Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi creu partneriaeth newydd gyda Rubicon Dance – un o’r sefydliadau dawns cymunedol hynaf a mwyaf profiadol yn y DU.
Bydd cytundeb masnachfraint CCAF gyda Rubicon yn arwain at gwrs Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 mewn Celfyddydau Perfformio (Dawns) y cwmni dawns yn dod o dan Adran Diwydiannau Creadigol y Coleg. Bydd y cwrs yn parhau i gael ei gyflwyno o gyfleusterau Rubicon yng Nghaerdydd ac yn cael ei arwain gan ddarlithwyr Dawns Rubicon.
Wedi’i sefydlu yn 1976, mae Rubicon Dance yn gwasanaethu cymunedau Caerdydd, Bro Morgannwg a Chasnewydd. Mae’n cyflwyno 150 o sesiynau i ryw 2,000 o bobl yr wythnos ac mae ganddo rôl flaenllaw yn y sector o ran ennill cymwysterau a hyfforddiant galwedigaethol.
Ers 1986, mae Rubicon Dance wedi bod yn cynnig cwrs cyn-alwedigaethol unigryw sy’n paratoi pobl ifanc dalentog o Gymru ar gyfer mynediad i Addysg Uwch a’r prif conservatoires.
Mae myfyrwyr Rubicon yn cwblhau’r Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 mewn Celfyddydau Perfformio (Dawns) i ategu eu hyfforddiant dawns, er mwyn ennill digon o bwyntiau UCAS i gael mynediad i Addysg Uwch.
Dywedodd Dirprwy Bennaeth CCAF, Sharon James: "Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi llunio’r cytundeb yma gyda Rubicon Dance – arweinydd arbennig iawn mewn dawns cymunedol gydag enw rhagorol a chwbl haeddiannol. Mae cyflawniadau academaidd ac artistig Rubicon yn siarad drostyn nhw eu hunain gyda chymaint o’u myfyrwyr yn cael llefydd yn rhai o brif conservatoires y wlad, gan gynnwys Laban, Northern Contemporary, London Student a Rambert.
“Ar hyn o bryd mae’r Coleg yn ehangu’r amrywiaeth o gyrsiau rydyn ni’n eu cynnig yn ein Hadran Diwydiannau Creadigol ac felly rydyn ni’n falch iawn o fod wedi creu’r cytundeb masnachfraint yma gyda Rubicon Dance.”
Dywedodd Kathryn Williams, Cyfarwyddwr Rubicon Dance: "Mae Rubicon wedi bod yn cynnal cwrs llawn amser i ddawnswyr ifanc talentog ers 1986 ac, yn unigryw, rydyn ni’n ei gyflwyno mewn amgylchedd dawns proffesiynol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae 100% o’n dysgwyr ni wedi symud ymlaen i conservatoires ac ysgolion dawns mwyaf blaenllaw y DU.
“Mae ein dull ni o weithio’n golygu bod y dysgwyr yn meithrin sgiliau technegol, creadigol a pherfformio ar y lefel uchaf, yn ogystal â’r cymwysterau hanfodol er mwyn llwyddo yn y sector dawns. Mae gan Goleg Caerdydd a’r Fro enw rhagorol am ddarparu hyfforddiant ac addysg sy’n uniongyrchol berthnasol i fyd gwaith ac fel un o’r cyflogwyr mwyaf ar gyfer dawns, rydyn ni wrth ein bodd yn cael dod â’r cwrs uchel ei barch yma o dan ymbarél y Coleg.
“Rydyn ni hefyd yn gyffrous am y cyfleoedd ar gyfer cynnydd y dysgwyr y bydd ein partneriaeth newydd ni gyda Choleg Caerdydd a’r Fro’n eu cynnig, gyda chynlluniau ar gyfer ymestyn ein hamrywiaeth o ddarpariaethau dawns achrededig ar droed yn barod. Mae cynlluniau Rubicon ar gyfer y dyfodol yn cynnwys creu gofod stiwdio ychwanegol ar safle’r hen Lyfrgell yn y Rhath ar Heol Casnewydd, Caerdydd, ac rydyn ni’n gweld Coleg Caerdydd a’r Fro fel partner allweddol yn yr ehangu yma.”