Dathlu Rhagoriaeth Staff yng Ngwobrau Staff CCAF 2018

31 Awst 2018

Cyn i’r Coleg gau ar gyfer gwyliau’r haf, dathlodd CCAF ei drydydd Gwobrau Staff blynyddol – cyfle i gyflogwyr, eu cyfeillion a’u teuluoedd ddod at ei gilydd o ar draws y Coleg. Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn dathlu cyflawniad staff, yn cydnabod y rheiny sy’n mynd y tu hwnt i wneud i CCAF lwyddo fel y mae a gwella siwrnai dysgwyr. Enwebwyd staff ar gyfer eu gwobrau gan eu cydweithwyr. Enillodd y Cydlynydd Entrepreneuriaeth a Chyfoethogi, Lisa Anne Jones, y Wobr Seren y Dyfodol am y cyfleoedd y cymerai i ddatblygu a thyfu o fewn ei rôl. Cydlynodd Lisa berfformiad cerddorol cyntaf erioed y Coleg – We Will Rock You – a dan ei chyfarwyddyd hi aeth 20 o ddysgwyr ymlaen i dderbyn Gwobr Cyflawniad Ieuenctid Lefel Platinwm gan Youth Cymru. Aeth y Wobr Cyflogai Rhagorol i’r Swyddog Lles, Jameela Muckbill, am ei gwaith yn goruchwylio rhai o’r myfyrwyr mwyaf heriol yn y Coleg. Dyfarnwyd y wobr hon i Jameela am ganmoliaeth a pharch bob Prentis Iau ohoni a’i thrugaredd tuag atynt. Enillodd y Rheolwr E-Ddysgu, Hannah Mathias, y Wobr Arloesedd am ei rôl annatod yn ysgogi trawsffurfiad digidol ar draws y Coleg. Mae Hannah wedi cyflwyno’r llwybr Addysgwr Arloesol Microsoft ac wedi ymgysylltu â staff mewn nifer o arbrofion TEL i archwilio ac annog y defnydd o dechnolegau i wella addysgu a dysgu. Arwr Di-glod y Coleg am 2018 oedd Ymgynghorydd Gwasanaethau Cwsmer, Margaret Cunningham. Wedi’i lleoli’n flaenorol ym Mharc Busnes Eastern ond bellach ar Gampws Cymunedol Eastern, mae Margaret yn boblogaidd iawn gyda staff a myfyrwyr a chwaraeodd rôl allweddol yn gwneud y trawsnewidiad i’r amgylchedd gweithio a dysgu newydd mor esmwyth â phosibl i bawb. Enillodd y Tîm Iechyd a Gofal Gwobr Tîm y Flwyddyn, hefyd yn rhannol am ei rôl ganolog yn y trawsnewidiad i Gampws Cymunedol Eastern. Hefyd, cydnabuwyd y tîm am ei ffocws ar y dysgwyr ac ansawdd eu dysg a’r modd mae’r cwbl ohonynt yn gweithio gyda’i gilydd gyda natur gadarnhaol a brwdfrydig bob amser. Aeth y Wobr Rhagoriaeth mewn Ymgysylltiad Allanol i’r Tîm REACH. Prosiect peilot hynod lwyddiannus sy’n ymgysylltu â nifer o sefydliadau allanol yn ddyddiol, mae REACH yn ymddwyn fel pwynt atgyfeirio i’r holl sefydliadau ar draws Caerdydd, gan gysylltu holl bartneriaid darparu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL). Enillodd y darlithwyr Geoff Shaw, Emma Fussell, Victoria Jenkins, Linda Burns, Huw Thomas a Rio Judson Wobrau Rhagoriaeth Addysgu. Mae’r gwobrau hyn yn cydnabod yr aelodau o staff academaidd sydd wedi arddangos ymarferion rhagorol yn eu haddysgu a’u dysgu dros y 12 mis diwethaf. Enillwyd y Wobr Arweinyddiaeth Ragorol gan y Darlithydd Dyniaethau, Allison Owen-Jones, am iddi roi myfyrwyr wrth galon yr hyn y gwnâi bob tro a’i gwaith yn arwain tîm i sicrhau bod mwy o ddysgwyr yn cyflawni eu cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Enillodd y Darlithydd Cyfrifeg, Mike Webster, y Wobr Gweithgarwch Ysgolheigaidd am ei waith yn datblygu ei wybodaeth a’i ddealltwriaeth broffesiynol o’i swydd. Mae’r wobr yn cydnabod rhagoriaeth Mike o ran dilyniad academaidd a’i Wobr Cyflawniad Oes diweddar gan AAT. Cyflwynwyd Pennaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Lles, James Donaldson, â Gwobr y Pennaeth. Mae James wedi bod yn allweddol yn ysgogi trawsffurfiad ar draws y Coleg mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys trefnu digwyddiadau megis Teachmeets ac annog staff i feddwl y tu hwnt i’r ffiniau arferol o ran addysgu a dysgu a gwella perfformiad. Mae’r gefnogaeth y darpara hefyd yn sicrhau bod y Coleg yn cefnogi ei unigolion i ddatblygu a gwella eu sgiliau a chyfleoedd bywyd. Roedd y seremoni Wobrwyo hefyd yn cydnabod cyflawniadau Gwobrau Dewis y Dysgwyr eleni, fel y pleidleisiwyd gan ein myfyrwyr. Dyma nhw: Aelod o Staff Nad yw’n Addysgu, Mary Davies, Darlithydd y Flwyddyn, Darren Oakley a Chynorthwyydd Addysgu’r Flwyddyn, Andrew Evans. Yn olaf, cyflwynodd Mike James Wobr y Prif Weithredwr i’r Adran Farchnata a Chyfathrebu, a oedd yn dipyn o sioc gan eu bod wedi trefnu’r gwobrau heb unrhyw syniad o’r hyn yr oedd Mike yn ei drefnu. ![](/-/media/news/2018-pics/2018-08-31-staff-awards-2.ashx)