Mae myfyrwyr Celf a Dylunio Lefel 3 a Ffasiwn Lefel 3 o Goleg Caerdydd a’r Fro wedi creu arddangosfa wybodaeth yn Nhŷ Dyffryn ym Mro Morgannwg, ar ôl cael eu comisiynu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae’r arddangosfa yn ystafell wely preswylydd olaf y tŷ, sef Florence Cory, merch John ac Anna Cory, a adeiladodd Dyffryn a byw ynddo rhwng 1891 a 1936. Aeth y myfyrwyr Celf a Dylunio ati i greu syniadau cynllunio a ysbrydolwyd gan y tŷ a’i erddi Gradd 1 rhestredig enwog. Cafodd y syniadau eu paentio’n ddigidol wedyn yn batrymau ailadroddus ar ddefnydd, a ddefnyddiwyd gan y dysgwyr Ffasiwn i greu ffrogiau Edwardaidd eu steil.
Hefyd defnyddiodd y myfyrwyr glipiau o bapurau newydd, ewyllys Florence a stocrestri o’i heiddo i gael syniadau pellach.
Roedd y prosiect yn friff byw gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae briffiau byw CAVC yn cynnwys dysgwyr yn cael eu comisiynu i weithio i gleientiaid allanol, gan roi cyfle iddynt brofi a dilysu eu sgiliau mewn amgylchedd gwaith real, a rhoi hwb i’w sgiliau cyflogadwyedd hefyd.
Dywedodd un o’r myfyrwyr Celf a Dylunio, Olivia Williams o Gaerdydd: “Roedd dod â Florence yn fyw drwy batrwm yn brosiect pleserus iawn, gan chwarae rôl ditectif bron wrth ymchwilio a darllen ffynonellau amdani. Roedd trawsnewid yr wybodaeth honno’n rhywbeth gweledol yn broses oeddwn i’n ei hoffi’n fawr.
“Roedd gwybod nad dyna ddiwedd y daith i beth oeddwn i wedi’i greu yn gyffrous hefyd, ac yn wahanol i unrhyw beth rydw i wedi gweithio arno o’r blaen. Roeddwn i’n edrych ymlaen yn fawr at weld fy nghynllun yn cael ei gynnwys yn y ffrog.”
Dywedodd dysgwr Celf a Dylunio arall, Elena Grace o’r Barri: “Fe ddefnyddiais i bensaernïaeth y tŷ i ddylanwadu ar fy mhatrwm – roeddwn i’n cael fy nenu at y teils Morocaidd yn lle tân y Neuadd Fawr, oherwydd eu cyfuniad o liw a’u cynllun nodedig. Hefyd fe gefais i fy ysbrydoli gan gariad Florence at gerddoriaeth a’r themâu dwyreiniol yn y dodrefn gwreiddiol a’r gerddi.
“Fe wnes i fwynhau’r prosiect oherwydd fe wnes i ddysgu sgiliau cysylltiedig â phatrymau, ac ailadrodd yn benodol. Fe wnes i ddysgu llawer o sgiliau technegol hefyd, fel golygu a rhoi gwaith at ei gilydd yn ddigidol.”
Meddai Lois Luxton, myfyriwr Celf a Dylunio o Lanilltud Fawr: “Fe wnes i benderfynu defnyddio Florence ei hun fel ysbrydoliaeth. Gan mai ychydig o luniau o Florence sydd ar gael, fe wnes i benderfynu dychmygu sut byddai hi wedi edrych gan ddilyn y disgrifiadau ohoni.
“Fe wnes i ymchwilio i erthyglau papur newydd amdani, ac astudio ei hornamentau a’r dodrefn oedd wedi’u rhestru yng nghatalog arwerthiant y stad yn 1937.”
Dywedodd Cydlynydd Cwrs Ffasiwn a Dillad Lefel 3 CAVC, Kerry Cameron: “Mae wir yn bwysig bod y myfyrwyr Lefel 3 yn cael cymryd rhan yn y prosiectau byw yma oherwydd mae’n rhoi syniad i’r myfyrwyr o sut brofiad yw cydweithio â sefydliadau eraill. Maen nhw’n cael syniad o’r gwahanol ddylanwadau niferus sy’n gallu ysbrydoli ffasiwn ac mae hefyd yn bwysig eu bod nhw’n cael cyfle i greu cysylltiadau â sefydliadau eraill.”
Meddai Christina Hanley, Stiward y Tŷ yng Ngerddi Dyffryn: “Fe wnaethon ni ddechrau gweithio gyda CAVC flwyddyn yn ôl. Yr hyn roedden ni eisiau ei wneud oedd dod ag ystafell wely Florence Cory yn fyw.
“Mae myfyrwyr CAVC wedi cael eu hysbrydoli’n llwyr gan y gerddi a’r tŷ ac wedi meddwl am y patrymau ailadroddus yma, yn seiliedig ar Ddyffryn. Mae wedi bod yn braf iawn cael y grŵp o fyfyrwyr ifanc a brwdfrydig yma yn gweithio gyda ni – maen nhw wedi edrych ar Ddyffryn gyda llygaid cwbl ffres.
“Mae wedi trawsnewid y lle yma’n llwyr ac mae’r broses greadigol tu ôl i’r cyfan wedi bod yn hynod ddiddorol.”