Mae tîm Academi Rygbi Coleg Caerdydd a’r Fro yn teithio i Japan i gynrychioli Cymru mewn twrnamaint rygbi rhyngwladol mawr.
Yn ei 12fed flwyddyn bellach, mae Twrnamaint Rygbi Ieuenctid y Byd Gwahoddiadol Sanix yn cael ei gynnal bob blwyddyn yn Fukuoka yn Japan. Mae’r timau’n cymryd rhan drwy wahoddiad yn unig ac yn cael eu dewis oherwydd eu safon uchel.
Mae’r twrnamaint wedi dod yn enwog bellach fel pinacl rygbi ieuenctid, gyda’r pencampwyr yn cael eu hystyried fel tîm ieuenctid cryfaf y byd.
Yr unig goleg arall o’r DU sy’n cymryd rhan yn y twrnamaint yw Coleg Caerwysg. Bydd Academi Rygbi CCAF, sy’n cynnwys myfyrwyr o bob rhan o CCAF sy’n astudio amrywiaeth o gyrsiau gwahanol, yn teithio allan i Japan ar 25ain Ebrill.
Dywedodd Martyn Fowler, Cyfarwyddwr Rygbi Coleg Caerdydd a’r Fro: “Mae deg ar hugain o’n bechgyn ifanc gorau ni’n edrych ymlaen at gynrychioli’r Coleg, ei Undeb Rygbi, Gleision Caerdydd ac Undeb Rygbi Cymru gyda balchder mawr yn Nhwrnamaint Ieuenctid y Byd Sanix 2019.
“Mae ein trydedd gêm yn erbyn y ffefrynnau, sef Coleg St Peters Auckland, sy’n cynrychioli Seland Newydd. Mae hwn yn gyfle i’r bechgyn wynebu’r haka nodedig – anrhydedd fawr oherwydd nid oes llawer o dimau na chwaraewyr unigol yn cael y fraint o wneud hynny.
“Bydd timau’n cynrychioli Uruguay, De Affrica, Rwsia, Korea ac Awstralia’n cystadlu gyda chwe thîm ychwanegol o bob rhan o Japan. Mae hwn yn drip arbennig iawn yn sicr – mae posib i chi fwynhau gyrfa rygbi 15 mlynedd heb gael cyfle o gwbl i gael eich gwahodd ar daith o’r natur yma i gyrchfan mor arwyddocaol yn ystod blwyddyn Cwpan y Byd.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ymgolli yn niwylliant Japan ac yn gobeithio lledaenu enw da Coleg Caerdydd a’r Fro a Chymru ar lwyfan rhyngwladol, ar ac oddi ar y cae.”
Hefyd mae’r garfan wedi cael rhaglen hyfforddi gyda Chymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru a Cholegau Cymru, i’w paratoi ar gyfer eu taith ryngwladol gyntaf ac i’w helpu i ddeall iaith a diwylliant Japan yn well.
Capten sgwad yr Academi Rygbi fydd bachgen 17 oed o Benarth, Evan Lloyd.
“Dydw i ddim yn gallu aros – mae cymryd rhan yn y twrnamaint yma’n mynd i fod yn dda iawn,” dywedodd Evan. “Bydd yn brofiad newydd i ni i gyd; dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw rai o’r bechgyn wedi chwarae yn erbyn timau o Fiji, Awstralia a Seland Newydd ac mae’n mynd i fod yn grêt i ni i gyd.
“Rydw i mor gyffrous am fynd i Japan. O’r hyn rydw i wedi’i weld yn ein sesiynau hyfforddi ni, mae’n edrych yn dda iawn.
“Rygbi yw fy mhrif ffocws i ar hyn o bryd ac rydw i eisiau gweld pa mor bell allaf i fynd. Mae bod yn rhan o’r Academi Rygbi’n help enfawr i gael i mewn i dîm rhanbarthol neu’r tîm cenedlaethol.
“Bydd profiadau fel cynrychioli Cymru yn Japan yn gyfle i mi weld timau o wledydd eraill a dysgu oddi wrthyn nhw hefyd.”
Dywedodd Pennaeth CCAF, Kay Martin: “Mae’n anrhydedd cael gwahoddiad i gymryd rhan yn Nhwrnamaint Ieuenctid y Byd Sanix. Dim ond y goreuon sy’n cael gwahoddiad ac mae hwn yn gyfle gwych i chwaraewyr ein Academi Rygbi ni, cyfle all newid eu bywydau nhw. Hoffwn ddymuno pob lwc i bob un ohonyn nhw yn y gystadleuaeth.
“Bydd llawer o chwaraewyr yr Academi Rygbi’n sefyll arholiadau ym mis Mehefin ac maen nhw i gyd wedi gorfod astudio’n galed i wneud yn siŵr eu bod yn cael sedd ar yr awyren. Bydd nifer o sesiynau adolygu’n cael eu cynnal ar eu cyfer allan yn Japan hefyd, i wneud yn siŵr eu bod yn barod ar gyfer eu harholiadau Safon Uwch yr haf yma.”
Mae Academi Rygbi Coleg Caerdydd a’r Fro’n cynnwys myfyrwyr o bob rhan o’r Coleg sy’n astudio amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol ac academaidd. Mae’r Academi’n darparu amgylchedd cefnogol ac arbenigol sy’n cyfuno cyfleusterau hyfforddi a chwaraeon o’r safon uchaf gyda phortffolio’r Coleg o gyrsiau sy’n prysur ehangu. Gall y chwaraewyr wneud cynnydd yn eu gyrfaoedd chwaraeon wrth astudio yn y Coleg.
Mae Academi Rygbi CCAF wedi denu cefnogaeth sydd i’w chroesawu gan bartneriaid a noddwyr amrywiol. Ymhlith y partneriaid sy’n cefnogi mae Cymdeithas Adeiladu’r Principality, Aston Martin, Cardiff Blues, Hodge Bank, Clwb Rotari Bae Caerdydd, Grŵp Genero a Limegreentangerine, Moss Bros a Macron.