Er mai dim ond ym mis Medi y dechreuodd ar gwrs Gradd Sylfaen mewn Cyfathrebu Graffig, mae myfyrwraig o Goleg Caerdydd a’r Fro, Jasmin Choy, wedi dod o hyd i waith eisoes – fel Dylunydd Graffig.
Mae Jasmin wedi cael ei chyflogi fel Intern Dylunio Graffig yng ngŵyl celfyddydau ieuenctid RawFfest. Yn cael ei chynllunio a’i rhaglennu gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc, bydd RawFfest yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 25ain a 28ain Ebrill.
Cysylltodd trefnwyr yr ŵyl â CCAF yn gofyn am ddysgwyr Cyfathrebu Graffig. Gwnaeth Jasmin gais a chafodd yr interniaeth.
Bydd rôl Jasmin yn cynnwys creu rhaglen RawFfest a hefyd taflenni, posteri a baneri.
“Mae’n grêt – dim ond ychydig fisoedd yn ôl wnes i symud i lawr o Newcastle i wneud y Radd Sylfaen yma mewn Cyfathrebu Graffig a nawr rydw i’n gweithio yn y maes,” dywedodd Jasmin, sy’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr nawr. “Fe wnaeth Mam grio pan wnes i ddweud wrthi.”
Roedd symud i fyd dylunio graffig yn newid cyfeiriad i Jasmin.
“Roeddwn i’n gwneud prentisiaeth mewn Seibr-Ddiogelwch ond yn gwneud darlunio a graffeg yn fy amser sbâr ac fe wnes i benderfynu ’mod i’n mwynhau hynny fwy,” esboniodd “Doedd gen i ddim pwyntiau UCAS i fynd i brifysgol felly roedd y cwrs sylfaen yma’n grêt i mi.
“Rydw i wrth fy modd. Mae’n berffaith ac yn dysgu popeth fydda’ i ei angen yn y byd go iawn. Mae’n bwnc diddorol. Rydyn ni’n cael briffiau ond yn cael rhyddid i fod yn greadigol gyda’r briffiau hynny.
“Mae’r darlithwyr wedi bod o help mawr hefyd – gan gynnwys gyda’r gwaith rydw i’n wneud ar gyfer RawFfest. Beirniadaeth adeiladol! Rydw i’n dysgu sgiliau o safon diwydiant a ’fyddai hynny ddim yn bosib wrth wneud hyn ar fy mhen fy hun.”
Mae Gradd Sylfaen CCAF mewn Cyfathrebu Graffig yn cael ei chynnig mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae’r dysgwyr yn astudio gwaith print traddodiadol a digidol; ffotograffiaeth; dylunio cyhoeddusrwydd, gwybodaeth a golygyddol; darlunio a chynllunio gwefannau rhyngweithiol.
Mae ffocws mawr ar y diwydiant fel rhan o’r cwrs ac mae’n defnyddio cysylltiadau gwych y Coleg gyda chwmnïau dylunio lleol ac yn cynnig amrywiaeth eang o friffiau arbrofol a masnachol. Mae’r myfyrwyr yn astudio am ddwy flynedd ac yn dilyn trydedd flwyddyn derfynol ym Met Caerdydd i ychwanegu at y cwrs i gwblhau gradd lawn.
“Mae’r cwrs yma o help mawr i mi,” dywedodd Jasmin. “Rydw i wir eisiau mynd ymlaen i weithio mewn dylunio graffig.
“Rydw i’n gwybod bod pobl yn dweud bod mwy o arian mewn seibr-ddiogelwch ond fe fydd mwy a mwy o alw am ddylunwyr graffig yn ystod y blynyddoedd nesaf hefyd.”