Myfyrwyr Creadigol Coleg Caerdydd a’r Fro yn eu helfen yn addurno’r New Theatre ar Thema Sinderela

9 Rhag 2019

Mae’r myfyrwyr Diwydiannau Creadigol yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro wedi bod yn addurno’r New Theatre gyda’u gwaith eu hunain i gyd-fynd â phantomeim y theatr yn 2019 – Sinderela.

Cafodd y myfyrwyr friff byw i addurno pedwar llawr y theatr yng Nghaerdydd. Mae briffiau byw CCAF yn cynnwys dysgwyr yn cael eu comisiynu i weithio i gleientiaid allanol, gan roi cyfle iddyn nhw brofi a dilysu eu sgiliau mewn amgylchedd real, nid dim ond realistig.

Nod briffiau yw rhoi profiad gwaith i fyfyrwyr, gan sicrhau eu bod yn diwallu anghenion y farchnad swyddi yn yr yrfa o’u dewis pan maen nhw’n gadael y Coleg.

“Hwn oedd fy mhrofiad cyntaf i’n gweithio i unrhyw theatr ac roedd yn wych,”
meddai myfyriwr Diploma Lefel 2 mewn Celf a Dylunio, Waniyah Farah. “Mae gennym ni waith trawiadol iawn, fel esgid hardd Sinderela, ceffyl yn hedfan, bocs tynnu lluniau a llawer o weithiau eraill.

“Roeddwn i wrth fy modd gyda’r ffordd roedd ein cynlluniau ni’n cael eu gwerthfawrogi ac roedd staff y theatr o help mawr ac roedd popeth mor drefnus. Roedden ni i gyd mor falch ar ôl arddangos ein gwaith ni oherwydd roedd popeth yn edrych yn anhygoel ac roedd yn bleser cael profiad mor arbennig.”

Dywedodd y myfyriwr Diploma Estynedig mewn Celf a Dylunio, Sam Franks: “Fel myfyriwr yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro am y ddwy flynedd ddiwethaf, rydw i wedi cael cyfle i gydweithio gyda’r New Theatre i ddylunio, creu ac arddangos gwaith celf cysylltiedig â’r pantomeim blynyddol. Mae’n brofiad anhygoel cael arddangos eich gwaith mewn lle penodol yng Nghaerdydd.

“Fel artist a myfyriwr mae’n gyfle gwych i gael arddangos gwaith rydych chi wedi’i greu a’i ddylunio eich hun ac a fydd yn cael ei arddangos i lawer iawn o bobl gan fod llawer yn ymweld â’r theatr yr adeg yma o’r flwyddyn. Hefyd mae cydweithredu gyda’r New Theatre yn cynnig profiad a dealltwriaeth o’r byd creadigol lle rydyn ni’n gobeithio dilyn gyrfa yn y dyfodol. Mae’r gwaith paratoi yma’n gwbl wahanol i unrhyw ddysgu sy’n digwydd yn y dosbarth.”