Rhys, myfyriwr yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, i gynrychioli Cymru mewn hoci

22 Maw 2019

Mae myfyriwr o Goleg Caerdydd a’r Fro, Rhys Payne, wedi cymryd cam yn nes at gael ei ddewis ar gyfer tîm Hoci hŷn Cymru.

Gofynnwyd i’r myfyriwr Chwaraeon Lefel 3 17 oed ymarfer gyda charfan dynion Hoci Cymru. Mae wedi bod yn chwarae yn y gôl i Gymru er pan oedd yn 13 oed ac roedd yn aelod o’r tîm D18.

“Mae’n braf gweld fy ngwaith caled i’n talu ar ei ganfed – dim ond dechrau yw hyn o ran ble rydw i eisiau bod,” dywedodd Rhys. “Mae’n anrhydedd fawr ac rydw i’n edrych ymlaen at fwy o waith caled er mwyn cael fy newis ar gyfer gemau.”

Ar hyn o bryd mae Rhys yn chwarae i dîm hoci D21 Cymru ac mae’n edrych ymlaen at gystadlu yng nghystadleuaeth D21 Ewrop yn nes ymlaen eleni.

“Fe ddylai fod yn hwyl,” meddai. “Roeddwn i yng nghystadleuaeth D16 Ewrop ac fe wnaethon ni ennill yr aur, felly bydd yn neis mynd yn ôl.”

Hefyd mae Rhys yn chwarae yn y gôl i dîm hoci Met Caerdydd ac mae wedi ymwneud â hyfforddi tîm ieuenctid y brifysgol.

“Rydw i eisiau gyrfa’n hyfforddi hoci,” dywedodd Rhys. “Fe hoffwn i fod yn hyfforddwr hoci llawn amser.

“Mae fy nghwrs i yn y Coleg yn sicr yn fy helpu i gyda fy ngyrfa. Rydw i’n dysgu am seicoleg, sy’n bwysig i gôl-geidwad mewn hoci ac mae’n cynnwys elfennau o hyfforddi hefyd, sef beth rydw i eisiau mynd ymlaen i’w astudio yn y brifysgol – hyfforddi chwaraeon. Mae hynny’n bwysig iawn i mi – mae’n dda.”

Dywedodd Darlithydd Chwaraeon CAVC, Kayley John: “Fel adran rydyn ni’n falch iawn o Rhys a’r hyn mae wedi’i gyflawni. Mae’n sicrhau cydbwysedd rhwng ei ymrwymiad i hoci Cymru a phresenoldeb rhagorol ac mae’n gredyd i’r Coleg.”