One Size Fits All – Myfyrwyr Ffasiwn Coleg Caerdydd a’r Fro yn gweithio yng nghefn y llwyfan gyda Gok Wan

14 Tach 2019


Yn ddiweddar cafodd myfyrwyr Ffasiwn Lefel 3 Coleg Caerdydd a’r Fro gyfle i weithio gyda’r ymgynghorydd ffasiwn, yr awdur a’r cyflwynydd teledu, Gok Wan, ar ei sioe ddiweddar yng Nghaerdydd.

Cafodd dysgwyr y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn friff byw gan ei gwmni cynhyrchu i weithio fel rhedwyr a gwisgwyr yn y sioe ‘One Size Fits All’ a gynhaliwyd yn ddiweddar ym Mercure Holland House yng Nghaerdydd.

Bu’r myfyrwyr yn helpu i steilio’r modelau oedd yn gwisgo brandiau stryd fawr a lleol, yn helpu gyda pharatoi prif ardal y digwyddiad, yn paratoi bagiau anrhegion, yn helpu Gok gyda sesiwn Hawl i Holi ac yn croesawu gwesteion.

Dywedodd eu Darlithydd, Kerry Cameron: “Fe wnaeth y myfyrwyr ddarparu gwasanaeth rhagorol i’r cwsmeriaid a chael profiad hynod werthfawr a manteision o weithio gyda Gok a thîm Beautiful Events and Productions.”

Mae briffiau byw yn digwydd pan mae ffynhonnell neu ddiwydiant allanol yn comisiynu’r myfyrwyr i ymgymryd â thasgau penodol, gan roi profiad gwaith real iddynt yn yr yrfa o’u dewis.

Gweithiodd Jessica Giltinan fel rhedwr yn ystod y sioe. “Roedd mor dda,” meddai’r fyfyrwraig Ffasiwn 19 oed o’r Barri. “Roedden ni i gyd yn cytuno ei fod yn well na’r disgwyl ac roedden ni’n cael llawer mwy o ran nag oedden ni wedi’i feddwl.

“Roedd yn gymaint o hwyl ac rydw i’n falch ’mod i wedi cael bod yn rhan ohono. Roedd yn gipolwg da iawn ar y gwaith sydd tu ôl i gynnal sioe ffasiwn.”

Cafodd Imogen Vaughan, 16 oed ac o Gaerdydd, rôl fel gwisgwr.

“Roedd yn braf iawn gweld gwahanol fathau o ddelweddau corff yn cael eu hybu ac yn grêt cael rhywfaint o brofiad o weithio tu ôl i’r llenni yn y diwydiant ffasiwn,”
meddai. “Roedd yn hwyl dysgu sut i wisgo modelau – roedd Gok Wan yn gwmni hwyliog ac roedd y modelau i gyd yn neis iawn hefyd.

“Roedd o help mawr oherwydd fe gefais i gyngor ar gyfer sut i sefydlu fy sioe fy hun ymhellach yn y dyfodol.”