Coleg Caerdydd a’r Fro yn lansio ei amrywiaeth fwyaf erioed o gyrsiau rhan amser yn barod ar gyfer 2020

18 Rhag 2019

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi cyhoeddi ei amrywiaeth fwyaf erioed o gyrsiau rhan amser a fydd ar gael o fis Ionawr 2020 ymlaen.

Yn dilyn llwyddiant y cyrsiau rhan amser y gwnaeth CCAF ddechrau eu cynnig yn yr haf, mae’r Coleg wedi penderfynu ehangu ei ddarpariaeth. Nod y cyrsiau, sy’n cael eu cynnig ar draws amrywiaeth o feysydd galwedigaethol ac academaidd, yw darparu ar gyfer pobl sydd eisiau mynd yn ôl i’r gwaith, datblygu eu sgiliau neu roi cynnig ar rywbeth newydd.

O gyflwyniad i hedfan drônau i beirianneg moduro, gwallt a harddwch ac iechyd a diogelwch yn y gwaith, mae gan y Coleg rywbeth i bawb.

Fel rhan o’r ddarpariaeth hon, mae CCAF wedi cynyddu ei ddarpariaeth o gyrsiau rhan amser am ddim i oedolion eto. Mae’r rhain yn canolbwyntio ar helpu oedolion i fynd yn ôl i’r gwaith neu wneud cynnydd yn eu gyrfa. Mae rhai’n cynnig cefnogaeth ariannol ychwanegol hyd yn oed i oedolion ddysgu, gan gynnwys gofal plant.

Hefyd mae cyfle i’r dysgwyr wella eu sgiliau digidol gydag ystod newydd sbon o gyrsiau yn Academi Ddigidol CCAF, yn ogystal â dechrau cymhwyster rhan amser proffesiynol gydag Ysgol Fusnes CCAF.

Dywedodd un o’r myfyrwyr Tystysgrif Ganolraddol CIPD Lefel 5 mewn Rheoli Adnoddau Dynol, Hannah Scrivens: “Roeddwn i eisiau gwella fy hun a chael cymhwyster newydd ar ôl cael fy mab. Mae gen i lawer mwy o hyder ac mae wedi bod yn siwrnai anhygoel i mi.

“Rydych chi’n dysgu cymaint o wybodaeth gan y bobl amrywiol rydych chi’n astudio â nhw ac mae e werth e am hynny yn unig.”

Dilynodd Sam Abdul Salam Al Roainy gwrs Coginio Proffesiynol Lefel 2 yn 2019.

“Roeddwn i’n arfer bod yn ofalwr ond roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth gwahanol,”
meddai. “Roeddwn i’n mwynhau coginio ac rydw i’n hoffi rhaglenni coginio fel Masterchef felly fe wnes i benderfynu gwneud cwrs coginio.

“Rydw i wedi mwynhau fy amser yn y Coleg yn fawr iawn – rydw i wedi gwneud cais am gwrs Lefel 3 ac wedi cael gwahoddiad am gyfweliad, sy’n gyffrous.”

Os oes ffi am y cwrs, mae’r Coleg wedi ymrwymo i sicrhau ei bod yn fforddiadwy – gan ddarparu cymwysterau proffesiynol a hyd yn oed cyrsiau lefel prifysgol ar gost sy’n cynnig gwerth am arian. Mae cefnogaeth ariannol amrywiol ar gael ar gyfer llawer o’r cyrsiau hyn ac mae’r Coleg yn gallu cynnig cyngor ac arweiniad.

Y llynedd dilynodd miloedd o bobl ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gwrs gyda CCAF i gyrraedd eu nod. Os hoffech chi droi dalen newydd yn y flwyddyn newydd, ewch i www.cavc.ac.uk/coursesforadults.