Mae Coleg Caerdydd a’r Fro a Changen Cefnogi Personél (AD) yr Awyrlu Brenhinol wedi dod at ei gilydd er mwyn lansio menter ddysgu newydd ar gyfer personél gwasanaethu’r RAF, yn aelodau cyson ac wrth gefn.
Bydd y Coleg yn cyflwyno rhaglen gan y Sefydliad Siartredig ar gyfer Datblygiad Personél (CIPD) o gyrsiau adnoddau dynol (AD) ar gyfer yr RAF ledled y DU. Bydd y cyrsiau dysgu cyfun yn cynnwys dysgu o bell ar-lein a gwersi wyneb yn wyneb gyda darlithwyr y Coleg sy’n arbenigwyr yn eu diwydiant.
Mae Tystysgrif Lefel 5 CIPD mewn Rheoli Adnoddau Dynol ar gyfer Personél Milwrol yn cynnig llwybr hyblyg at gymhwyster proffesiynol a gydnabyddir yn eang sy’n gallu arwain at aelodaeth o’r CIPD. Mae’n rhan o ymrwymiad yr RAF i ddarparu datblygiad gyrfaol i bersonél sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd a hefyd i roi hwb i gymwysterau ar ôl gwasanaethu y rhai sy’n gadael yr RAF.
Yn ychwanegol at ddarpariaeth graidd y cwrs drwy wersi ar-lein neu wyneb yn wyneb, gall myfyrwyr archebu sesiynau tiwtorial pwrpasol gyda thiwtor eu cwrs ar Skype, Face Time neu dros y ffôn, i gefnogi pob modiwl. Mae’r dull hyblyg o weithio’n golygu bod posib cwblhau’r cwrs dros gyfnod o ddwy flynedd, neu mewn cyn lleied ag wyth mis.
Dywedodd Cynghorydd Cangen Cefnogi Personél yr RAF, yr Is-Gyrnol Steve Parkes, HonDUniv, FCIPD Siartredig: “Drwy gydol ei 100 mlynedd mae’r RAF wastad wedi bod yn flaenllaw mewn datblygiadau technolegol. Mae’r oes ddigidol yn gyfle unigryw ar gyfer dysgu, a thrwy wneud y defnydd mwyaf effeithiol posib o dechnoleg fodern a llwyfannau darparu TG, gall ein personél ni ddilyn cymwysterau safonol ym mhob cam o’u gyrfa.
“Mae’r ffaith fod y dechnoleg hon yn cynnig hyblygrwydd i’n personél ni yn bwysig; maen nhw’n gallu dewis pryd, sut a pha mor gyflym maen nhw’n cwblhau eu hastudiaethau. Rydw i’n hynod falch felly bod y trafodaethau gyda Choleg Caerdydd a’r Fro wedi gallu lansio cwrs achrededig CIPD gyda Thystysgrif Lefel 5 mewn Rheoli Adnoddau Dynol.
“Mae astudio cymwysterau lefel uwch nid yn unig yn gwella cymwysterau proffesiynol yr unigolyn, a thrwy hynny ei allu i sicrhau dealltwriaeth ehangach o bolisïau ac arferion AD sy’n esblygu wrth wasanaethu yn y fyddin, ond hefyd mae’n darparu sgiliau AD trosglwyddadwy gwerthfawr ar gyfer pontio i’r sector preifat. Hoffwn ddiolch i CCAF am eu cyswllt positif, eu parodrwydd i ddeall gofynion y fyddin heddiw a’u hyblygrwydd wrth deilwra’r cwrs i sicrhau’r budd gorau posib i’r Fasnach a’r Gangen Cefnogi Personél (AD).”
Dywedodd Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Rydyn ni’n hynod falch o fod yn gweithio gyda’r RAF – mae creu’r bartneriaeth yma yn ystod eu Blwyddyn Canmlwyddiant yn anrhydedd enfawr i ni. Yn y Coleg rydyn ni’n deall yr angen am ddatrysiadau dysgu hyblyg a bydd y gymysgedd o ddysgu o bell a sesiynau wyneb yn wyneb mae’r cwrs CIPD Lefel 5 yma’n eu cynnig yn helpu personél yr RAF i ennill eu cymwysterau yn y ffordd fwyaf addas iddyn nhw yn unigol, o ran amser a chamau.
“Mae’n gyffrous helpu tîm AD yr RAF i fod yn fwy proffesiynol a dysgu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r adnoddau a fydd yn cefnogi’r gwasanaeth. Hefyd bydd y cymhwyster CIPD a’r aelodaeth bosib yn cynyddu eu cyfleoedd i ddatblygu a gwneud cynnydd yn yr RAF a’r tu allan iddo.”