#SiaradDysguByw – Coleg Caerdydd a’r Fro yn falch o fod yn rhan o’r Eisteddfod

17 Awst 2018

Roedd Coleg Caerdydd a’r Fro yn #falch o fod yn rhan o’r Eisteddfod ym Mae Caerdydd eleni.

Roedd staff a myfyrwyr y Coleg wrth eu bodd yn gweithio ar stondin yn y Maes ble rhannodd y cwbl ymrwymiad CCAF i’r iaith Gymraeg, yn cynnal gweithgareddau hwyliog i’r teulu cyfan. Fel y coleg mwyaf yng Nghymru, mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn angerddol ynghylch cyfleoedd cynyddol i #SiaradDysguByw yn Gymraeg.

Gwelodd y strwythur newydd eleni y Maes yn cael ei daflu’n agored i’r cyhoedd yn rhad ac am ddim. Rhoddodd hyn y gallu i Goleg Caerdydd a’r Fro ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd posib ymysg y dyrfa enfawr o siaradwyr Cymraeg a Saesneg a ddaeth draw i weld sut beth yw’r Eisteddfod.

Ymwelodd miloedd o bobl, gan gynnwys gwleidyddion ac enwogion megis Jason Mohammad ac Arweinydd Cyngor Caerdydd y Cyng. Huw Thomas, â stondin CCAF a chymryd rhan mewn ystod o weithgareddau dwyieithog hwyliog a gynhaliwyd gan staff a myfyrwyr a oedd yn adlewyrchu ymrwymiad y Coleg i ddiwylliant Cymreig, ac ethos a chyfleoedd yr iaith Gymraeg.

O wneud bathodynnau ysbrydoledig i addurno bisgedi gyda Darlithydd Coginio o’r Dosbarth, adrodd straeon yn ddwyieithog gyda myfyrwyr y Celfyddydau Perfformio a heriau robotau Lego i ddangos ymrwymiad y Coleg i dechnoleg newydd, gwnaeth nifer fawr o bobl fwynhau drwy ddysgu bod CCAF yn rhoi’r iaith Gymraeg wrth galon popeth a wnânt. Cafwyd help hefyd gan y cyhoedd hefyd i feicio 145 milltir i leoliad nesaf yr Eisteddfod yn Llanrwst ar feiciau ymarfer fel rhan o ymrwymiad y Coleg i les.

Roedd cystadleuaeth cyfryngau cymdeithasol, ble gallai pobl rannu eu lluniau gyda’r hashnod #SiaradDysguByw ac ennill taleb £50 i Ganolfan Dewi Sant, hefyd yn llwyddiant ysgubol, gyda 60,000 o bobl yn gweld yr ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Kay Martin: “Fel y coleg mwyaf yng Nghymru, yn CCAF rydym yn angerddol ynghylch Cymru a’r iaith Gymraeg. Credwn mewn creu cyfleoedd i bawb siarad, dysgu a byw yn Gymraeg ac mae’r ymrwymiad hwn wrth galon ein cwricwlwm.

“Roedd cael yr Eisteddfod ym Mae Caerdydd, ble roedd yn rhad ac am ddim i bawb, yn gyfle gwych i ni gyrraedd y cymunedau cyfrwng Cymraeg a Saesneg a dangos iddynt y gallwn eu cefnogi i siarad, dysgu a byw yn Gymraeg.”