Mae myfyrwraig Chwaraeon o Goleg Caerdydd a'r Fro, Kathryn Titley, wedi cael ei dewis i gynrychioli Cymru mewn pêl-rwyd.
Dewiswyd Kathryn o Ben-y-bont ar Ogwr ar gyfer tîm dan 17 Cymru a fydd yn cystadlu yng nghystadleuaeth Netball Europe yn Huddersfield, yn dechrau ar 1 Mawrth.
"Rwyf wedi gwirioni fy mod wedi cael fy newis - mae wedi bod yn werth yr holl waith caled ac rwy'n edrych ymlaen yn arw," meddai. "Bydd fy nheulu i gyd yn dod i Huddersfield i fy ngwylio'n cymryd rhan yn y gystadleuaeth."
Mae Kathryn yn chwarae i Academi Bêl-rwyd y Coleg, sy'n rhan o ystod gynyddol CAVC o academïau chwaraeon. Diben yr academïau yw darparu amgylchedd cefnogol ac arbenigol sy'n cyfuno hyfforddiant a chyfleusterau o'r radd flaenaf â phortffolio cynyddol y Coleg o gyrsiau. Gall chwaraewyr astudio cyrsiau Safon Uwch neu alwedigaethol wrth hyfforddi i fod yn sêr nesaf y byd pêl-rwyd.
Mae'r Academi Bêl-rwyd, sy'n hyfforddi ac yn chwarae ei gemau cartref yn Nhŷ Chwaraeon Dinas Caerdydd, yn cael ei hyfforddi gan Kyra Jones - sydd wedi cynrychioli Cymru yng Nghwpan Pêl-rwyd y Byd a Gemau'r Gymanwlad.
"Mae Kyra wedi bod o help mawr i mi yn ystod y cyfnod byr rwyf wedi bod yn y Coleg," meddai Kathryn. "Mae wedi fy annog a'm helpu, nid yn unig gyda fy sgiliau ond hefyd gyda fy hyder.
"Rwyf 100% eisiau gyrfa mewn pêl-rwyd. Rwyf wedi mwynhau pêl-rwyd erioed a dydw i byth eisiau i hynny orffen."
Mae wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus i Academi Bêl-rwyd CAVC hyd yma. Yn ddiweddar, dewiswyd tri chwaraewr i fynychu Canolfannau Hyfforddiant Perfformiad Dan 21 Pêl-rwyd Cymru ar gyfer eu rhanbarthau: Charlotte Lewis ar gyfer De-ddwyrain Cymru, Seren Evans ar gyfer Canol De Cymru ac Amy Bradbury ar gyfer Canol De Cymru.
Yn ogystal, dewiswyd Kida Ball ar gyfer Tîm Colegau Cymru yn ddiweddar, sy'n golygu mai hi yw'r pumed chwaraewr o'r Academi Bêl-rwyd i ddod yn rhan o Dîm Pêl-rwyd Colegau Cymru ers mis Medi.