Bydd Macron yn darparu ystod lawn o git chwarae, cit hyfforddi a gwisg hamdden newydd ar gyfer Chwaraeon CAVC. Bydd y citiau newydd yn cael eu gwisgo gan academïau a thimau chwaraeon
CAVC a byddant hefyd ar gael i holl fyfyrwyr a staff y Coleg, yn ogystal â'r cyhoedd yn gyffredinol, trwy wefan bwrpasol.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi datblygu enw da am Chwaraeon - gan gynnig cyfleusterau chwaraeon rhagorol, arbenigedd ac ystod eang o gyfleoedd i fyfyrwyr a'r gymuned ehangach.
Mae hyn yn cynnwys canolfan unigryw ar Gampws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd yn Lecwydd yn ychwanegol at gyfleusterau arbenigol ar draws safleoedd CAVC. Mae hefyd yn cynnwys academïau chwaraeon sydd wedi ennill eu plwyf erbyn hyn mewn Rygbi, Pêl-droed a Phêl Rwyd gyda mwy wrthi’n cael eu datblygu, a dewiswyd sawl aelod o’r academïau i gynrychioli timau rhanbarthol neu genedlaethol.
Dywedodd James Young, Pennaeth Chwaraeon yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro: “Mae CAVC wedi ymrwymo i ddatblygu'r amgylchedd a’r gefnogaeth iawn i athletwyr elitaidd presennol a rhai'r dyfodol i gydbwyso eu dysgu ochr yn ochr â’u hymrwymiadau chwaraeon. Ochr yn ochr â hyn, mae ein partneriaethau cryf â phrifysgolion a chyrff chwaraeon yn ein helpu i sicrhau bod gan ein myfyrwyr yr arbenigedd a'r cyfleoedd i ddatblygu a gwneud cynnydd.
“Rydym hefyd yn angerddol am gynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon, datblygu'r ystod o gyfleoedd sydd ar gael i bawb ac annog pawb i ddod yn aelod o ‘DîmCAVC’. Rydym yn falch iawn o ddechrau partneriaeth newydd gyda Macron ac i weithio gyda’r cwmni ar draws Chwaraeon CAVC, maen nhw’n awyddus iawn i'n cefnogi i barhau â'r gwaith hwn yn y dyfodol. ”
Dywedodd Jamie Sylvester, Rheolwr Siop Macron yng Nghaerdydd: “Rydyn ni wedi cyffroi’n lân am fod Coleg Caerdydd a’r Fro wedi cytuno i ymuno â’n tîm ni sy’n prysur ehangu yn Siop Macron yng Nghaerdydd. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gyflenwi dillad chwaraeon o’r safon uchaf i’r myfyrwyr a diwallu eu hanghenion i gystadlu ar bob lefel ym mhob camp.”
Daw’r cytundeb ar gyfer y cit newydd ar amser pan mae’r Coleg hefyd wedi lansio cyfrif Twitter yn benodol ar gyfer Chwaraeon CAVC, @CAVCSport, a fydd yn cynnwys holl newyddion chwaraeon diweddaraf CCAF, yr uchafbwyntiau, sylw byw i gemau a llawer, llawer mwy.