Mae Llu Cadetiaid Cyfun (CCF) Coleg Caerdydd a’r Fro wedi dod yn aelod o Gatrawd Trafnidiaeth 157 (Cymru) y Corfflu Logisteg Brenhinol.
Gweithredwyd yr aelodaeth mewn seremoni arbennig ym Marics Maendy yng Nghaerdydd, cartref Catrawd 157 (Cymru) y Corfflu. Mae’r CCF yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau heriol, anturus ac addysgol i bobl ifanc, er mwyn datblygu cyfrifoldeb personol, arweinyddiaeth a hunanddisgyblaeth.
Dywedodd Comander CCF a Darlithydd Gwasanaethau Cyhoeddus yn CAVC, Tom Jones: “Yn CCF y Coleg rydyn ni’n hybu’r Lluoedd Arfog a’r gwaith maen nhw’n ei wneud. Fedrwn ni ddim gofyn am well noddwr na Chatrawd Trafnidiaeth 157 (Cymru). Mae ei hethos teuluol a’i hymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol ac ymgysylltu cymunedol yn adlewyrchu cenhadaeth y Coleg ei hun.
“Bydd y CCF yn rhan greiddiol o raglen gyfoethogi’r Coleg, gan gynnig profiad ar thema filwrol, hyfforddiant sgiliau, cymwysterau galwedigaethol a chyfleoedd nad ydyn nhw ar gael yn hwylus y tu allan i’r Coleg – a’r cyfan yn datblygu cyflogadwyedd ymhlith y dysgwyr. Fe fyddwn ni’n gweithio’n agos gyda 157 i greu perthynas broffesiynol sy’n gweithio nid yn unig gyda’n myfyrwyr ni, ond hefyd aelodau’r staff a’r ddarpariaeth addysg a hyfforddiant yn y dyfodol.”
Dywedodd Prif Swyddog Catrawd Trafnidiaeth 157 (Cymru), Lefftenant-Cyrnol Marcie Madams: “Fel y Prif Swyddog rydw i’n eithriadol falch o weld Catrawd 157 (Cymru) y Corfflu’n creu cyswllt â Choleg Caerdydd a’r Fro. Fel mae Tom, Comander y Llu, wedi dweud, bydd y CCF yn gyfle i’r myfyrwyr feithrin cadernid a hunanhyder wrth ddatblygu eu sgiliau arwain a gyda’n gwerthoedd ni ar y cyd, fe fyddwn ni’n rhan allweddol o hynny.
“Rydw i’n credu’n gryf bod y rhai sy’n aelodau o CCF i’w gweld yn unigryw yng nghanol eu cyfoedion ac rydyn ni yn y Gatrawd yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Choleg Caerdydd a’r Fro i wneud i hyn ddigwydd. Mae sefydliad y Cadetiaid yn ymgysylltu, grymuso ac ysbrydoli ac mae’n fraint gallu cefnogi CCF y coleg wrth iddo siapio dyfodol ein pobl ifanc ni.”