Tom, prentis yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, ar y ffordd i Rwsia

13 Maw 2019

Prentis yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro yw un o drydanwyr dan hyfforddiant gorau’r wlad ac mae wedi cael ei ddewis ar gyfer Tîm y DU i gystadlu yn Rowndiau Terfynol WorldSkills yn Rwsia yn nes ymlaen eleni.    

Yn cael eu hadnabod fel ‘Gemau Olympaidd i Sgiliau’, mae Cystadlaethau WorldSkills yn denu prentisiaid a myfyrwyr gorau’r byd i frwydro am Aur, Arian ac Efydd yn y sgiliau maent yn rhagori ynddynt. Ar hyn o bryd, mae’r DU yn ddegfed yn safleoedd WorldSkills yn dilyn ei llwyddiant yn ennill medalau yng Nghystadleuaeth ddiwethaf WorldSkills yn Abu Dhabi yn 2017.

Gwahoddwyd y Prentis Trydan, Tom Lewis, i gystadlu am le yn Nhîm y DU ar gyfer WorldSkills Kazan 2019 ar ôl disgleirio yng Nghystadlaethau Cenedlaethol y DU WorldSkills, a chymryd rhan yn EuroSkills y llynedd. Bellach mae wedi cael ei ddewis ar gyfer Tîm y DU a bydd yn teithio i Kazan yn Rwsia yn nes ymlaen yn 2019.

Mae Tom yn cael ei gyflogi gan y cwmni Blues Electrical a’i hyfforddi gan ei diwtor Geoff Shaw yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro.

Dywedodd Dirprwy Bennaeth y Coleg, Sharon James: “Llongyfarchiadau aruthrol i Tom am gael lle yn Nhîm y DU ar gyfer WorldSkills Kazan – bydd yn gyfle anhygoel a does dim llawer o bobl ifanc yn cael profi rhywbeth fel hyn.

“Mae’n gyflawniad arbennig iawn. Mae Tom wedi disgleirio ym mhob cystadleuaeth WorldSkills a Chystadleuaeth Sgiliau Cymru a’i wobr yw cynrychioli’r DU yn y rowndiau terfynol rhyngwladol.

“Nid dim ond holl waith caled Tom sydd wedi talu ar ei ganfed. Fe hoffwn i hefyd longyfarch tiwtor Tom, Geoff Shaw, a’i gyflogwr, Blues Electrical, am eu holl gefnogaeth – mae wedi bod yn llwyddiant.”

WorldSkills UK sy’n gyfrifol am ddewis, datblygu a hyfforddi’r tîm ar gyfer Cystadleuaeth WorldSkills. Yn bartneriaeth rhwng byd busnes, addysg a’r llywodraethau, mae WorldSkills UK yn cynnal cystadlaethau sgiliau ar gyfer miloedd o bobl ifanc bob blwyddyn mewn meysydd sgiliau economaidd allweddol, gan roi hwb i sgiliau technegol, meddylfryd a sgiliau cyflogadwyedd pobl ifanc.

Dywedodd Neil Bentley-Gockmann OBE, Prif Weithredwr WorldSkills UK, sy’n hyfforddi ac yn dewis y tîm ac yn defnyddio ei lwyddiant i hybu sgiliau ledled y wlad: “Meddyliwch am y Gemau Olympaidd – ond yn llawer pwysicach i ddyfodol economaidd y Deyrnas Unedig.

“Mae hwn yn gyfle i newid bywyd pawb sy’n cymryd rhan.

“Rydw i’n eithriadol falch o’r bobl ifanc yma fydd ar yr awyren i Rwsia. Maen nhw wedi gweithio’n ddiflino am wythnosau, misoedd a blynyddoedd i fod y gorau – maen nhw’n esiampl wych i’r genhedlaeth nesaf – rhaid i ni ddathlu eu hymrwymiad, eu hysbryd a’u llwyddiant.

“Rydyn ni nid yn unig yn rhoi cyfle i bobl ifanc gyflawni eu llawn botensial ond hefyd yn credu ein bod ni, drwy weithio gyda nhw, yn gallu trosglwyddo’r wybodaeth sy’n cael ei dysgu wrth gystadlu yn erbyn gwledydd eraill yn rhan o economi ehangach y DU, gan wella safonau hyfforddi ar gyfer pobl ifanc i gyrraedd safon byd, a rhoi hwb y mae ei wir angen i gynhyrchiant.”

Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan Tom, mae WorldSkills UK yn chwilio am brentisiaid a myfyrwyr i gymryd rhan yn WorldSkills Shanghai 2021. Cofrestrwch yn worldskillsuk.org erbyn 5 Ebrill.