Mae Coleg Caerdydd a'r Fro (CAVC) a Chyngor Caerdydd wedi dod ynghyd i ddod â chyfleuster chwaraeon cymunedol newydd, mawr ei angen, i un o gymunedau mwyaf bywiog ac amrywiol Cymru.
Bydd prosiect arloesol ‘Parc y Gamlas’ yn gweld darn o dir yng nghanol Butetown, sydd ddim yn cael ei ddefnyddio, yn cael ei drawsnewid yn gyfleuster aml-chwaraeon o'r radd flaenaf ar gyfer y gymuned. Bydd yr ardal laswelltog na chaiff ei rheoli, sydd y tu ôl i Gampws Canol y Ddinas ar Heol Dumballs, yn cael ei thrawsnewid gydag arwyneb chwarae 3G newydd gyda llifoleuadau, dwy ardal gemau aml-ddefnydd ac ystafelloedd newid. Bydd y gwaith datblygu yn dechrau yn ystod 2019.
Gwnaed y prosiect yn bosib o ganlyniad i gyllid gwerth £1.9 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y cyfleuster newydd sbon yn darparu cyfleuster o'r radd flaenaf, ddiogel, wedi'i reoli a fydd o fudd i bedair ysgol gynradd Butetown, timau chwaraeon lleol, a'r gymuned ehangach trwy raglen o chwaraeon cymunedol a gweithgareddau chwarae. Mae CAVC hefyd wedi ymrwymo i ddefnyddio'r lleoliad i ddatblygu gweithgareddau chwaraeon a chwarae ar ôl ysgol a'i raglenni Dysgu fel Teulu, sydd eisoes wedi'u lleoli mewn ysgolion a lleoliadau cymunedol ledled y rhanbarth, ac sy'n gweithio i feithrin sgiliau a chael gwared ar rwystrau i addysg.
Dywedodd Mike James, Prif Weithredwr Grŵp Coleg Caerdydd â'r Fro: "Mae hyn yn newyddion gwych i gymuned Butetown. Mae'n enghraifft arall o Lywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau arloesol, cydweithredol sy'n cael effaith uniongyrchol ar ein cymunedau lleol.
"Rydym wrth ein bodd i weld y prosiect hwn yn cael ei wireddu. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Chyngor Caerdydd a'r gymuned leol i ddatblygu'r cyfleuster cyffrous hwn ac ystod o weithgareddau chwaraeon a dysgu a fydd yn gwella lles y gymuned ac yn helpu i wneud gwahaniaeth i gynifer o blant a phobl.”
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Os ydych yn rhoi cyfleusterau chwaraeon o ansawdd da i gymunedau byddant yn eu defnyddio nhw. Dyna yw'r profiad a gawsom gyda'r caeau 3G a osodwyd yn ddiweddar ym Mhentwyn, Grangetown, Trelái a Chaerau.
“Mae cynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon, yn enwedig yng nghymunedau mwyaf difreintiedig ein dinas, mor bwysig, ac rydym yn hyderus y bydd y cyfleusterau newydd hyn yn arwain at fwy a mwy o bobl yn Butetown yn mwynhau hwb i'w lles corfforol a meddyliol o ganlyniad i weithgaredd chwaraeon rheolaidd."
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: "Mae ein hysgolion a'n colegau yn chwarae rôl hanfodol yn y gymuned. Dyna pam rydym wedi ymrwymo i gyflwyno mwy o ganolfannau dysgu cymunedol, ac rydym yn bwriadu gwneud prosiectau sy'n canolbwyntio ar y gymuned yn un o agweddau allweddol ail gam ein rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif.
“Mae chwaraeon yn chwarae rhan allweddol mewn cymunedau ledled Cymru, ac rwyf wrth fy modd bod ein Grant Hybiau Cymunedol gwerth £15 miliwn yn gallu cefnogi prosiectau arloesol megis prosiect Parc y Gamlas a fydd yn darparu cyfleusterau chwaraeon o'r radd flaenaf a fydd yn diwallu anghenion cymuned Butetown.”