Prentisiaid Iau yn graddio o Goleg Caerdydd a’r Fro

8 Awst 2018

Mae’r ail garfan o bobl ifanc 14 – 16 mlwydd oed a gafodd y cyfle i drawsnewid eu bywydau drwy lwybr gyrfa galwedigaethol arloesol yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro wedi dathlu cwblhau eu cyrsiau’n llwyddiannus.

Daeth ffrindiau, teulu a thiwtoriaid i ddathlu â Phrentisiaid Iau Blwyddyn 11 CAVC a chynhaliwyd Seremoni Raddio a Gwobrwyo arbennig yng Nghampws Canol y Ddinas y Coleg. Cyflwynwyd tystysgrifau graddio i’r disgyblion Blwyddyn 11 yn ystod y seremoni.

Dywedodd Kay Martin, Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro: “Mae wedi bod yn anrhydedd cael sefyll ar lwyfan a dathlu llwyddiannau gwych ein Prentisiaid Iau – mae pob un ohonynt wedi gweithio mor galed eleni ac wedi dod yn bell iawn. Mae wedi bod yn daith hir ond werth pob eiliad i weld beth mae’r bobl ifanc hyn wedi ei gyflawni.”

Ychwanegodd Sharon James, Dirprwy Bennaeth CAVC: “Dyma ail flwyddyn ein rhaglen Prentisiaethau Iau. Mae’n brosiect arloesol – y cyntaf o’i fath yng Nghymru ond mae wedi bod mor llwyddiannus nes bod colegau eraill yn ein dilyn.

“Ac mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol! Mae gennym 79 o ddysgwyr wedi cofrestru ar hyn o bryd, ac mae 35 ohonynt yn ddisgyblion Blwyddyn 11 a fydd yn symud yn eu blaenau ar ôl graddio.”

Mae wyth o’r Prentisiaid Iau yn mynd ymlaen i gyflawni hyfforddeiaethau gyda ACT, tra mae 17 yn mynd ymlaen i astudio cyrsiau ôl-16 yn CAVC. Mae dau yn mynd ymlaen i gyflawni prentisiaethau llawn, mae un wedi cael gwaith gyda DPD ac mae un wedi cael cyfweliad gan Brains. Mae saith arall ar hyn o bryd yn ceisio am swyddi ym meysydd Lletygarwch, Saernïaeth, ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Yn rhan o’r seremoni raddio roedd seremoni wobrwyo. Enillodd Lewis Cook, sy’n 16 mlwydd oed o Gaerdydd Wobr Prentis Iau y Flwyddyn.

“Rwy’n hapus ac mewn sioc braidd,”
dywedodd Lewis. “Nid oeddwn yn disgwyl cael unrhyw wobr o gwbl.”

“Mae’r rhaglen Prentisiaethau Iau wedi bod yn ardderchog – mae wedi bod yn amser gwych llawer gwell nag ysgol uwchradd. Mae wedi helpu mwy nag oeddwn yn ei ddisgwyl. Rwyf wedi cael cyfnod prawf mewn tafarn ac mae wedi fy helpu i sylweddoli fy mod eisiau parhau â fy niddordeb mewn Arlwyo a Lletygarwch – dyma’r maes y hoffwn weithio ynddo.

“Heb amheuaeth, byddwn yn argymell y rhaglen Prentisiaethau Iau. Os ydych yn cael trafferth yn yr ysgol byddwn yn dweud ‘Ewch amdani’ oherwydd mae wedi gweithio i mi ac wedi bod yn brofiad gwell nag ysgol.”

Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: “Llongyfarchiadau i’r holl brentisiaid iau sy’n graddio o’r cwrs Coleg Caerdydd a’r Fro, yn enwedig Lewis am ei wobr Prentis Iau y Flwyddyn. Llongyfarchiadau hefyd i’r coleg am lwyddiant eu rhaglen arloesol. Nid yw addysg draddodiadol yn addas i bawb ac mae’r cynllun hwn yn cynnig dewis arall yn lle’r ysgol i bobl ifanc 14-16 mlwydd oed ac yn sicrhau eu bod yn parhau mewn addysg llawn amser – gyda chanlyniadau gwych fel mae carfan eleni wedi ei ddangos.”

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: “Rwy’n falch iawn o weld llwyddiant y cynllun Prentisiaethau Iau am yr ail flwyddyn yn olynol.

“Mae’n hanfodol ein bod yn cynnig dewis pan mae hi’n dod i ddysgu a datblygu, ac ers iddo gael ei gyflwyno, mae’r cynllun Prentisiaethau Iau wedi bod o fudd mawr i’r bobl ifanc hynny yng Nghaerdydd sy’n chwilio am lwybrau eraill i gyflogaeth lawn amser, lwyddiannus.

“Rydym eisiau sicrhau bod gan bob plentyn a pherson ifanc yn y ddinas fynediad at gyfleoedd hyfforddiant, cyflogaeth, neu addysg bellach. Mae’r Cynllun Prentisiaethau Iau, a gynigir gyda’n hysgolion, Llywodraeth Cymru a Choleg Caerdydd a’r Fro, yn chwarae rhan bwysig yn ein helpu i gyflawni hyn.”

Mae’r rhaglen Prentisiaethau Iau, a ariennir ar y cyd gan CAVC, Cyngor Caerdydd, Llywodraeth Cymru ac Ysgolion Caerdydd wedi ei dylunio i gynyddu’r nifer o bobl yn y rhanbarth sydd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Mae’n cynnig y cyfle i bobl ifanc astudio’n llawn amser mewn amgylchedd coleg o dan arweiniad athrawon cymwys y diwydiant mewn cyfleusterau galwedigaethol arbenigol ac amgylcheddau gwaith go iawn wrth barhau i sefyll TGAU mewn Saesneg a Mathemateg.

Yn 2017 enillodd CAVC Wobr Beacon Cymdeithas y Colegau am y rhaglen Prentisiaethau Iau.