Croesawodd Coleg Caerdydd a’r Fro rai o dalentau coginio ifanc gorau’r wlad a fu’n brwydro mewn cyfres o rowndiau terfynol Lletygarwch ac Arlwyo Cystadleuaeth Sgiliau Cymru.
Hefyd, galwodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates, heibio i weld y cogyddion addawol yn cystadlu.
Cynhaliwyd rowndiau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ym mwyty Y Dosbarth CCAF, sy’n cael ei reoli gan brosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru a’i gydlynu gan Cambrian Training. Hefyd croesawodd y Coleg arddangosfeydd Lletygarwch gan aelodau sgwad WorldSkills UK a sesiynau ‘Rhoi Cynnig Arni’ i weithio gyda myfyrwyr Coleg eraill.
Aethpwyd â’r Gweinidog o amgylch y rowndiau terfynol oedd yn cael eu cynnal mewn Patisserie a Melysion Uwch a Chelf Coginio Uwch yn nwy gegin Y Dosbarth, a’r rowndiau Gwasanaeth Bwyty Uwch terfynol oedd yn cael eu cynnal yn y bwyty ei hun.
Hefyd cafodd weld arddangosfeydd WorldSkills UK ym Mecws y Coleg a’r arddangosfeydd ‘Rhoi Cynnig Arni’ yn Atriwm Campws Canol y Ddinas.
Dywedodd Dirprwy Bennaeth CAVC, Sharon James: “Roedd yn bleser cael croesawu Gweinidog yr Economi, Ken Skates, i’r Coleg i weld rhai o dalentau coginio ifanc gorau Cymru. Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru’n hwb o weithgareddau sgiliau sy’n arddangos opsiynau gyrfaol a phrofiadau i newid bywydau ar gyfer dysgwyr ifanc sy’n gallu mynd ymlaen i gystadlu’n genedlaethol ac yn rhyngwladol.
“Roedd cael Cystadleuaeth Sgiliau Cymru’n dod i Goleg Caerdydd a’r Fro’n gyfle rhagorol i ddangos i’r Gweinidog y gwaith rhagorol ac arloesol mae Sefydliadau Addysg Bellach yn ei wneud wrth baratoi pobl ifanc Cymru ar gyfer y byd gwaith.”
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates: “Roedd yn bleser cael bod yn y digwyddiad yma gan Gystadleuaeth Sgiliau Cymru a gweld rhai o sêr coginio’r dyfodol yn brwydro i ennill. Mae digwyddiadau fel hyn yn gyfle i’n pobl ifanc ni arddangos eu sgiliau, gweithredu mewn amgylchedd cystadleuol a datblygu profiad a chadernid a fydd yn eu helpu nhw i ragori yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
“Mae mor bwysig dathlu talentau’r rhai sy’n cyflawni ar lefel uchel a’u hannog a’u datblygu nhw i gystadlu ar lefel y DU, yn genedlaethol neu’n rhyngwladol hyd yn oed.”