Mae Pennaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Lles Coleg Caerdydd a’r Fro, James Donaldson, wedi’i goroni’n Arweinydd Ysbrydoledig y Flwyddyn ledled y DU am ei waith yn cyflwyno gwasanaethau myfyrwyr cynhwysol.
Hefyd enillodd timau Anghenion Dysgu Ychwanegol a Lles y Coleg yr ail wobr i dîm y flwyddyn, allan o 600 o golegau ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Dyfarnwyd y gwobrau gan y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Rheolwyr Gwasanaethau Myfyrwyr (NAMMS). Yn rhanddeiliad allweddol ar gyfer ymgynghoriadau adrannau’r llywodraeth sy’n rhoi sylw i ddiogelu, cyllid a lles dysgwyr mewn Addysg Bellach, mae NAMSS yn cydnabod ac yn gwobrwyo rheolwyr a chydweithwyr sy’n gweithio ym maes gwasanaethau myfyrwyr mewn addysg a hyfforddiant ôl-16.
Enwebwyd timau Anghenion Dysgu Ychwanegol a Lles y Coleg ar gyfer gwobr Tîm y Flwyddyn yng Ngwobrau NAMSS am eu gwaith arloesol ac eithriadol yn cefnogi myfyrwyr y Coleg. Daethant yn ail ledled y DU am eu dull arloesol o weithio gyda’r ‘Tîm o amgylch y Dysgwr’, sy’n dod â chefnogaeth a’r cwricwlwm at ei gilydd.
Yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf, mae’r timau wedi cefnogi mwy na 1,500 o fyfyrwyr, gan weithio’n agos â darlithwyr, cyflogwyr, rhieni a gweithwyr proffesiynol eraill. Mae gwaith y timau wedi cael ei gydnabod gan gyrff sy’n cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, Estyn, Matrix a Gyrfa Cymru ac mae gan y Coleg hefyd statws Arweinydd mewn Amrywiaeth gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth.
Yn ogystal, mae gwaith blaenllaw Coleg Caerdydd a’r Fro yn y sector wedi arwain at ei osod ar restr fer ar gyfer Gwobr Beacon y DU am Les gan Gymdeithas y Colegau.
Dywedodd James: “Roedd yn anrhydedd fawr cael fy enwebu ac ennill gwobr yr Arweinydd Ysbrydoledig yn seremoni wobrwyo Gwobrau Blynyddol NAMSS. Rydw i’n falch iawn o arwain tîm sy’n croesawu ein gwerthoedd craidd ni o fod yn gynhwysol, dylanwadol ac ysbrydoledig.
“Ein nod ni yw sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn cael y gefnogaeth maen nhw ei hangen i gyrraedd eu nodau yn y Coleg. Rydyn ni’n defnyddio dull person-ganolog o weithredu sy’n gosod y dysgwr wrth galon y penderfyniadau ac rydyn ni’n mesur ein llwyddiant yn ôl eu llwyddiant nhw. Mae cael cydnabyddiaeth ar draws y sector yn wych a gwaith caled y timau sy’n gyfrifol am hynny.”