Coleg Caerdydd a’r Fro’n cynnal lansiad Adnodd Iechyd ac Ymwybyddiaeth o Ganser ESOL+

14 Medi 2018

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro, gan weithio mewn partneriaeth â Chanolfan Ganser Felindre, wedi lansio Adnodd Iechyd ac Ymwybyddiaeth o Ganser cyntaf y DU ar gyfer cymunedau Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (DALlE).

Fel y darparwr mwyaf ar gyrsiau Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) yng Nghymru, mae CCAF mewn sefyllfa dda i estyn allan at gymunedau DALlE ledled y Brifddinas Ranbarth a thu hwnt. Mae ymchwil wedi canfod bod pobl o’r cymunedau hyn yn llai tebygol o gymryd rhan mewn rhaglenni sgrinio cenedlaethol ar gyfer canser a bod lefelau is o ymwybyddiaeth o arwyddion a symptomau canser yn eu plith.

Wedi’i gyllido gan Bwyllgor Cyllid Elusennol Canolfan Ganser Felindre, mae Adnodd Iechyd ac Ymwybyddiaeth o Ganser ESOL+ yn gyfres o adnoddau addysgiadol ar gyfer cymunedau DALlE sy’n cael eu cynnwys yn nosbarthiadau ESOL. Mae’r adnodd wedi cael ei greu gan weithgor sy’n cynnwys CCAF, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chanolfan Ganser Felindre.

Nod yr adnodd yw rhoi sylw i anghydraddoldeb iechyd ymhlith cymunedau DALlE yng Nghymru drwy godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd, gan gynnwys bwyta’n iach, atal canser a’r ystod o wasanaethau iechyd sydd ar gael.

Mae’r adnodd wedi cael ei dreialu’n llwyddiannus gyda dosbarthiadau yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, Addysg Oedolion Cymru yn adeilad yr YMCA ym Mhlasnewydd a BAWSO ym Mae Caerdydd a bydd yn cael ei ehangu’n swyddogol yn awr. Mae’r Coleg wedi integreiddio’r adnodd yn rhan o’i gwricwlwm a bydd yn cael cyhoeddusrwydd drwy’r Rhwydwaith Dysgu Oedolion ledled Cymru ac, yn y diwedd, Rhwydwaith ESOL ledled Cymru a’r DU.

Mae’r adborth o’r peilot gwreiddiol wedi bod yn eithriadol bositif. Dywedodd un dysgwr, Mina: “Rydw i’n synnu bod y GIG yn wasanaeth am ddim yma, hyd yn oed pan mae’n salwch difrifol fel canser, a hefyd bod llawer o brofion am ddim hefyd.

“Fe fyddwn i’n hoffi gweld fy ngwlad i’n dilyn system y DU. Roedd rhai pethau’n anodd eu deall, yn enwedig enwau ar gyfer rhannau o’r corff. Rydw i wedi dysgu llawer o eirfa gennych chi – diolch yn fawr.”  

Ychwanegodd dysgwr arall, Mansor: “Fe wnes i fwynhau dysgu’r wybodaeth am fyw yn iach, gwasanaethau’r GIG, brechiadau a symptomau canser.”

Dywedodd Dr Seema Arif, Oncolegydd Ymgynghorol yng Nghanolfan Ganser Felindre, sydd wedi arwain y gwaith: “Mae’n hanfodol bod pob dinesydd yng Nghymru'n dod yn ymwybodol o’r amrywiaeth o wasanaethau iechyd sydd ar gael, yn enwedig rhaglenni sgrinio am ganser a thriniaethau canser.

“Ar gyfer cymunedau DALlE yn benodol, mae rhwystrau diwylliannol wedi cyfyngu arnyn nhw rhag gwneud defnydd o wasanaethau iechyd amrywiol. Dyma pam mae addysg iechyd yn y cymunedau DALlE mor bwysig.

“Rydyn ni eisiau sicrhau bod addysg a gwybodaeth iechyd yn cael eu deall ac ar gael i bawb ac rydyn ni’n eithriadol ddiolchgar i’n helusen ni yn Felindre am eu rhoddion hael i gyllido’r gwaith yma.

“Rydyn ni’n hynod falch o fod yn lansio rhaglen ‘Iechyd ac Ymwybyddiaeth o Ganser ESOL+’ heddiw mewn partneriaeth â Choleg Caerdydd a’r Fro ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, i helpu i roi sylw i anghydraddoldeb iechyd mewn cymunedau DALlE ledled Cymru.”

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Kay Martin: “Rydyn ni’n hynod falch o fod yn lansio’r Adnodd Iechyd ac Ymwybyddiaeth o Ganser yma gyda Chanolfan Ganser Felindre. Mae mor bwysig bod pobl o gymunedau DALlE yn cael mynediad llawn at wybodaeth am y gwasanaethau iechyd sydd ar gael iddyn nhw.

“Mae diffyg ymwybyddiaeth a hyder dysgwyr ESOL ar ddechrau eu cwrs yn dangos bod gwir angen menter fel yr un yma ac, o ganlyniad uniongyrchol, rydyn ni wedi integreiddio’r adnodd hwn yn ffurfiol yng nghwricwlwm ESOL y Coleg.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething: 

“Trechu anghydraddoldeb iechyd yw un o’r heriau pwysicaf rydym yn eu hwynebu. Bydd yr adnodd hwn yn helpu i godi ymwybyddiaeth o ffyrdd o fyw iach ac yn annog mwy o bobl o gymunedau Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru i gael eu sgrinio am ganser.

“Mae hon yn esiampl wych o wahanol sefydliadau’n cydweithio i sicrhau bod pawb yng Nghymru’n cael cyfle teg i fyw bywyd iach a chyflawn.”