Marco Pierre White yn croesawu myfyrwyr Lletygarwch ac Arlwyo Coleg Caerdydd a’r Fro

13 Mai 2019

Mae myfyrwyr Lletygarwch ac Arlwyo Coleg Caerdydd a’r Fro wedi cael cyfle i holi’r cogydd enwog, Marco Pierre White, yn ei fwyty yn y brifddinas.

Cafodd y dysgwyr Leuan Jones, Emily Church a Nia Williams eu tywys o amgylch bwyty a chegin Steakhouse Bar and Grill Marco ar ben Gwesty Indigo yng Nghaerdydd cyn cyfarfod y dyn ei hun mewn digwyddiad Gwin a Bwyd arbennig. Cafodd y myfyrwyr siarad am eu gyrfaoedd yn y diwydiant Arlwyo gyda Marco a chawsant gopi wedi’i lofnodi o’i lyfr, Essentially Marco.

Dywedodd Darlithydd Lletygarwch CCAF, Tony Awino: “Roedd hwn yn gyfle gwych i’n myfyrwyr ni gyfarfod un o gogyddion a pherchnogion bwyty enwocaf y DU.

“Roedd Leuan, Emily a Nia yn llysgenhadon gwych ar ran y Coleg ac rwy’n siŵr y bydd ganddyn nhw atgofion da am y profiad yma am flynyddoedd i ddod.”

Dywedodd Victoria Milner, Rheolwr Cyffredinol y bwyty: “Roedd y digwyddiad Gwin a Bwyd yn llwyddiant ac roedd yn bleser cael y myfyrwyr o Goleg Caerdydd a’r Fro yma’n ei brofi.

“Rydyn ni’n gobeithio eu bod nhw wedi cael eu hysbrydoli gan Marco a’n tîm ni yma ac rydyn ni’n dymuno bob llwyddiant iddyn nhw wrth gwblhau eu hastudiaethau. Nhw yw dyfodol y diwydiant a gobeithio y gwelwn ni nhw’n ôl yma ryw ddydd yn Steakhouse Bar and Grill Marco Pierre White.”

Meddai Rheolwr Adnoddau Dynol Gwesty Indigo, Cheng Griffiths: “Dechreuodd perthynas Gwesty Indigo gyda Choleg Caerdydd a’r Fro yn ôl ym mis Medi 2018. Ers hynny rydyn ni wedi cynnal lleoliadau niferus gydag adrannau amrywiol yn y Coleg ac wedi mynychu eu ffeiriau swyddi. Rydyn ni’n helpu gyda chyfweliadau ffug ar hyn o bryd.

“Mae’r Coleg wedi bod o help mawr gyda chynnig cyrsiau hyfforddi perthnasol i’n staff ni hefyd. Oherwydd y bartneriaeth gynyddol yma, amdanyn nhw wnaethon ni feddwl gyntaf ar ôl clywed bod Marco yn ymweld, gan feddwl y byddai’n brofiad bythgofiadwy i’w gynnig i fyfyrwyr Arlwyo CCAF, i gynnal sesiwn Holi ac Ateb gyda thad bedydd y diwydiant coginio.

“Cafodd y myfyrwyr fynd o amgylch y bwyty a’r gegin a chyfarfod y cogyddion, ac wedyn fe gawson nhw sgwrs am 30 munud gyda Marco cyn iddo roi llyfr wedi’i lofnodi i bob un ohonyn nhw, a llun grŵp i gofio’r diwrnod.”

Mae Steakhouse and Grill Marco Pierre White yng Ngwesty Indigo, Caerdydd, sy’n cael ei weithredu gan gwmni rheoli gwestai blaenllaw, RBH.