Myfyrwyr celf yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro’n Creu Celf Nid Rhyfel

18 Chw 2019

Mae myfyrwyr Celf a Dylunio o Goleg Caerdydd a’r Fro wedi bod yn ystyried beth yw ystyr heddwch iddyn nhw fel rhan o brosiect NOW 14-18.

Mae’r prosiect yn rhan o fenter bum mlynedd i goffau canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Fel rhan o friff byw a osodwyd gan Amgueddfa Imperial y Rhyfel, mae’r artist ymweld, Ethan Dodd, wedi bod yn mynychu campws y Barri CCAF i weithio gyda’r myfyrwyr Celf a Dylunio Lefel 1, 2 a 3.

“Rydyn ni wedi bod yn gweithio ar syniadau am beth yw heddwch i’r myfyrwyr fel rhan o brosiect Creu Celf Nid Rhyfel NOW 14-18,” esboniodd Ethan. “Rydyn ni wedi bod yn creu fflagiau ac yn edrych ar symbolaeth a syniadau cysylltiedig â heddwch a phrotest.

“Rydyn ni hefyd wedi bod yn gweithio gyda cherameg, tecstilau a chrisialau – sef fy arbenigedd i.”

Bydd Coleg Caerdydd a’r Fro’n cynnal cynhadledd yn y Gwanwyn a fydd yn dod â’r gwaith celf sydd wedi’i wneud gan fyfyrwyr colegau ledled Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ar gyfer briff byw Creu Celf Nid Rhyfel at ei gilydd. Bydd y gwaith sydd wedi’i ysbrydoli gan Ethan Dodd, yn ogystal â gwaith arall gan fyfyrwyr creadigol ar draws y Coleg, yn rhan o’r digwyddiad.

“Rydw i wir wedi mwynhau gweithio gyda’r dysgwyr – mae’n rhoi cymaint o foddhad,” dywedodd Ethan. “Maen nhw’n hwyl ac rydw i’n meddwl ’mod i’n dysgu mwy amdanaf i fy hun a beth rydw i’n ei wneud fel artist.

“Mae’r prosiect yma wedi agor eu llygaid nhw a gwneud iddyn nhw feddwl am artistiaid nad oedden nhw’n gwybod amdanyn nhw o’r blaen efallai, a gweithio mewn cyfryngau nad ydyn nhw wedi’u defnyddio o’r blaen. Rydw i’n mynd adref gyda gwên ar fy wyneb.”