Coleg Caerdydd a’r Fro yn ymuno â Chlwb Criced Sirol Morgannwg i lansio Academi Addysg a Chriced

15 Tach 2019

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi penderfynu ehangu ei bortffolio o Academïau Chwaraeon ac ymuno â Chlwb Criced Sirol Morgannwg i lansio Academi Addysg a Chriced newydd.

Ac mae Academi Addysg a Chriced CAVC/Clwb Criced Sirol Morgannwg yn rhagori eisoes gyda phump o’i chwaraewyr wedi cael eu dewis ar gyfer carfan Criced D17 Cymru: James Archer, Nathan Berry, Ben Davies, Ethan Davies a Scott O’Leary.

Mae Academi Addysg a Chriced CAVC/Clwb Criced Sirol Morgannwg yn rhan o amrywiaeth gynyddol y Coleg o Academïau Chwaraeon. Hefyd mae’r academïau’n darparu amgylchedd cefnogol ac arbenigol sy’n cyfuno cyfleusterau hyfforddi a chwaraeon o’r safon uchaf gyda chyrsiau amrywiol CCAF sy’n prysur ehangu.

Dywedodd Adam Harrison: “Mae Academi Addysg a Chriced CCAF/Morgannwg yn ffordd ragorol o ddatblygu sgiliau criced y myfyrwyr ac maen nhw’n cyflawni’n rhagorol yn addysgol ar yr un pryd. Mae cyfle i astudio a hyfforddi mewn lleoliad gêm brawf o safon byd yn gwbl unigryw.

"Rydw i’n credu y bydd y bartneriaeth rhwng Morgannwg a CCAF yn mynd o nerth i nerth ac mae hwn yn gyfnod cyffrous i fod yn rhan o hyn.”

Bydd yr Academi Addysg a Chriced yn cynnal sesiynau blasu ar y dyddiadau canlynol:

• 13eg Tachwedd 1.30-3.30pm
• 20fed Tachwedd 2-3.30pm
• 27ain Tachwedd 2-3.30pm

Hefyd bydd yn cynnal ei Noson Agored gyntaf nos Iau, 21ain Tachwedd yn yr Ysgol Griced Dan Do yng Ngerddi Sophia rhwng 5 a 7pm.

Dywedodd chwaraewr yr Academi a D17 Cymru, James Archer: “Mae’r cwrs yma’n ffordd grêt o ddysgu a gwella eich sgiliau. Mae’n wahanol i chweched dosbarth neu ysgol, sy’n well gen i oherwydd rydych chi’n cael gweithio yn eich amser eich hun oddi mewn i amserlen wedi’i neilltuo.

“Mae gallu gweithio’n dda ac wedyn gweithio’n galed mewn ysgol hyfforddi dan do yn anhygoel ac mae’n dod yn drefn o ddydd i ddydd i chi ac rydych chi’n cael cyfle i weithio a datblygu eich gêm.

“Roedd cynrychioli Cymru yn anrhydedd fawr ac mae’n rhywbeth y byddaf yn ei werthfawrogi am byth – gallaf ddweud fy mod i’n lwcus iawn i fod wedi ei wneud.”

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Kay Martin: “Rydyn ni mor falch o weithio mewn partneriaeth â Chlwb Criced Sirol Morgannwg. Mae’r Academi’n gyfle gwych i ddarpar chwaraewyr criced ddatblygu eu rhagoriaeth academaidd a chwaraeon law yn llaw.

“Mae Morgannwg wedi bod yn eithriadol gefnogol a bydd gallu ymarfer a chwarae yng Ngerddi Sophia yn ysbrydoledig i bawb cysylltiedig.”

Dywedodd Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris: “Mae’r bartneriaeth gyda Choleg Caerdydd a’r Fro yn ffordd wych i fyfyrwyr wella eu sgiliau criced a chael addysg ragorol mewn lleoliad criced o safon byd.

“Rydyn ni eisoes wedi gweld nifer o chwaraewyr yn elwa o’r cwrs a bydd y nifer yma’n siŵr o gynyddu gyda’r hyfforddi a’r addysgu gwych sydd ar gael.

“Fe hoffwn i annog unrhyw fyfyrwyr sy’n hoff iawn o griced ac sydd â diddordeb mewn gwella eu haddysg i gofrestru.”