Bydd prentis Gosodiadau Trydanol yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, Tom Lewis, yn ymuno â goreuon dysgwyr ifanc y DU wrth iddo deithio i Budapest i rowndiau terfynol EuroSkills yn nes ymlaen yn ystod y mis yma.
Anogwyd Tom a gweddill Tîm y DU i “Wneud eu gwlad yn falch” mewn derbyniad Seneddol cadarnhaol a fynychwyd gan y Gweinidog ar gyfer Prentisiaethau a Sgiliau, Anne Milton AS.
Mae Tîm y DU – 22 o brentisiaid a myfyrwyr elitaidd y DU sy’n gweithio yn y diwydiannau peirianneg, digidol, adeiladu a phroffesiynol – yn wynebu cystadleuaeth hynod heriol wrth ddod wyneb yn wyneb â goreuon y Cyfandir.
Mae Tom Lewis, sy’n un ar hugain oed ac yn dod o Faesteg, wedi cael cefnogaeth drwy gydol proses WorldSkills gan ei gyflogwyr, Blues Electrical, a’i diwtor Gosodiadau Trydanol yn CAVC, Geoff Shaw. Cyllidir y Rhaglen Prentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Dywedodd Dr Neil Bentley, Prif Weithredwr WorldSkills UK, sy’n dewis ac yn datblygu Tîm y DU gyda hyfforddiant, mentora a phrofiadau cystadleuol dwys, wrth y rhai oedd wedi ymgynnull ar Deras Tŷ’r Cyffredin bod y wlad yn cyrraedd cyfnod arwyddocaol yn ei hanes.
Dywedodd: “Tîm y DU, ewch a gwnewch eich gwlad yn falch ohonoch chi – mae hon yn foment fawr i’n cenedl ni!
“Gyda Brexit ond fisoedd i ffwrdd nawr, rhaid i ni feincnodi sgiliau ein pobl ifanc ni yn erbyn goreuon gweddill yr UE. Dim ond drwy roi pobl ifanc ar brawf mewn amgylchedd cyfyngedig gan amser yn erbyn y safonau uchaf fyddwn ni’n gwybod a ydyn ni’n datblygu’r lefelau sgiliau rydyn ni eu hangen yn y DU i roi hwb i gynhyrchiant, cystadlu’n economaidd a denu buddsoddiad mewnol i helpu i greu swyddi ar gyfer y dyfodol. A thrwy fuddsoddi yn ein pobl ifanc ni fyddwn ni’n datblygu’r sgiliau yma i’r lefelau uwch sy’n ofynnol.”
Mae aelodau Tîm y DU wedi treulio isafswm o ddwy flynedd i gyd mewn hyfforddiant dwys yn ennill cystadlaethau rhanbarthol a chenedlaethol, gan fynd drwy brosesau dewis tîm llym a misoedd o hyfforddiant cynyddol – i gyrraedd safon ryngwladol.
Dywedodd Anne Milton, y Gweinidog ar gyfer Prentisiaethau a Sgiliu: “Chi ydi’r dyfodol, rydych chi’n cynrychioli ein gwlad ni – ac yn ein gwneud ni’n falch.
“Rydyn ni’n symud i fyd lle nad ydi o ble rydych chi’n dod mor bwysig, na’r ffaith eich bod chi wedi bod mewn prifysgol ai peidio – yr hyn sy’n bwysig ydi pa sgiliau allwch chi eu cynnig i gyflogwr a’i helpu i fod yn fwy cynhyrchiol.
“Ymweld â Chystadleuaeth WorldSkills y llynedd oedd un o brofiadau mwyaf anhygoel fy mywyd i. Mae’n ymwneud â dygnedd a dewrder – ar ôl cyrraedd yno, dydych chi ddim yn gadael i unrhyw beth eich rhwystro chi – chi ydi’r gorau.”