Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn falch o fod yn Gymraeg – ac mae’r coleg mwyaf yng Nghymru yn edrych ymlaen at gynnal ystod eang o gyfleoedd cyffrous a hwyliog i’r teulu cyfan yn yr Eisteddfod.
Mae CAVC, sy’n angerddol dros Gymru, yn credu mewn datblygu cyfleoedd i bawb siarad, dysgu a byw yn Gymraeg. Mae’r gweithgareddau rydym wedi’u trefnu yn addo hwyl i bawb ac yn adlewyrchu ymrwymiad y Coleg i ddiwylliant Cymru.
Dewch i stondin y Coleg ym Mae Caerdydd a thynnwch lun, naill ohonoch yn cymryd rhan mewn gweithgaredd neu’n defnyddio’r Gymraeg neu’r ategolion hwyliog sydd ar gael. Postiwch y llun ar Twitter neu Instagram gan gynnwys @CAVC neu @cavcinsta a #SiariadDysguByw. Bydd y llun gorau bob dydd yn ennill taleb Dewi Sant gwerth £50 y gellir ei gwario yn un o’r 150 o siopau a bwytai yng Nghaerdydd.
Bydd y digwyddiadau cyffrous yn newid bob dydd – felly dewch i’n gweld, a hynny’n aml! Bydd yna hefyd daflenni gweithgaredd i bobl ifanc fapio eu dyheadau o ran gyrfa a llwyth o roddion a gwybodaeth am y Coleg i’w cael.
Dydd Sadwrn, 4 Awst
Creu bathodyn! Gwerthoedd craidd CAVC yw Ysbrydoledig. Cynhwysol. Dylanwadol. Mae’r Coleg eisiau i bawb deimlo eu bod wedi’u hysbrydoli a chyflawni eu potensial.
Dydd Sul, 5 Awst
Her Feicio – mae’r Coleg yn annog ei holl staff a dysgwyr i ofalu am eu lles, i gynnal ffitrwydd corfforol a meddyliol ar gyfer y dyfodol. Ymunwch â’r Coleg wrth iddo feicio 145 milltir o Gaerdydd i Lanrwst, cartref Eisteddfod 2019. Neidiwch ar gefn eich beic a gallwch ennill bag llawn anrhegion!
Dydd Llun, 6 Awst
Adrodd Straeon yn Ddwyieithog – yn CAVC mae gennym gyrsiau mewn Celf a Dylunio, Ffilm, Ffotograffiaeth, y Cyfryngau Digidol, Cerdd, y Celfyddydau Perfformio a mwy! Mae’r Coleg yn hyrwyddo dwyieithrwydd wrth ddysgu er mwyn cynyddu cyfleoedd gyrfa i fyfyrwyr, felly dewch heibio i wrando ar un ohonynt yn adrodd stori fer!
Dydd Mawrth, 7 Awst
Creu bathodynnau, hunluniau a thaflenni gweithgaredd – yn ogystal â rhoddion am ddim a gwybodaeth am CAVC. Hoffai’r Coleg weld pawb yn defnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol bob dydd.
Dydd Mercher, 8 Awst
Adrodd Straeon yn Ddwyieithog – yn CAVC mae gennym gyrsiau mewn Celf a Dylunio, Ffilm, Ffotograffiaeth, y Cyfryngau Digidol, Cerdd, y Celfyddydau Perfformio a mwy! Mae’r Coleg yn hyrwyddo dwyieithrwydd wrth ddysgu er mwyn cynyddu cyfleoedd gyrfa i fyfyrwyr, felly dewch heibio i wrando ar un ohonynt yn adrodd stori fer!
Dydd Iau, 9 Awst
Dewch i addurno a bwyta Bisged Flasus! Mae gan CAVC Adran Lletygarwch ac Arlwyo o fri a bydd aelodau o staff Cymraeg yr adran yn pobi bisgedi blasu i chi eu haddurno!
Dydd Gwener, 10 Awst
Robotiaid Lego – dewch i wella eich sgiliau digidol wrth fwynhau gyda’r Robotiaid Lego rhaglenadwy hyn.
Bydd taflenni gweithgaredd, rhoddion am ddim a gwybodaeth am Goleg Caerdydd a’r Fro ar gael bob dydd. Felly hefyd y cyfle i ennill £50 wrth dynnu’r hunlun gorau ar ein stondin – felly dewch heibio i weld tîm cyfeillgar y Coleg ac i fwynhau eich hun!