Y Corporal Carly Smith yw’r cyntaf o’r grŵp o Bersonél y Lluoedd Arfog i raddio o’i hastudiaethau Sefydliad Siartredig ar gyfer Datblygu Personél (CIPD) yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro.
Dechreuodd Carly ar ei hastudiaethau gyda Choleg Caerdydd a’r Fro (CCAF) yn 2018 ac mae wedi gallu cwblhau ei Thystysgrif Lefel 5 mewn Rheoli Adnoddau Dynol o ganlyniad i’r dull hyblyg o gefnogi Personél Gwasanaethu drwy’r cwrs hwn. Ar hyn o bryd mae Carly wedi’i lleoli ar safle’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sain Tathan yn Ne Cymru ac mae’n gweithio yn yr adran Cefnogi Personél fel arbenigwr Adnoddau Dynol. Mae wedi ymdopi â’r cwrs ochr yn ochr â’i hymrwymiadau gwaith llawn amser.
Dywedodd arweinydd y Rhaglen CIPD a’r Darlithydd Rheoli Adnoddau Dynol, Nick Carter: “Mae CCAF wedi gweld cynnydd sylweddol yn y cofrestriadau eleni ar gyfer y cwrs, gan filwyr a gweision sifil y Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae’r hyblygrwydd cynhenid rydyn ni’n ei gynnig yn dangos ein bod ni’n deall gofynion bywyd yn gwasanaethu a hefyd yn cynnig cefnogaeth i’r rhai sydd eisiau ennill eu cymhwyster. Mae unigolion o rengoedd amrywiol yn teithio ledled y wlad i fynychu ein cyrsiau ni, sy’n dangos bod y ddarpariaeth sy’n cael ei chynnig yn werthfawr”.
Yn ddiweddar derbyniodd CCAF Wobr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr, gan ddangos ei ymrwymiad parhaus i Gyfamod y Lluoedd Arfog ac i gefnogi personél gyda’u dyheadau i gyflawni. Mae’n arwain y ffordd wrth weithio gydag asiantaethau’r Lluoedd Arfog a darpar gyflogwyr i hybu gwerth unigryw personél y Lluoedd. Yn ychwanegol at y cwrs Adnoddau Dynol hirach, mae’r coleg hefyd wedi creu cwrs byr Adnoddau a Thalent wedi’i achredu gan CIPD. Mae’r cwrs hwn o fudd i’r rhai mewn swyddi cysylltiedig â recriwtio, i gael gwybodaeth ehangach am y diwydiant a defnydd ehangach y tu hwnt i’r fyddin.
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Kay Martin: “Roedd yn anrhydedd enfawr dod yn rhan o’r bartneriaeth yma gyda’r RAF yn 2018 wrth iddo ddathlu ei Ganmlwyddiant ac rydw i mor falch ein bod ni’n gweld y myfyriwr cyntaf yn graddio, sef Corporal Carly Smith.
“Yn CCAF rydyn ni’n deall yr angen am ddysgu hyblyg, felly bydd y cyfuniad o ddysgu o bell a sesiynau wyneb yn wyneb sy’n cael eu cynnig ar y cwrs CIPD Lefel 5 yma’n helpu personél yr RAF i ennill eu cymwysterau ar amser a chyflymder sy’n gwbl addas iddyn nhw fel unigolion. Hefyd bydd yn helpu personél fel Carly i wneud cynnydd yn yr RAF a’r tu allan iddo.”
Dywedodd y Cadlywydd Adain Steve Parkes, Cynghorydd Cefnogi Personél sydd wedi bod yn gweithio gyda CCAF i weithredu’r rhaglen: “Drwy ddarparu cyrsiau academaidd lefel uwch, teilwredig, hyblyg, safonol ac wedi’u hystyried yn dda, sy’n caniatáu dysgu o bell, mae CCAF wedi croesawu’r heriau unigryw sy’n wynebu Personél y Lluoedd Gwasanaethu wrth ymdopi â gofynion eu rôl filwrol yn erbyn y cyfle i ymgymryd ag astudiaethau academaidd. Y dull blaengar, arloesol a rhagweithiol yma o weithredu sy’n cyfrannu’n sylweddol at greu sail i broffesiynoldeb Personél y Llu Awyr Brenhinol, yn benodol, y rhai sy’n darparu cefnogaeth Adnoddau Dynol.”
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymgymryd ag astudiaethau CIPD er mwyn cwblhau’r Dystystgrif mewn Rheoli Adnoddau Dynol gysylltu ag ncarter@cavc.ac.uk neu edrych ar wefan y coleg, www.cavc.ac.uk am ragor o fanylion.