Mae peirianwyr awyrennau addawol o ysgolion ledled Caerdydd a Bro Morgannwg wedi cael eu herio mewn Her Awyrofod arbennig a gynhaliwyd gan Goleg Caerdydd a’r Fro.
Teithiodd y disgyblion sydd ym Mlwyddyn 10 i Ganolfan Hyfforddiant Awyrofod Ryngwladol (ICAT) nodedig y Coleg ar gyfer yr Her Awyrofod flynyddol. Mae’r gystadleuaeth yn rhoi blas i ddisgyblion ysgol ar y tasgau amrywiol sy’n gysylltiedig â’r diwydiant peirianneg awyrofod ac yn dangos gwerth addysg alwedigaethol, gyda dysgwyr CCAF yn helpu ac yn gweithredu fel llysgenhadon.
Tîm o Ysgol Uwchradd Pencoedtre enillodd y gystadleuaeth, gan gadw eu teitl, gan mai tîm o’r ysgol oedd yr enillwyr y llynedd hefyd. Roedd y gystadleuaeth yn cynnwys profi sgiliau llygad a llaw a rheoli prosiect, a hefyd cafodd y disgyblion roi cynnig ar efelychwr hedfan y Coleg.
Dywedodd athrawes Mathemateg Ysgol Uwchradd Pencoedtre, Holly Bryant: “Mae’r Coleg yn lleoliad anhygoel, mae’r staff mor gyfeillgar a pharod i helpu o’r foment rydych chi’n camu i mewn i’r adeilad. Mae’r gweithgareddau’n grêt – mae’r disgyblion wir yn hoffi’r amrywiaeth ac rydw i’n teimlo ei fod yn dangos y llwybrau gwahanol y gallen nhw eu dilyn yn y dyfodol.
“Roedd yn braf iawn cael dysgwyr y Coleg yno hefyd – roedden nhw’n barod iawn i helpu ac yn frwdfrydig ac roedd y disgyblion yn hoffi siarad gyda nhw am y cyrsiau maen nhw’n eu dilyn. Dyma un o fy hoff ddyddiau i yn ystod y flwyddyn a’r trip gorau rydw i wedi bod arno.”