Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi cynnal ei ail seremoni raddio ar gyfer y myfyrwyr sydd wedi dod yn ôl i fyd addysg neu hyfforddiant.
Mae tîm Ehangu Cyfranogiad y Coleg yn darparu cyfleoedd cynnydd amrywiol i bobl ifanc 16 i 19 oed sydd, rywsut neu’i gilydd, heb gyflogaeth, addysg na hyfforddiant (NEET), i roi ail gyfle iddynt. Maent yn cynnwys y rhaglen Fast Forward, sy’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau personol a chymdeithasol, addysg cysylltiedig â gwaith a sgiliau hanfodol, ochr yn ochr ag amrywiaeth o gyfleoedd galwedigaethol sy’n gallu arwain at ‘Basbort at Gynnydd’ unigryw sy’n gwarantu cyfweliad ar gyfer cwrs prif ffrwd yn CCAF.
Mae’r myfyrwyr llwyddiannus wedi cael eu cyfeirio a’u cefnogi efallai gan raglen Ysbrydoli i Gyflawni Cronfa Gymdeithasol Ewrop sy’n darparu cefnogaeth i fyfyrwyr i ddal ati gyda’u hastudiaethau yn y Coleg.
Mae wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus arall i’r dysgwyr Ehangu Cyfranogiad gyda mwy na 90% o’r myfyrwyr wedi cwblhau eu hastudiaethau’n llwyddiannus er bod llawer ohonynt wedi gorfod wynebu a goresgyn heriau personol.
Cafodd y dysgwyr, eu teuluoedd a’u ffrindiau fwynhau perfformiadau gan ddau o fyfyrwyr talentog y Coleg. Mynegodd Shaun Marsden ei safbwyntiau drwy rap a chyflwynodd Solheil Mojaveri berfformiad unigryw yn ei iaith gyntaf, sef Farsi.
Hefyd cafwyd fideos gan y myfyrwyr o’r gwaith maent wedi’i gwblhau yn eu hastudiaethau Cyfryngau Creadigol drwy gyfrwng darpariaeth partner CCAF yn y Weinyddiaeth Bywyd a’r Academi Cyfyngau yng Nghaerdydd.
Yn y Seremoni Raddio, a gynhaliwyd yn Theatr Michael Sheen y Coleg ar ei Gampws yng Nghanol y Ddinas, gwelwyd llawer o’r dysgwyr yn derbyn gwobrau. Aeth y Wobr i’r myfyriwr Mwyaf Ysbrydoledig i Nirjona Akter, sydd wedi symud o’r Eidal i Gaerdydd a gweithio’n eithriadol galed ar ei hastudiaethau ac wedi gwneud cynnydd i Radd Sylfaen mewn Teithio a Thwristiaeth.
Enillodd Solheil Mojaveri y Wobr i Ddysgwr Ehangu Cyfranogiad y Flwyddyn. Ddeunaw mis yn ôl roedd Solheil yn arsylwi sesiwn cerddoriaeth a gyflwynwyd gan y Weinyddiaeth Bywyd tra oedd mewn canolfan i ffoaduriaid yng Nghaerdydd.
Ers hynny, mae ymrwymiad Solheil i’w astudiaethau, gan lwyddo i gael dinasyddiaeth Brydeinig hefyd, wedi bod yn gwbl ysbrydoledig yn ôl y tîm Ehangu Cyfranogiad.
“Ar ôl cyfarfod criw’r Weinyddiaeth Bywyd, fe ddechreuais i geisio gwireddu fy mreuddwyd,” dywedodd Solheil. “Roedd mynd i’r cwrs Technoleg Cerddoriaeth yn gyfle i mi wella fy sgiliau yn y diwydiant cerddoriaeth.
“Rydw i wedi creu fideo cerddoriaeth newydd a chwe thrac newydd. Roedd y digwyddiad cerddorol ar ddiwedd y flwyddyn yn gyffrous iawn ac yn gymhelliant pellach i mi lwyddo. Fe wnes i ddatblygu sgiliau newydd a hefyd gwneud ffrindiau newydd a chael ffocws clir ar beth rydw i eisiau ei gyflawni yn y dyfodol.”
Dywedodd Pennaeth Sgiliau Byw’n Annibynnol ac Ehangu Cyfranogiad CCAF, Wayne Carter: “Mae’r Seremoni Raddio yma’n gyfle gwych i ddathlu cyflawniadau’r myfyrwyr ac mae’r siwrnai bersonol mae’r dysgwyr wedi bod arni wedi bod yn ysbrydoledig yn academaidd ac yn bersonol. Mae’n gyfle gwych i ddathlu eu cyflawniadau, yn enwedig gyda chefnogaeth gan deulu a ffrindiau. Mae llawer o’r myfyrwyr ar ris gyntaf eu hystol addysg a nod y ddarpariaeth sy’n rhoi lle canolog i’r dysgwyr yw archwilio dewisiadau a chynnydd gyrfaol.
“Rydyn ni’n deall bod angen cydweithio er mwyn cefnogi pobl ifanc yn ôl i fyd addysg ac rydyn ni’n ofalus iawn i ddarparu cefnogaeth fugeiliol ochr yn ochr â’r ddarpariaeth academaidd, sy’n cael ei threfnu mewn partneriaeth ar draws y sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Mae hyn yn sicrhau ein bod ni’n gallu adnabod anghenion pobl ifnac yn gynnar wrth ddechrau gweithio a nhw, gan greu darpariaeth arloesol a pherthnasol a sicrhau llwybrau cynnydd i’n myfyrwyr.”
Dywedodd Janine Bennett, Deon Sylfeini Dysgu yn CCAF: “Mae’r seremoni raddio a gwobrwyo’n un o uchafbwyntiau’r calendr blynyddol ac yn gyfle i ddathlu gwaith caled y myfyrwyr drwy gydol y flwyddyn. Mae’n dangos blaenoriaethau ehangach y Coleg fel sefydliad cynhwysol, ysbrydoledig a dylanwadol.
“Mae boddhad y myfyrwyr yn yr adran yn 92% ac mae’r myfyrwyr i gyd yn dweud bod yr addysgu’n dda a’u bod yn dysgu sgiliau i gael swydd neu symud ymlaen i addysg neu hyfforddiant pellach. Mae gan y dysgwyr i gyd bron lwybrau cynnydd ar gyfer y flwyddyn nesaf ac mae ein dull cydweithredol ni o weithredu’n trawsnewid bywydau drwy ddatgloi potensial. Mae hynny’n dangos bod y dysgwyr, y staff a’r partneriaid yn gweithio i geisio canlyniadau gwell i bobl ifanc.”