Mae myfyrwyr o Goleg Caerdydd a’r Fro wedi ennill y wobr gyntaf, a’r ail a’r drydedd wobr, yng Ngwobrau Myfyrwyr Blynyddol Grŵp Celf Y Bontfaen.
Yr enillydd oedd Miri Hughes o Gaerdydd, a enillodd dystysgrif y wobr a £75 am greu llyfr dwyieithog yn edrych ar y chwedl werin Gymreig Blodeuwedd o’r Mabinogion. Roedd y gwaith yn cynnwys gwaith digidol a darluniadau mewn llyfr a argraffwyd, ac arddangoswyd posteri o’r tudalennau yn yr arddangosfa.
Mae Miri wedi llwyddo i gwblhau ei Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio yn CCAF ac mae wedi symud ymlaen i radd BA (Anrh) mewn darlunio yn Ysgol Gelf Prifysgol Y Drindod Dewi Sant, Abertawe.
Aeth yr ail wobr o £50 i fyfyriwr arall sy’n astudio Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio, Nikolett Kovacs o’r Barri, am ei delweddau staen-baentio pwerus yn edrych ar gyflyrau emosiynol a meddyliol. Ar ôl llwyddo i gwblhau ei chwrs, mae Nikolett wedi symud ymlaen i astudio am BA (Anrh) mewn Celfyddyd Gain ym Met Caerdydd.
Enillodd Ada Pumput, hefyd o’r Barri, y drydedd wobr o £25, ar ôl gweithio’n galed i greu llestri cerameg cadarn, ar raddfa fawr, yn astudio ac yn datblygu ei phryderon personol. Astudiodd Ada am Ddiploma Sylfaen mewn Cerameg yn CCAF ac mae yn ei thrydedd flwyddyn, a’r olaf, ym Met Caerdydd yn ychwanegu at ei chymhwyster i ennill gradd BA (Anrh) lawn mewn Cerameg.
Dyfarnwyd y gwobrau ar ôl cynnal arddangosfa’r Coleg, ‘Cerrrig Milltir’, yn yr Old Hall Gallery yn y Bontfaen.
Dywedodd Darlithydd Celf a Dylunio CCAF, Adrian Metcalfe: **“Pwysleisiodd y panel beirniaid pa mor anodd oedd dod i benderfyniad oherwydd safon uchel yr holl waith oedd yn cael ei arddangos. Roedden nhw’n teimlo bod y myfyrwyr i gyd yn haeddu canmoliaeth a bod y sioe’n dangos lefel uchel o allu ar draws cyrsiau Celf a Dylunio Coleg Caerdydd a’r Fro.
“Roedd proffesiynoldeb y dysgwyr wrth gyflwyno eu gwaith wedi gwneud argraff fawr, yn ogystal ag amrywiaeth y pynciau a astudiwyd ganddyn nhw. Dywedodd y beirniaid bod yr arddangosfa’n cynrychioli ansawdd y cyrsiau a gynigir yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro a chryfder y tîm addysgu.” **