mewn swyddfa newydd yn Amsterdam. Mae hynny’n gynnydd gwych mewn chwe blynedd!


“Fe fyddwn i’n argymell prentisiaeth yn sicr – mae’n gyfle da i ddysgu pethau newydd a gwneud cynnydd yn eich gyrfa.”


Aeth y Wobr Model Rôl ar gyfer 2019 i ddau enillydd – efeilliaid a phrentisiaid Gosodiadau Trydan, Connor a Tom Lewis. Yn cael eu cyflogi ill dau gan y cwmni teuluol, Blues Electrical, mae Connor a Tom yn ysbrydoledig, gan gyrraedd brig cyfres o gystadlaethau sgiliau cenedlaethol a rhyngwladol. Y penllanw oedd dewis Tom ar gyfer Tîm y DU yn Rowndiau Terfynol WorldSkills a fydd yn cael eu cynnal yn Rwsia eleni – yr unig brentis Trydan yn cynrychioli’r DU.


Hefyd cafodd Rheolwr Gweithrediadau NDGTA, Diane Purslow, ei chydnabod am ei gwaith rhagorol yn helpu prentisiaid drwy eu cyrsiau. Mae’n adnabod pob un wrth eu henwau ac mae Diane wedi cynnwys cymaint yn ei swydd wreiddiol fel Rheolwr Gweinyddu fel bod ei rôl wedi cael ei newid i Reolwr Gweithrediadau bellach. 


Hefyd dathlwyd y cyflogwyr am eu hymrwymiad i brentisiaid. Enillodd Ysgol Goginio Angela Gray Wobr y Cyflogwr Bach, enillodd Heatforce Wobr y Cyflogwr Canolig a Deloitte Wobr y Cyflogwr Mawr.


Enillodd Dŵr Cymru Wobr Cyflogwr Newydd y Flwyddyn. Fel y chweched cwmni dŵr a charthffosiaeth mwyaf yng Nghymru a Lloegr sy’n darparu gwasanaethau i fwy na 3m o bobl, yn ddiweddar dechreuodd Dŵr Cymru weithio gyda Choleg Caerdydd a’r Fro i gynnig prentisiaethau ac mae’r ddau sefydliad yn parhau i dyfu a datblygu’r bartneriaeth hon.           


Enillwyd Gwobr Arloesi a Phartneriaeth newydd, arbennig gan BBC Cymru Wales. Yn 2018, adeiladodd CCAF a BBC Cymru Wales ar eu perthynas hirsefydlog drwy lansio’r Brentisiaeth Newyddiaduraeth Ddigidol gyntaf erioed ochr yn ochr â’r 25 o brentisiaethau mae’r BBC yn eu cynnig eisoes bob blwyddyn.                


Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan CCAF mewn partneriaeth ag Academi’r BBC. Nod y brentisiaeth yw darparu cyfleoedd newyddiaduraeth i bobl o gymunedau a dangynrychiolir ac mae hwn yn sector anodd iawn cael eich troed i mewn iddo.


Dywedodd Steven Sandrey, Rheolwr Cynlluniau Talent Newydd gyda BBC Cymru Wales: “Rydw i mor falch ein bod ni wedi ennill y wobr yma.


“Mae’n rhan o ymrwymiad y BBC i ddangos mwy o ddiddordeb mewn prentisiaethau ac mae’r rhaglen newydd yma’n dangos i bobl ein bod ni’n gweld gwerth mewn prentisiaid. Mae gweithio gyda CCAF yn grêt hefyd.     


“Roedd prentisiaethau’n bwysig iawn yn y gorffennol ond fe wnaeth hynny dawelu. Ond maen nhw’n bwysig iawn eto nawr. 


“Mae ennill cyflog wrth ddysgu’n gwneud llawer o synnwyr i mi a’r bobl ifanc rydw i’n gweithio gyda nhw. Mae’n ffordd ymlaen yn sicr ac fe fyddwn i’n ei argymell i bobl eraill.”


Dywedodd Pennaeth CCAF a Chadeirydd y QSA, Kay Martin: “Mae wir wedi bod yn bleser dathlu cyflawniadau pob un enillydd yng Ngwobrau Blynyddol y QSA. Fel consortiwm, rydyn ni’n gwybod bod prentisiaethau’n gweithio a thrwy ddatblygu cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, fe allwn ni gael effaith enfawr ar unigolion, cyflogwyr, cymunedau a’r economi.”


Roedd y gwobrau wedi cael nawdd hael gan Coleg QS Training, Focus Training, NDGTA, JTL a Safe & Secure Training.


Categori

Enillydd

Cyflogwyd gan

Enwebwyd gan

Moduro

Charlotte Ward

Ford Mon Motors

Skillnet

Busnes a Gwasanaethau Ariannol

Leanne Burnell

Deloitte

Deloitte

Adeiladau

Leon Hayward

JS Bowsher

CCAF

Diwydiannau Creadigol

Adam Neal

BBC Cymru Wales

Sgil Cymru

Electrodechnegol

Ellliott Dix

Woodlands Electrical

CCAF

Peirianneg a Pheirianneg Awyrennau

Lois Harris

Bisley Office Furniture

NDGTA

Trin Gwallt

Leonie Clarke

Brothers Constantinou

Brothers Constantinou

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Fferylliaeth

Keran Morgan

Hafod

Care Credentials Wales

TGCh

Geraint Peach

Capital Law

CCAF

Gwasanaethau Yswiriant

Marion Denis

Acquis

Focus On Training

Rheolaeth

Samantha Biggs

Yr AA

Focus On Training

Plymio

Jay Coles

KS Barry Plumbing & Heating Ltd

CCAF

Oergelloedd ac Awyru

Edward Davies

Dunbia Foods

CCAF

Chwaraeon

Sion Spence

CCFC

CCFC

Rheoli Adnoddau Cynaliadwy

Connor Honeyfield

CBS Rhondda Cynon Taf

Safe & Secure Training

Model Rôl

Connor Lewis

Blues Electrical

CCAF

Model Rôl

Tom Lewis

Blues Electrical

CCAF

Gwobr Ymarferwr Dysgu Seiliedig ar Waith

Diane Purslow

NDGTA


Gwobr Prentis Iau

Lewis Cook

The Maltsters

CCAF

Gwobr Prentis Uwch

Gareth Ellaway

CCAF

CCAF

Cyflogwr Bach y Flwyddyn

Ysgol Goginio Angela Gray



Cyflogwr Canolig y Flwyddyn

Heatforce



Cyflogwr Mawr y Flwyddyn

Deloitte



Cyflogwr Newydd y Flwyddyn

Dŵr Cymru



Arloesi a Phartneriaeth

BBC Cymru Wales



Prentis y Flwyddyn y QSA

Charlotte Ward

Ford Mon Motors

Skillnet



Diwedd