Myfyrwyr Electroneg Coleg Caerdydd a’r Fro’n sgorio ‘Bang Mawr’ gyda’u cynllun eco-deil

7 Mai 2019

Mae tîm o fyfyrwyr Peirianneg Electronig o Goleg Caerdydd a’r Fro wedi ennill Gwobr Big Bang anrhydeddus am gynllun arloesol i leihau ôl troed carbon oriel gelf.

Enillodd y dysgwyr y wobr, a drefnwyd gan Gynllun Addysg Peirianneg Cymru STEM Cymru (EESW) yn ei ffair ‘Big Bang’, lle’r oeddent yn cystadlu yn erbyn ysgolion a cholegau o bob cwr o’r rhanbarth. Y dasg oedd lleihau ôl troed carbon yr oriel gelf newydd yn Amgueddfa Hanes Genedlaethol Sain Ffagan.

Wedi’u mentora gan y cwmni peirianneg, Arup, meddyliodd dau dîm am ddau ddatrysiad gwahanol. Enillodd un tîm y wobr yng nghategori’r ‘Ateb Mwyaf Arloesol i’r Prosiect’ gyda chynllun ar gyfer teils piezodrydan.

Esboniodd y myfyriwr electroneg, Alex Deverson: “Fe wnaethon ni gynllunio teil sy’n creu trydan pan rydych chi’n cerdded arni. Wedyn byddai ymwelwyr â’r amgueddfa’n gallu cynhyrchu pŵer yn y fynedfa ac yn y caffi.”

Ychwanegodd dysgwr arall, Mohammad Hussain: “Roedd y gystadleuaeth yn brofiad da – bydd yn rhywbeth i ni ei roi ar ein CV a bydd yn helpu gyda’n gyrfaoedd ni.”

Dywedodd myfyriwr Electroneg arall, Mohammed Basit: “Roedd yn brofiad grêt a bydd yn ein helpu ni gyda’n hymdrechion yn y dyfodol.”

Dywedodd un o’r dysgwyr, Modou Jobe: “Roedd yn agoriad llygad gweld yr holl brosiectau eraill ac fe gawson ni rwydweithio hefyd a chyfarfod darpar gyflogwyr, oedd yn dda iawn.”