Mae Coleg Caerdydd a’r Fro a Perismmon Homes wedi dod ynghyd i sefydlu cynllun newydd, o’r enw’r Academi Hyfforddi, i fynd i’r afael â’r prinder sgiliau yn niwydiant adeiladwaith cynyddol De Cymru.
Gan weithio mewn partneriaeth â Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB), mae’r Coleg a Persimmon yn lansio menter newydd yr Academi Hyfforddi. Gyda’r Fargen Ddinesig sydd ar droed, bydd 40,000 mwy o dai yn cael eu hadeiladu ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn unig, ac roedd Persimmon eisiau achub y blaen ar unrhyw brinder sgiliau drwy sicrhau bod gweithlu eisoes yn ei le.
Bydd Academi Hyfforddi Persimmon Homes PLC yn gweld un o’r adeiladwyr tai mwyaf yn y DU yn meithrin ei dalent ei hun – yn recriwtio ar gyfer ei raglen prentisiaeth ac yn gwella sgiliau’r staff sydd ganddynt eisoes.
Dywedodd Adam James, Meistr Prentisiaethau yn Persimmon Homes: “Rydym yn falch o gynyddu ein darpariaeth prentisiaeth yn sylweddol yn 2018. Roeddem eisiau arwain o’r tu blaen fel adeiladwr tai a gweithio gydag un o golegau mwyaf blaenllaw De Cymru, felly CAVC oedd y dewis amlwg.
“Gan fabwysiadu meddylfryd ‘hyfforddi i gynnal’, bu i ni ddewis cynnig prentisiaethau i gael sicrwydd swydd, gan arddangos ymrwymiad Persimmon i grefftwyr y dyfodol, gan roi’r cyfle i bawb i ddatblygu gyrfa yn y maes adeiladwaith.”
Dywedodd Ian Cowell, Deon Technoleg a Diwydiannau Creadigol Coleg Caerdydd a’r Fro: “Rydym yn hynod o falch o gael gweithio gyda Perismmon - cwmni sy’n croesawu hyfforddiant fel grym cadarnhaol yn nhwf busnes. Mae’r diwydiant adeiladu yn Ne Cymru yn ffynnu a gall adeiladwyr tai gael trafferth llenwi’r nifer cynyddol o swyddi gwag, felly mae gweithio mewn partneriaeth â Persimmon a’r CITB i fynd i’r afael â’r mater hwn yn cyd-fynd yn berffaith ag ymrwymiad y Coleg i weithio gydag ac ar gyfer cymunedau ac economi’r rhanbarth.”
Ariennir prentisiaethau gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.