Coleg Caerdydd a’r Fro yn ennill Marc Gyrfa Cymru am ei ymrwymiad i gyflogadwyedd

14 Awst 2018

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi ei wobrwyo am ei ymrwymiad i baratoi myfyrwyr ar gyfer y byd gwaith.

Mae’r Coleg wedi ennill Marc Gyrfa Cymru. Bwriad y wobr yw cydnabod ymrwymiad i wella ansawdd parhaus mewn sefydliadau addysgiadol i gwrdd â gofynion Llywodraeth Cymru a nodwyd yn y cyhoeddiad Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith: fframwaith i bobl ifanc 11 i 19 oed yng Nghymru.

Mae Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith wedi’i gynllunio i gyfarparu pobl ifanc â’r sgiliau y bydd eu hangen arnynt i reoli eu bywyd gwaith pa un ai ydynt yn gadael addysg yn 16, 18 neu’n 21 oed. Mae’n tynnu sylw at bwysigrwydd y wybodaeth a’r ddealltwriaeth ddiweddaraf o arferion gweithio fel y gall pobl wneud dewisiadau effeithiol ynghylch eu gyrfa.

Cynigia’r Coleg ystod o opsiynau i baratoi’r dysgwyr ar gyfer y byd gwaith, gan gynnwys y rhaglen Career Ready, lleoliadau profiad gwaith a mentora, adeiladu CV a chyngor ynglŷn â gyrfa a chlybiau myfyrwyr. Mae Ymgynghorwyr Gyrfa yn darparu gwasanaeth cefnogi dilyniant ac mae’r tîm Menter yn cynnig arweiniad a chefnogaeth i entrepreneuriaid ifanc sydd eisiau dechrau eu busnes eu hunain.

Dywedodd Dirprwy Bennaeth CAVC, Sharon James: “Rydym yn hynod falch o gyflawni Marc Gyrfa Cymru oherwydd yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, nid ydym eisiau bod yn ffatri cymwysterau sy’n creu pobl sydd â’r darnau o bapur cywir ond heb unrhyw syniad ynghylch y byd gwaith. Byddai’n well gennym weithio’n galed i fod yn beiriant sgiliau, yn creu pobl ifanc cyflogadwy, mentrus sydd â dawn entrepreneuraidd i gynnig gwerth uniongyrchol i unrhyw gyflogwr.”

Dywedodd Nikki Lawrence, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru: “Mae hwn yn gyflawniad rhagorol ac yn arddangosiad clir bod dysgwyr yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i’w cynorthwyo i ymchwilio yn effeithiol i’w llwybrau gwaith a dysgu ar gyfer y dyfodol ac i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â gyrfa.

“Mae derbyn Marc Gyrfa Cymru yn arddangos bod y Coleg yn ymrwymedig i’r safon uchaf posibl o addysgu gan roi sgiliau gwerthfawr i’r disgyblion ar gyfer y dyfodol.”